Newyddion y Coleg
Gweinidog yn siarad â myfyrwyr y Coleg yn dilyn cyhoeddiad LCA
Roedd yn bleser gan Goleg Gŵyr Abertawe groesawu Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, i Gampws Tycoch ar 17 Ebrill.
Galwodd y Gweinidog heibio i siarad â myfyrwyr a staff, gan gynnwys y Pennaeth Mark Jones, yn dilyn y cyhoeddiad bod Cymru ar fin bod y wlad gyntaf yn y DU i gynyddu’r tâl Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) i ddysgwyr.
O fis Ebrill 2023, bydd y LCA yn cynyddu o £30 yr wythnos i £40 ar gyfer myfyrwyr addysg bellach cymwys mewn chweched dosbarth neu goleg.
Darllen mwy
Dysgwyr Coleg Gŵyr Abertawe yn disgleirio mewn digwyddiad Dyfodol Creadigol
Cynhaliodd Coleg Gŵyr Abertawe ddigwyddiad Dyfodol Creadigol cyffrous ar ddydd Iau, 23 Mawrth, gan ddod â ffasiwn, gwallt a harddwch, colur a cherddoriaeth ynghyd mewn arddangosfa. Cynhaliwyd y digwyddiad ar Gampws Tycoch ac roedd myfyrwyr o Ysgol yr Esgob Gore, dysgwyr o’r Coleg, rhieni a gwesteion yn bresennol.
Darllen mwyColeg Gŵyr Abertawe yn noddi Duathlon Y Mwmbwls
Coleg Gŵyr Abertawe oedd prif noddwr Duathlon Y Mwmbws unwaith eto eleni ar 25 Mawrth.
Yn ogystal â noddi’r digwyddiad, cafodd rai o fyfyrwyr Therapi Tylino Chwaraeon (Lefel 3 a 4) y Coleg gyfle i wirfoddoli ar y linell derfyn, gan leddfu rhai cyhyrau blinedig iawn.
Mae’r myfyrwyr yn gwirfoddoli mewn nifer o rasys trwy gydol y flwyddyn, gan ennill oriau gwerthfawr o brofiad ar gyfer eu hyfforddiant. Bu rhai myfyrwyr Teithio a Thwristiaeth Lefel 3 hefyd yn gwirfoddoli yn y digwyddiad, gan ennill profiad gwerthfawr o reoli digwyddiadau.
Darllen mwyTeithiau maes yn brofiad dysgu da i’n myfyrwyr Teithio a Thwristiaeth
Mae ein myfyrwyr Teithio a Thwristiaeth wedi bod yn brysur iawn yn ystod yr wythnosau diwethaf.
Yn ddiweddar, ymwelodd myfyrwyr Lefel 3 â Folly Farm i weld sut mae atyniadau ymwelwyr yn gallu denu gwahanol fathau o dwristiaid. Tynnon nhw luniau fel tystiolaeth o’r dulliau arallgyfeirio a ddefnyddir i ddenu cwsmeriaid newydd.
Darllen mwyTreial Academi Bêl-droed Pro:Direct - Dydd Mercher 12 Ebrill
Yn dilyn llwyddiant y treial agored ym mis Chwefror, mae Pro:Direct yn hapus o gyhoeddi treial arall ar ddydd Mercher, 12 Ebrill.
Mae’r treial yn agored i fechgyn Blwyddyn 11 sy’n chwarae pêl-droed, a bydd yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Hamdden Penyrheol 3G (SA4 4LP), 10am-12pm.
Darllen mwyDarlithydd coleg yn siarad am lwyddiant e-Chwaraeon
Mae darlithydd Coleg Gŵyr Abertawe Kiran Jones yn mynd i arddangosfa BETT 2023 fel siaradwr arbennig.
Bett 2023 yw’r arddangosfa technoleg addysg fwyaf yn y byd a bydd yn cael ei chynnal yn ExCel Llundain yn ystod 29-31 Mawrth.
Bydd Kiran, sy’n addysgu Cyfrifiadura, TG ac e-Chwaraeon ar Gampws Tycoch ac yn goruchwylio cyfrifon cyfryngau cymdeithasol tîm hynod lwyddiannus Gwdihŵs CGA, yn cymryd rhan yn y drafodaeth Level Up in Esports Education ar 30 Mawrth.
Darllen mwyGofyn i fyfyrwyr am eu barn am ddarlledu Cymreig
Yn ddiweddar roedd myfyrwyr o Goleg Gŵyr Abertawe wedi mwynhau trafodaeth fywiog gydag aelodau o Bwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin.
Cynhaliodd Campws Gorseinon gyfarfod bord gron rhwng dysgwyr a Geraint Davies, AS Llafur dros Orllewin Abertawe; Stephen Crabb, AS Ceidwadol dros Breseli Sir Benfro; a Ben Lake, AS Plaid Cymru dros Geredigion.
Darllen mwyCyn-fyfyriwr yn dychwelyd i ysbrydoli pobl ifanc greadigol
Dychwelodd wyneb cyfarwydd i Gampws Gorseinon Coleg Gŵyr Abertawe yn ddiweddar wrth i’r cyn-fyfyriwr Billie-Jo Matthews gamu i’r adwy i helpu i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o bobl ifanc greadigol.
Cwblhaodd Billie-Jo gwrs BTEC Estynedig Lefel 3 yn y Cyfryngau Creadigol yng Ngholeg Gŵyr Abertawe cyn symud ymlaen i Brifysgol Abertawe i ddilyn BA (Anrh) yn y Cyfryngau a Chyfathrebu, ac yna MSc mewn Marchnata Strategol.
Darllen mwyBwrsariaeth addysgu dwyieithog ar gael i ddysgwyr Cymraeg
Fel rhan o’n nod o ddatblygu gweithlu dwyieithog a hyfforddi staff newydd i gynnig y Gymraeg i’n dysgwyr, mae’r cyfle gwych yma ar gael i chi.
Os ydych yn siarad Cymraeg ac yn cysidro gwneud cymhwyster TAOR er mwyn cymhwyso fel tiwtor neu ddarlithydd yn y sector ôl 16, mae cyfle gwerthfawr i chi ymarfer mewnosod y Gymraeg yn y dosbarth gyda grwpiau dwyieithog. Byddwch yn gymwys i wneud cais am y fwrsariaeth addysgu ddwyieithog gwerth £500 y flwyddyn.
Darllen mwyColeg yn croesawu ysgolion lleol ar gyfer sioe deithiol cogyddion
Roedd 120 o ddisgyblion o chwe ysgol yn Abertawe wedi mwynhau diwrnod blasu lletygarwch yng Ngholeg Gŵyr Abertawe ddydd Mawrth 14 Mawrth.
Trefnwyd yr achlysur arbennig rhad ac am ddim gan The Chefs’ Forum ac roedd yn gyfle i’r Coleg groesawu disgyblion ysgol a rhoi blas iddynt ar yr hyn sydd i’w ddisgwyl ar gwrs arlwyo.
“Rydyn ni’n galw’r achlysur yn gipolwg ar fyd y diwydiant lletygarwch,” dywedodd Cyfarwyddwr The Chef’s Forum Catherine Farinha. “Cawson ni amrywiaeth gwych o ben-cogyddion a gweithwyr proffesynol blaen y tŷ. Roedd y myfyrwyr wedi mwynhau mas draw!”
Darllen mwyPagination
- Previous page ‹‹
- Page 17
- Tudalen nesaf ››