Mae tîm o ddarlithwyr o Goleg Gŵyr Abertawe wedi ennill Gwobr Arian ar gyfer Tîm AB y Flwyddyn yng Ngwobrau Addysgu Cenedlaethol Pearson. Cawsant eu dewis o blith miloedd o enwebeion, ac mae’r wobr yn tynnu sylw at yr effaith ryfeddol y maen nhw’n ei chael ar lywio bywydau y bobl ifanc yn eu gofal.
Fe wnaeth tîm Tirlunio ac Eco-adeiladu’r Coleg gychwyn ar eu taith yn 2019, gan lansio cwrs rhan-amser i ddysgwyr o ysgolion cyfun lleol yn Abertawe. Hyd yn oed yn absenoldeb cyllid pwrpasol ar gyfer offer, adnoddau, neu staff arbenigol, fe wnaeth pob un o’r 80 o ddysgwyr gwblhau eu cymhwyster yn llwyddiannus, sy’n anhygoel o beth. Trwy’r rhaglen, datblygon nhw sgiliau hanfodol megis gwydnwch, trefnu, a gwaith tîm, gan ddangos eu hymrwymiad i’r rhaglen.
Roedd llwyddiant y rhaglen arbrofol hon yn sbardun ar gyfer gweledigaeth i ddatblygu ‘ysgol dysgu awyr agored’ lle mae’r dysgwyr mewn cytgord â byd natur, ac yn gallu ffynnu, teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, a bod yn llwyddiannus.
Ymlaen i 2024, ac mae’r tîm wedi symud eu darpariaeth i Hwb Gwyrdd pwrpasol, a gafodd ei agor yn swyddogol yn ddiweddar gan Iolo Williams. Mae’r hwb Gwyrdd yn cynnwys cyfleusterau gwych i fyfyrwyr fel ystafelleoedd gwaith ac ystafelloedd celf, ac mae yna ardd lysiau, man cynyrchu bwyd, pwll, twnnel tyfu a pherllan y tu allan.
Mae’r tîm addysgu Tirlunio ac Eco-adeiladu ymhlith 102 o athrawon, darlithwyr, staff cymorth a sefydliadau haeddiannol sydd wedi’u henwi yn enillwyr Arian yn y seremoni wobrwyo eleni. Maen nhw nawr yn gobeithio ennill y Wobr Aur arbennig, a fydd yn cael ei chyhoeddi mewn seremoni wobrwyo fawreddog yn nes ymlaen eleni.
Daw’r cyhoeddiad wrth i enwogion, myfyrwyr ac ysgolion ledled y DU dalu teyrnged heddiw i bawb sy’n gweithio ym myd addysg i nodi Diwrnod Cenedlaethol Diolch i Athrawon, sy’n dathlu’r gymuned addysg gyfan ac yn taflu goleuni ar yr effaith eithriadol y maen nhw’n ei chael ar lywio bywydau ifanc.
Mae Diwrnod Cenedlaethol Diolch i Athrawon a Gwobrau Addysgu Cenedlaethol Pearson yn cael eu rhedeg gan yr Ymddiriedolaeth Gwobrau Addysgu, elusen annibynnol a sefydlwyd dros 25 mlynedd yn ôl i ddathlu effaith drawsnewidiol addysg, gan dynnu sylw at y rolau allweddol y mae athrawon, staff cymorth, colegau, ysgolion ac addysgwyr blynyddoedd cynnar yn eu chwarae o ran ysbrydoli pobl ifanc, o ddydd i ddydd.
Dywedodd Meddai Michael Morpurgo, awdur, cyn Fardd Plant a Llywydd yr Ymddiriedolaeth Gwobrau Addysgu: “Mae gwaith ac ymroddiad pawb sy’n chwarae rôl yn addysg pobl ifanc yn aruthrol. Nid yn unig maen nhw’n chwarae rôl hanfodol o ran llywio meddyliau yn yr ystafell ddosbarth, ond yn aml maen nhw’n parhau i annog, cynorthwyo, cymell ac ysbrydoli y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth hefyd. Dyna pam mae’n bwysig i ni gymryd munud ar Ddiwrnod Cenedlaethol Diolch i Athrawon i gydnabod eu hymdrechion.
“Dwi hefyd yn falch iawn o longyfarch enillwyr y Wobr Arian eleni a chydnabod y cyfraniadau a’r ymrwymiad anhygoel y maen nhw wedi’i ddangos i lywio bywydau’r genhedlaeth nesaf - diolch!”
Dywedodd Sharon Hague, Rheolwr Gyfarwyddwr Asesiadau a Chymwysterau Ysgol yn Pearson UK: “Mae’n bleser mawr gennym gydnabod enillwyr y Gwobrau Arian eleni am eu cyflawniadau rhagorol. Mae eu cyfraniadau a’r effaith maen nhw’n ei chael ar fywydau pobl ifanc bob dydd yn wirioneddol eithriadol. Rydyn ni’n hynod falch o gefnogi’r Gwobrau Addysgu Cenedlaethol a nodi cyflawniadau ein holl enillwyr teilwng iawn. Diolch am eich gwaith parhaus, llongyfarchiadau!!”
Ychwanegodd Jenny Hill, Cyfarwyddwr Datblygu Sgiliau a Phartneriaeth Ysgolion Coleg Gŵyr Abertawe: “O ddechreuadau gostyngedig yn 2019, mae ein tîm Tirlunio ac Eco-adeiladu, dan arweiniad Lynne Burrows, bellach yn addysgu cymwysterau Lefel 1 a Lefel 2 i dros 150 o ddysgwyr, y mae rhai ohonyn nhw yn agored iawn i niwed.
“Mae’r cymorth a gynigir i’r dysgwyr hyn heb ei ail. Mae gan bob dysgwr gynllun dysgu unigol sy’n eu hymestyn ac yn eu herio wrth fagu hyder a gwydnwch. Mae staff cymorth yn rhan annatod o’r tîm hwn, gan gynnig cymorth academaidd a bugeiliol.”
Dywedodd Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe, Kelly Fountain: “Rydyn ni’n hynod falch o’n tîm eco-adeiladu a thirlunio sy’n ymrwymedig i sicrhau bod pob dysgwr yn gallu manteisio ar gyfleoedd addysgol y tu hwnt i ffiniau ystafell ddosbarth draddodiadol. Yn ogystal â datblygu sgiliau hanfodol fel gwaith tîm a chyfathrebu, mae ein tîm wedi tanio uchelgais ymhlith ein dysgwyr, codi dyheadau, rhoi ymdeimlad o berthyn iddyn nhw ac agor eu llygaid i gyfleoedd gyrfa a dilyniant ar gyfer y dyfodol.
“Mae’r mentrau hyn hefyd wedi gwella mannau cyhoeddus, gan feithrin ymdeimlad o falchder cymunedol â phwyslais cryf ar gynaliadwyedd. Rydyn ni’n hynod falch o’n tîm addysgu a’n staff cymorth. Mae eu hymroddiad a’u gwaith caled yn wirioneddol haeddiannol o’r wobr hon heddiw.”
***
Mae Gwobrau Addysgu Cenedlaethol Pearson ar agor i bob lleoliad blynyddoedd cynnar, ysgol a choleg ledled y DU. Sefydlwyd y gwobrau gan yr Arglwydd Puttnam CBE ym 1998 ac fe’u rheolir gan yr Ymddiriedolaeth Gwobrau Addysgu, elusen annibynnol. Gweledigaeth yr elusen yw cydnabod a dathlu effaith addysg ledled y DU. Mae’n gwneud hyn trwy ei hymgyrch gyhoeddus ‘Diolch i Athrawon’ www.thankateacher.co.uk, a thrwy Wobrau Addysgu Cenedlaethol Pearson
Yn Pearson, mae ein diben yn syml: rhoi bywyd i oes o ddysgu. Credwn fod pob cyfle i ddysgu yn gyfle i ddatblygu’n bersonol. Dyna pam rydym wedi ymrwymo i greu profiadau dysgu ysgogol a chyfoethogol a ddyluniwyd i gael effaith yn y byd go iawn. Ni yw cwmni dysgu mwyaf blaenllaw’r byd, sy’n gwasanaethu cwsmeriaid mewn bron 200 o wledydd gyda chynnwys digidol, asesiadau, cymwysterau, a data. I ni, mae dysgu’n fwy na’r hyn rydym yn ei wneud. Mae’n bwy ydym.
Michael Morpurgo yw un o’r awduron mwyaf poblogaidd i blant. Ac yntau â gyrfa ysgrifennu sy’n rhychwantu pedwar degawd, mae wedi ysgrifennu dros 100 o lyfrau, a gwerthu dros fwy na phum miliwn o gopïau ar draws y byd. Yn gyn Fardd Plant, mae Michael wedi ennill gobrau lu, gan gynnwys gwobr Smarties, Gwobr Llyfr Blue Peter a Gwobr Whitbread. Dyfarnwyd OBE iddo am wasanaethau i Lenyddiaeth. Dyfarnwyd MBE iddo ym 1999 hefyd, ochr yn ochr â’i wraig Clare, i gydnabod eu gwaith yn sefydlu Farms For City Children, elusen sydd wedi rhoi cyfle i 100, 000 o blant ymweld â thair fferm yr elusen dros y 40 mlynedd diwethaf.