Yn Dominyddu e-Chwaraeon yng Ngrwpiau Gaeaf y DU am yr Ail Flwyddyn yn Olynol
Mae timau e-Chwaraeon Gwdihŵs Coleg Gŵyr Abertawe wedi ei gwneud hi eto!
Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae’r timau sy’n cynrychioli Valorant, Cynghrair Rocket ac Overwatch ym Mhencampwriaethau Myfyrwyr e-Chwaraeon Prydain wedi bod yn fuddugol a heb eu trechu yn eu camau priodol yng Ngrwpiau Gaeaf y DU, gan gadarnhau eu safle ar frig y cynghreiriau.
Mae Pencampwriaethau Myfyrwyr e-Chwaraeon Prydain, sef un o’r uchafbwyntiau ym myd gemio cystadleuol i fyfyrwyr ysgol a choleg, yn cynnwys dros 700 tîm a 3,000 chwaraewr o bob rhan o’r DU, gan gystadlu mewn teitlau e-Chwaraeon amrywiol.
Mae’r cyflawniad rhyfeddol hwn yn tanlinellu’r sgiliau, yr ymroddiad a’r gwaith tîm sy’n diffinio Gwdihŵs CGA, gan eu gwneud yn bwerdy ar sin e-Chwaraeon colegau’r DU.
Yn ogystal, bu’r Gwdihŵs yn fuddugol yn rowndiau terfynol Cynghrair Rocket a Valorant Cwpanau e-Chwaraeon Ysgolion Cymru a Cholegau, gan guro Cwm Rhymni a Thitaniaid Tudful y naill ar ôl y llall.
“Rydyn ni’n falch dros ben o ennill y tlws,” meddai Dan Davies, darlithydd e-Chwaraeon. “Fe wnaeth Titaniaid Tudful roi gemau anhygoel i ni ond pob clod i’n chwaraewyr ni – roedden nhw’n wych. Mae’r twrnamaint wedi tynnu sylw at amlygrwydd cynyddol e-Chwaraeon a Valorant ym myd addysg, ac rydyn ni’n ddiolchgar tu hwnt i e-Chwaraeon Cymru am gynnal y gystadleuaeth hon.”