Mae tua 70 o staff hir eu gwasanaeth yng Ngholeg Gŵyr Abertawe wedi cael eu dathlu mewn digwyddiad arbennig yn Stadiwm Swansea.com.
Sefydlwyd y Gwobrau Gwasanaeth Hir i gydnabod a diolch i’r aelodau staff hynny sydd wedi rhoi o leiaf 20 mlynedd o wasanaeth i Goleg Gŵyr Abertawe.
Fe wnaeth darlithwyr, rheolwyr a staff cymorth busnes o bob maes o’r sefydliad dderbyn rhoddion wedi’u personoli cyn mwynhau te prynhawn.
Darparwyd yr adloniant gan y delynores leol Bethan Sian a’r gantores dalentog Abigail Rankin, sydd yn fyfyriwr yn y Coleg.
Yn cael eu cydnabod am weithio yn y Coleg am dros 30 mlynedd roedd Mark Ludlam, Denise Thorrington, Debra Dunne, Jo Attfield, Sinead Comerford-Stoneman, Chris Jones, Peter Evans, Beverley Elias a Carol Anne Jones.
“Ein staff yw hoelion wyth ein sefydliad ac felly mae’n hynod bwysig cydnabod ymroddiad a theyrngarwch yr unigolion hynny sydd wedi gweithio gyda ni am gyfnod mor hir,” meddai’r Dirprwy Bennaeth: Pobl a Lles, Sarah King. “Mae’r aelodau staff hyn wedi mentora a chefnogi cenedlaethau o ddysgwyr ac rydyn ni eisiau rhoi rhywbeth yn ôl iddyn nhw fel arwydd o’n gwerthfawrogiad.”