Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o gyhoeddi ei lwyddiant go arbennig yn seremoni wobrwyo InsideOut yr wythnos diwethaf, a gynhaliwyd yn y Troxy, Llundain.
Fe wnaeth y Coleg sicrhau dwy wobr nodedig a derbyn cydnabyddiaeth Canmoliaeth Uchel yn y digwyddiad gwobrwyo iechyd meddwl blynyddol, a bwerwyd gan Uwchgynadleddau InsideOut LeaderBoard a Lles yn y Gwaith.
Cafodd y Dirprwy Bennaeth Pobl a Lles, Sarah King, ei hanrhydeddu â Gwobr Arweinydd y Flwyddyn – Pobl am ei hymdrechion rhagorol yn eirioli dros iechyd meddwl a lles gweithwyr. Yn ogystal, derbyniodd y Coleg Ganmoliaeth Uchel yng nghategori’r Fenter Iechyd Menywod Orau am ei ymrwymiad i gefnogi staff sy’n profi symptomau’r menopos.
Mae gwaith blaengar Sarah ym maes iechyd menywod, gan gynnwys arwain menter menopos gynhwysfawr, wedi cael ei gydnabod fel arfer gorau gan ffigurau blaenllaw fel eiriolwr y llywodraeth dros y menopos Helen Tomlinson, AS Mimms Davies, a Carolyn Noakes, Cadeirydd Pwyllgor Dethol Cydraddoldeb Menywod. Mae Sarah hefyd wedi cael ei gwahodd i gyflwyno ei gwaith yn nigwyddiad bord gron cyntaf y menopos yn Rhif 10 Stryd Downing yn gynharach eleni.
Roedd gwaith Sarah wedi creu argraff fawr ar y beirnaid, gan gyfeirio ato fel gwaith allweddol, dywedon nhw: “mae modd mesur effaith mentrau lles niferus Sarah yn fewnol yn ei sefydliad ei hun, ac mae ei gwaith arloesol ar fenter y menopos wedi cael ei rannu’n allanol hefyd gan helpu llawer o sefydliadau gwahanol i ddeall arferion gorau yn well o ran cefnogi lles menywod yn y gwaith.”
Yn y categori Effaith Gymdeithasol, cafodd tîm Dysgu Seiliedig ar Waith y Coleg eu dathlu am eu hymroddiad i greu prentisiaethau cynhwysol a hygyrch. Fe wnaethon nhw ennill yn y categori hwn oherwydd eu dull rhagweithiol o gefnogi prentisiaid ag anableddau ac anghenion dysgu ychwanegol.
Cafodd y beirniaid eu cyfareddu gan ymagwedd wych y Coleg at ehangu cyfleoedd prentisiaeth trwy ddeall yr arfau a’r arferion lles sydd ar gael o fewn y busnes.
Roedd Paul Kift, Dirprwy Bennaeth Sgiliau a Phartneriaethau y Coleg wrth ei fodd, dywedodd: “Rydyn ni yn ein seithfed nef ar ôl ennill y wobr hon. Cawson ni ein hanrhydeddu yn ddiweddar am ein gwaith yn y maes hwn, ac rydyn ni nawr yn falch dros ben o gael ein cydnabod unwaith eto. Mae wir yn gyd-ymdrech, felly diolch i chi a llongyfarchiadau i bawb dan sylw.”
Wrth sôn am y llwyddiannau, dywedodd y Pennaeth Kelly Fountain: “Dwi’n hynod falch o ddathlu ein cyflawniadau rhagorol yn seremoni wobrwyo InsideOut. Ymhlith yr holl gystadlu brwd, cafodd ein Coleg lwyddiant ysgubol, gan sicrhau dwy wobr nodedig ac ennill cydnabyddiaeth Canmoliaeth Uchel.
“Mae’r llwyddiannau hyn yn adlewyrchu ymrwymiad ein Coleg i feithrin amgylchedd cynhwysol a chefnogol. Maen nhw’n dyst i ymroddiad a gwaith caled ein cymuned gyfan – staff, myfyrwyr a phartneriaid – sydd gyda’i gilydd yn ymdrechu i wneud gwahaniaeth ystyrlon yn y bywydau rydyn ni’n cyffwrdd ynddyn nhw.”
At ei gilydd, cyrhaeddodd Coleg Gŵyr Abertawe y rhestr fer mewn pum categori, sy’n dangos ymrwymiad y sefydliad i greu amgylchedd cynhwysol a chefnogol.
Mae cyflawniadau’r Coleg yn sefyll ochr yn ochr â chewri cenedlaethol a rhyngwladol megis Sky Media, Santander, Nationwide, Banc Iwerddon, Legal and General, Mars, SSE, Air Canada, Booking.com ac Ofcom, a gafodd eu growbrwyo yn ystod y seremoni.
Mae rhestr lawn o’r enillwyr i’w gweld yma - https://www.insideoutawards.xyz/winners-2024