Skip to main content

Darlithydd Ffasiwn Lleol yn Gwau 365 o Hetiau ar gyfer pobl Ddigartref Abertawe

Mae Susanne David, Darlithydd amser llawn mewn Ffasiwn yng ngholeg Gŵyr Abertawe yn dangos y gall caredigrwydd a chreadigrwydd wneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau pobl ddigartref. Yn ogystal â’i rôl addysgu heriol, penderfynodd Susanne ymgymryd â her bersonol sy’n mynd y tu hwnt i’w dyletswyddau yn yr ystafell ddosbarth - gwau 365 o hetiau ar gyfer unigolion mewn angen, un het ar gyfer pob diwrnod o’r flwyddyn.

Dechreuodd Susanne yr her yn ei char ar fore rhewllyd ym mis Ionawr, wrth aros i ffenestr flaen ei char ddadmer cyn mentro i’r gwaith. Wrth iddi eistedd yn oerni ei char, fe wnaeth adroddiad newyddion ar y radio ddal ei sylw - cynllun i roi diryw i bobl ddigartref (hyd at £2,500) am gysgu allan. Roedd Susanne yn gynddeiriog o glywed y gallai digartrefedd gael ei drin fel trosedd. Wrth feddwl am unigolion digartref yn cysgu allan mewn amodau rhewllyd, taniodd syniad yn nychymyg Susanne: defnyddio ei doniau mewn tecstilau i wneud gwahaniaeth.

Ar ôl derbyn peiriant gwau cylchol fel anrheg Nadolig, penderfynodd wneud defnydd da iawn ohono drwy ymgymryd â her ‘Blwyddyn o garedigrwydd’: gwau 365 o hetiau ar gyfer y digartref. Gydag un nod mewn golwg, defnyddiodd y cyfryngau cymdeithasol i rannu ei neges, a derbyniodd gymorth yn fuan iawn ar ôl hyn. Roedd teulu, ffrindiau a chydweithwyr Susanne am ei chefnogi, felly fe greodd restr dymuniadau (wish list) ar Amazon i hwyluso gyda chostau gwlân ac ati. Yn dilyn hyn, glaniodd llawer iawn o wlân ar ei stepen drws, diolch i’w chefnogwyr hael.

Fel arwydd o gyfeillgarwch, labelodd Susanne bob het ag enw’r unigolyn a roddodd y gwlân iddi, gan roi neges ar bob het yn atgoffa’r gwisgwyr o’u gwerth.

Ym mis Rhagfyr, bydd Susanne yn rhoi ei chasgliad o 365 o hetiau i Matthew’s House yn Abertawe, sef sefydliad sy’n ymrwymedig i ddarparu lletygarwch diamod i rai o’r unigolion mwyaf agored i niwed yn Abertawe, gan gynnwys pobl sy’n wynebu digartrefedd, problemau iechyd a chaethiwed. Mae Matthew’s House yn ymrwymedig i ddarparu gobaith a thrugaredd i bobl mewn angen. Yn ôl Matthew’s House: “Gall gobaith newid bywydau, gall ein hadfywio a sbarduno ein ffocws, a dyna pam rydyn n’n gwneud ein gorau i ledaenu gobaith.”

Prosiect elusennol gan Elusen Hill Church yw Matthew’s House.

Mae Susanne wedi bod yn cadw cofnod o’i thaith ar y cyfryngau cymdeithasol, gan annog eraill i gyfrannu a’i dilyn. Gallwch ddilyn ei chynnydd a gweld ei gwaith trwy glicio’r linciau isod:

Facebook: facebook.com/365hatsforthehomeless
Instagram: instagram.com/365hatsforthehomeless

Mae hi’n hapus iawn ei bod wedi gwireddu ei phrosiect wrth i’r Nadolig agosáu. Bydd yr hetiau yn cael eu rhoi fel anrhegion i ymwelwyr Matthew’s House, gan gynnig cynhesrwydd a gofal iddynt yn ystod misoedd oer y gaeaf.