Mae Coleg Gŵyr Abertawe’n falch o gyhoeddi digwyddiad arbennig a fydd yn cynnig cyfle unigryw i landlordiaid, asiantau gosod a rheolwyr eiddo gwrdd yn uniongyrchol â’n harbenigwyr tai, gan archwilio llwybrau newydd ar gyfer datblygiad staff.
Bydd Darparu Rhagoriaeth Mewn Eiddo: Meistroli Gosod Preswyl yn cael ei gynnal ar ddydd Mercher, 20 Tachwedd, a bydd yn cynnig cyfle i drafod y sgiliau uwchsgilio diweddaraf sydd ar gael trwy astudio Cymhwyster achrededig Lefel 2 newydd Y Sefydliad Tai Siartredig. Mae’r cymhwyster yn addas ar gyfer unigolion sy’n gweithio mewn rolau gosod preswyl a rheoli eiddo.
Mae’r cymhwyster newydd, Gosod a Rheoli Eiddo Preswyl yn rhaglen chwe mis wedi’i ariannu’n llawn ac mae wedi’i gynllunio i gynnig dealltwriaeth o gyfreithiau tenantiaeth, rheoli eiddo a gwasanaeth cwsmeriaid yn y sector eiddo preifat. Bydd hefyd yn hwyluso dilyniant i rolau megis rheolwyr eiddo cynorthwyol, asiantau eiddo, cynorthwywyr tai a llawer mwy.
Nod y cymhwyster yw hybu a hyrwyddo safonau uchel mewn perthynas â llety a rentir yn breifat, gan gynorthwyo landlordiaid, asiantau gosod a thenantiaid i gyflawni eu rolau. Bydd y cymhwyster hefyd yn darparu gwybodaeth sylfaenol i landlordiaid unigol ac asiantau gosod/rheoli fel y gallant nhw hefyd gyflawni eu rolau yn effeithiol.
Wrth siarad am y cymhwyster newydd, dywedodd Licy Bird, Rheolwr Masnachol ar gyfer Tai:
“O ganlyniad i adborth gan gyflogwyr yn y sector rhentu preifat, braf yw cyhoeddi y byddwn yn ychwanegu’r cwrs hwn at ein hystod o gymwysterau Tai. Gan roi sgiliau hanfodol i ddysgwyr o ran rheoli eiddo preswyl, bydd y cymhwyster hwn yn gwella rhagolygon gyrfa, cefnogi datblygiad proffesiynol ac yn hyrwyddo safonau uchel mewn gwasanaeth cwsmeriaid, deddfwriaethau tai ac arferion gorau yn y sector rhentu preifat yng Nghymru.”
Gall cyflogwyr sydd â diddordeb mewn gwella sgiliau a gwybodaeth eu tîm fwcio sesiwn ymgynghori un-i-un gydag arbenigwr tai yn y digwyddiad. Gallwch fwcio sesiwn rhwng 10am-4pm, ar-lein drwy teams neu yn bersonol yn y Theatr Tramshed Palace.
Bydd y rhai sy’n bresennol yn cael cyfle i drafod anghenion penodol eu sefydliad, gan archwilio sut y gall y cymhwyster newydd helpu eu staff i ffynnu yn y sector rhentu preifat, sy’n newid yn barhaus.
I gofrestru ar gyfer y digwyddiad, gan sicrhau sesiwn ymgynghori un-i-un, cliciwch yma, neu os hoffech ddysgu mwy am y cymhwyster, cliciwch yma.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y digwyddiad neu os hoffech ragor o wybodaeth, e-bostiwch training@gcs.ac.uk.