Skip to main content
  

Tîm cyflogadwyedd yn cystadlu am wobrau mawr

Mae darpariaeth cyflogadwyedd Coleg Gŵyr Abertawe, Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, wedi cyrraedd y rhestr fer mewn dau gategori yng Ngwobrau Cymdeithas Gwasanaethau Cysylltiedig â Chyflogaeth (ERSA) 2024.

Gyda 15 categori y mae cystadlu brwd amdanynt, mae Gwobrau ERSA yn tynnu sylw at y cymorth amrywiol a chyfannol a roddir i gyflogwyr, cymunedau, a cheiswyr gwaith a dysgwyr difreintiedig ledled y DU. Bellach yn ei deuddegfed flwyddyn, mae’r seremoni wobrwyo yn cydnabod cyflawniadau ac arloesedd rhagorol ar draws y sector cyflogadwyedd.

Mae Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn cael ei ystyried yng nghategori Dilyniant yn y Gwaith (am ei waith gyda chleientiaid sydd wedi’u tangyflogi) a chategori Rheolwr Llinell Flaen y Flwyddyn (ar gyfer Louise Dempster, Rheolwr Rhaglen).

"Dwi wrth fy modd ein bod ni ar y rhestr fer yn y ddau gategori hyn,” meddai’r Cyfarwyddwr Cyflogadwyedd Cath Jenkins. “Mae’r gwobrau hyn yn arddangos y ddarpariaeth cyflogadwyedd orau a mwyaf arloesol ledled y DU, ac felly mae’n gyflawniad anhygoel bod y rhaglen ac un o’n rheolwyr gwych yn cael eu cydnabod ar y lefel hon.

“Mae’n dyst nid yn unig i’r staff sydd wedi gweithio’n ddiflino i wneud y rhaglen yn llwyddiant, ond hefyd i’n rhanddeiliaid, ein cyflogwyr partner ac, wrth gwrs, yr holl unigolion gwych sydd wedi ymddiried ynom i’w cefnogi ar eu taith i gyflogaeth newydd neu well dros y saith mlynedd diwethaf."

Ers 2017, mae Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, wedi cynnig cymorth i dros 12,000 o unigolion sy’n ceisio cyflogaeth newydd neu well, unigolion fel Diana a gafodd gymorth i symud ymlaen o’i swydd fel Cynorthwyydd Gofal Iechyd i rôl Gwyddor Fiofeddygol lle gallai hi ddefnyddio’n well y sgiliau a’r wybodaeth a enillodd yn flaenorol trwy ei gradd Meistr.

“Bob blwyddyn, mae Gwobrau ERSA yn dathlu cyflawniadau anhygoel ar draws ein sector a gyda’r categorïau ychwanegol yn 2024, mae’r flwyddyn hon yn addo bod y flwyddyn orau a’r  un fwyaf eto,” meddai Prif Swyddog Gweithredol ERSA, Elizabeth Taylor.

“Ar ôl blwyddyn brysur a heriol, ac yn dilyn trafodaeth a dadl yn y gynhadledd, dyma ein cyfle i ddathlu gyda’n gilydd a chymeradwyo’r gwaith arbennig sy’n cael ei wneud i gefnogi eraill. Mae pawb yn haeddiannol o gydnabyddiaeth ac mae gan ein beirniaid y dasg anodd o nodi’r sêr disglair go iawn. Hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi cystadlu, a llongyfarchiadau mawr i’r rhai ar y rhestr fer.”

Wedi’u noddi eleni gan Whitehead-Ross Education, Gwobrau ERSA yw’r anrhydeddau mwyaf sefydledig ac uwch eu parch i’r miloedd o unigolion a sefydliadau sy’n gweithio ar gyfer gwell gwaith.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn dilyn cynhadledd flynyddol ERSA yn Llundain ar 4 Rhagfyr.