Skip to main content
 

Myfyrwyr Dawnus yn cystadlu i ennill teitl ‘Gorau yn y DU’

Bydd pedwar myfyriwr yn cynrychioli Coleg Gŵyr Abertawe yn Rownd Derfynol Cystadleuaeth Worldskills UK eleni. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal o 19- 22 Tachwedd mewn lleoliadau ledled Manceinion.

Y myfyrwyr sy’n cynrychioli’r Coleg:

Saffron Owens (Sgiliau Sylfaenol, Trin Gwallt)
Evelyn Howells (Gwasanaethau Bwyty)
Kane Morcom a Bradley Claringbold (Electroneg Ddiwydiannol)

Byddan nhw’n ymuno â 500 o fyfyrwyr a phrentisiaid eraill yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills y DU, a bydd y canlyniadau’n cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo fawreddog yn Neuadd bridgewater yn Manceinion ar ddydd gwener, 22 Tachwedd.

Mae Saffron wedi bod yn gweithio gyda’r darlithydd Trin Gwallt, Joanna Hodgson a’r Arweinydd Cwricwlwm, Michelle Williams, i ddatblygu sgiliau paratoi gwallt priodasol. Mae hi wedi bod yn dysgu ystod o dechnegau plethu gwallt megis dulliau Ffrengig, Iseldireg a’r dull cynffon pysgodyn. Mae hi hefyd wedi bod yn steilio gwallt gan ddefnyddio cyfarpar penodol er mwyn creu steiliau gorffenedig sy’n addas ar gyfer priodasau. 

Nid yw Saffron wedi bod yn astudio trin gwallt am gyfnod hir, ond sylwodd Jo a Michelle ar ei sgiliau creadigol yn syth, ac mae’r ddwy wedi ei hannog a’i mentora trwy gydol y broses hyfforddi ar gyfer cystadleuaeth WorldSkills.

Mae Evelyn yn dymuno efelychu llwyddiant rhai o’n cyn-fyfyrwyr Lletygarwch ac Arlwyo a gyrhaeddodd y rowndiau terfynol:  Jack Lewis, sydd wedi dychwelyd i’r Coleg i fentora Evelyn dan arweiniad y darlithydd/hyfforddwr Nicola Rees), Ryan Kenyon, Scott Mears, Trixie Belle-Ewing, Collette Gorvett,  Paulina Skoczek, Paige Jones, Ruben Johnston a Connor Trehar.

Fel rhan o’r gystadleuaeth, roedd angen i Evelyn feistroli ystod eang o sgiliau gan gynnwys cerfio a gweini eog mwg, arllwys gwin coch, troelli a fflamio pîn-afal a cherfio a gweini brest hwyaden.

Dan arweiniad yr Arweinydd Cwricwlwm a’r Hyfforddwr Worldskills, Steve Williams, mae gan yr adran Peirianneg Electroneg enw da iawn am lwyddo mewn cystadlaethau sgiliau. Y llynedd enillodd Tarran Spooner a Faroz Shahrokh wobrau Aur ac Arian, ac mae’r ddau bellach yn astudio cyrsiau AU yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.

Er mwyn paratoi ar gyfer Manceinion, mae Kane a Bradley wedi bod yn gweithio’n galed ar eu sgiliau electroneg, o sodro cylchedau cymhleth i adeiladu cerbydau robotig a’u codio i weithio’n annibynnol. Mae’r ddau fyfyriwr wedi manteisio ar bob cyfle i ymarfer, boed hynny gartref neu mewn sesiynau ychwanegol.

Mae Coleg Gŵyr Abertawe’n elwa o wreiddio safonau WorldSkills yn y cwricwlwm, ac mae’r grŵp yma o fyfyrwyr yn gweithio’n barhaus tuag at sicrhau rhagoriaeth alwedigaethol.

Mae Cystadlaethau WorldSkills UK yn rhan hollbwysig o addysg a hyfforddiant ôl-16 ac maen nhw’n derbyn dros 6,000 o gofrestriadau gan fyfyrwyr o Loegr, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon yn flynyddol. Mae'r rhaglenni hyfforddi sy'n seiliedig ar gystadleuaeth wedi'u cynllunio gan arbenigwyr yn y diwydiant i helpu pobl ifanc i gyflawni twf personol a phroffesiynol trwy ddatblygu eu sgiliau technegol a chyflogadwyedd.

Dywedodd Ben Blackledge, Prif Weithredwr WorldSkills UK: “Llongyfarchiadau i’r Cystadleuwyr Cenedlaethol eleni. Pob lwc iddynt yn eu hyfforddiant wrth iddynt baratoi ar gyfer Rowndiau Terfynol WorldSkills y DU. 

“Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’r lleoliadau ac Awdurdod Cyfun Manceinion i groesawu myfyrwyr a phrentisiaid o bob rhan o’r DU, fel y gallant arddangos rhagoriaeth mewn sgiliau technegol a hybu a datblygu eu sgiliau.”

“Mae’r pedwar cystadleuydd wedi gweithio’n ddiflino i gyrraedd Rowndiau Terfynol Cenedlaethol y DU, ac maen nhw hyd yn oed wedi dod i mewn i’r Coleg yn eu hamser hamdden berffeithio eu sgiliau,” meddai Jenny Hill, Cyfarwyddwr Datblygu Sgiliau a Phartneriaeth Ysgolion Coleg Gŵyr Abertawe.

“Rydym yn falch o’n dysgwyr ifanc ac yn dymuno’r gorau iddynt ym Manceinion. Mae’r digwyddiad mawreddog hwn yn brofiad gwych i gymryd rhan ynddo, ac mae’r myfyrwyr wedi elwa o arweiniad ac arbenigedd ein staff addysgu a mentora rhagorol. Am ffordd wych o gynrychioli’r Coleg ar lwyfan cenedlaethol!”

Diwedd 

WorldSkills UK 
Rhwydwaith sgiliau arobryn yw WorldSkills UK sy’n ffocysu ar wella safonau, hyrwyddo sgiliau’r dyfodol a grymuso pobl ifanc o bob cefndir. worldskillsuk.org

Cynhelir Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK yn y lleoliadau canlynol: Coleg Bolton, Coleg Manceinion, Prifysgol Manceinion, Coleg Oldham, Rochdale Training, Coleg Tameside, Grŵp Coleg Trafford a Stockport a Choleg Wigan & Leigh.