Skip to main content
Group Photo with Vikki Howells MS

Dechrau prosiect Ailddatblygu Campws Gorseinon

Cyrhaeddwyd carreg filltir nodedig iawn ar Gampws Gorseinon Coleg Gŵyr Abertawe yn ddiweddar, wrth i brosiect ailddatblygu’r campws gychwyn yn swyddogol. Mae hyn yn nodi buddsoddiad sylweddol mewn addysgu a dysgu i’n holl fyfyrwyr.

Fe aeth Vikki Howells AS, Y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch i’r seremoni arloesol i ddangos ei chefnogaeth i’r fenter drawsnewidiol hon. Ymunodd Pennaeth y Coleg, Kelly Fountain, y Prif Swyddog Gweithredol Mark Jones, a Chadeirydd y Llywodraethwyr Meirion Howells â’r Gweinidog i ddathlu dechrau’r prosiect cyffrous hwn.

Cafodd y buddsoddiad sylweddol hwn o £20.6 miliwn ei gefnogi gan Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru. Mae’r prosiect yn adlewyrchiad o ymrwymiad y Coleg i wella ei amgylchedd dysgu a sicrhau twf cynaliadwy i’w gyfleusterau.

Fe wnaeth partner adeiladu Coleg Gŵyr Abertawe, Kier Construcion, ddechrau’r prosiect ym mis Gorffennaf, gan ddymchwel nifer o adeiladau. Ar ôl cwblhau’r prosiect, bydd yr ailddatblygiad yn cynnwys:

  • Mynedfa newydd: Wedi’i gynllunio i wella estheteg a hygyrchedd. Bydd yr ardal groesawgar a modern hwn o fudd i fyfyrwyr a staff.
  • Ystafelloedd dosbarth ychwanegol a mannau cymdeithasol i fyfyrwyr: I gyfoethogi profiad y dysgwr, bydd y mannau hyn yn gwella profiad y dysgwr, gan ddarparu ardaloedd ysbrydoledig i fyfyrwyr ddysgu a chydweithio.
  • Gwell System Llif Traffig: Wedi’i gynllunio i leihau traffig a hwyluso diogelwch ledled y campws.

Mae’r prosiect, sy’n debygol o gael ei gwblhau ym mis Ebrill 2026, hefyd yn gam sylweddol i’r Coleg tuag at weithredu polisi carbon net sero, yn unol â safonau Llywodraeth Cymru.

Yn ystod ei hymweliad, fe wnaeth Vikki Howells gwrdd â myfyrwyr presennol Coleg Gŵyr Abertawe, gyda llawer ohonynt wedi dewis campws Gorseinon fel cyrchfan oherwydd ei enw rhagorol am ganlyniadau Safon Uwch a’r Rhaglen Anrhydeddau CGA lwyddiannus a helpodd 200 o ddysgwyr i symud ymlaen i brifysgolion Russell Group yn 2024.

Cafodd ei briffio ar ffocws cryf y Coleg ar ofal bugeiliol. Gydag 80 aelod o staff yn canolbwyntio ar les myfyrwyr, mae’r Coleg yn parhau i flaenoriaethu amgylchedd dysgu cefnogol. Roedd nifer o’r staff hyn, sy’n ymwneud ag ystod o feysydd cymorth, yn bresennol, a chawsant gyfle i gwrdd â’r Gweinidog yn ystod ei hymweliad.

Dywedodd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells:

“Braf yw gweld prosiect arall yn elwa o’r rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy. Hyd yma, rydyn ni wedi buddsoddi £2.6bn mewn ysgolion a cholegau er mwyn iddynt fedru cynnig amgylchedd dysgu gwell i’w staff a’u dysgwyr.

“Yn ddiweddar fe gyhoeddais fy ngweledigaeth ar gyfer dysgu ôl-16, a bydd colegau megis Coleg Gŵyr Abertawe yn chwarae rhan allweddol wrth gyflwyno amrywiaeth o gyrsiau galwedigaethol ac academaidd. Yn ystod fy ymweliad ces gyfle i siarad â staff a dysgwyr i glywed eu barn a’u gweledigaethau nhw ar gyfer y dyfodol. Rwy’n edrych ymlaen at ymweld â rhagor o golegau yn ystod y misoedd nesaf.

“Rwy’n falch o weld bod buddsoddiad o’r fath yn cynnig amgylchedd positif i staff a dysgwyr ac rwy’n edrych ymlaen at weld y gwaith yn mynd yn ei flaen ar gampws Gorseinon.”

Wrth siarad am yr ailddatblygiad, dywedodd Kelly Fountain, pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe:

“Dyma gam allweddol i Goleg Gŵyr Abertawe. Bydd y buddsoddiad hwn gwerth £20.6 miliwn yn gweddnewid Cwmpas Gorseinon, gan gynnig

cyfleusterau o’r radd flaenaf a fydd yn gwella’r profiad addysgu a dysgu i’n myfyrwyr.

“Gyd chymorth Llywodraeth Cymru, rydyn ni’n ymrwymedig i greu amgylchedd dysgu rhagorol a chynaliadwy i’n dysgwyr a fydd yn hybu ein gweledigaeth strategol.

“Rydyn ni’n gyffrous iawn i ddechrau’r daith hon ac edrychwn ymlaen at yr effaith gadarnhaol y bydd yn ei chael ar fyfyrwyr a staff.” Dywedodd Jason Taylor, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Construction Western & Chymru: “Rydyn ni’n hapus iawn i nodi dechrau’r prosiect cyffrous hwn ar Gampws Gorseinon Coleg Gŵyr Abertawe. “Bydd y prosiect hwn yn cynnig cyfoeth o brofiadau i fyfyrwyr a staff am amser hir iawn.”