Skip to main content
Landscaping team

Coleg Gŵyr Abertawe yn cyrraedd y rownd derfynol mewn tri chategori yng Ngwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru

Rhian Evans and Emma Smith

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch iawn o gyhoeddi ei fod wedi cyrraedd y rownd derfynol mewn tri chategori yng Ngwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru. 

Mae’r digwyddiad blynyddol hwn yn anrhydeddu cyfraniadau rhagorol y gweithlu addysg ledled Cymru, gyda’r flwyddyn hon yn nodi’r tro cyntaf i golegau gael eu cynnwys ochr yn ochr ag ysgolion.

Mae Emma Smith wedi’i henwebu am wobr nodedig Darlithydd y Flwyddyn, gan gydnabod ei chyfraniadau eithriadol i ddysgu ac addysgu. Mae Emma wedi’i nodi’n arbennig am ei chymorth pwrpasol i ddysgwyr mwyaf galluog y Coleg sy’n awyddus i sicrhau lleoedd yn y prifysgolion gorau. 

A hithau yn arweinydd rhaglen Anrhydeddau CGA y Coleg ac arweinydd Seren dros Abertawe, mae cymorth Emma wedi bod yn allweddol o ran helpu 10 myfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe i gael cynigion gan Rydychen neu Gaergrawnt eleni.

Mae Rhian Evans wedi cyrraedd y rhestr fer yng nghategori Gwobr y Dysgwyr ar gyfer y Darlithydd Gorau, enwebiad a lywiwyd gan ei myfyrwyr Gofal Plant Lefel 2. Mae enwebiad Rhian yn adlewyrchu ei gofal a’i chefnogaeth eithriadol ar gyfer ei myfyrwyr, yn academaidd ac yn fugeiliol, gan dynnu sylw at ei hymroddiad i’w llwyddiant a’u lles.

Mae’r Tîm Tirlunio ac Eco wedi sicrhau lle yng nghategori Ymgysylltiad Dysgwyr mewn Ysgol/Coleg. Mae eu gwaith ar y cyd ag ysgolion wedi gwella cyrhaeddiad, lles a dinasyddiaeth myfyrwyr yn sylweddol, gan ddangos ymrwymiad y tîm i greu profiadau addysgol cadarnhaol a chynaliadwy. Yn ddiweddar, mae’r tîm hwn hefyd wedi dathlu gwobr Arian yng Ngwobrau Addysgu Cenedlaethol Pearson.

Cyflwynwyd enwebiadau ar gyfer Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru gan rieni, gofalwyr, dysgwyr a chydweithwyr ar draws Cymru, gan dynnu sylw at y gwerthfawrogiad cyffredinol sydd ar gyfer yr addysgwyr rhagorol hyn.

"Rydyn ni wrth ein bodd, mae’n fraint cael ein cydnabod yn y gwobrau mawreddog hyn," meddai Kelly Fountain, Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe. "Mae Emma Smith, Rhian Jones, a’n Tîm Tirlunio ac Eco i gyd wedi dangos ymroddiad ac arloesedd eithriadol yn eu rolau. Mae’r enwebiadau hyn yn dyst i’w gwaith caled a’r effaith bositif y maen nhw’n ei chael ar ein myfyrwyr a’r gymuned ehangach."

Caiff yr enillwyr eu cyhoeddi mewn seremoni ym mis Gorffennaf 2024.

I wybod rhagor am y gwobrau a’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, ewch i