Mae myfyrwyr o Goleg Gŵyr Abertawe yn dathlu blwyddyn arall o lwyddiannau chwaraeon gyda seremoni wobrwyo arbennig yn y Village Hotel.
Dan ofal Kev Johns MBE, roedd y digwyddiad hefyd yn yn cynnwys cyfraniadau gan y cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol o Gymru a darlithydd Coleg Steven Jones, a’r seren bêl-droed Lee Trundle.
Dyma’r restr lawn o’r enwebeion, gyda’r enillwyr mewn teip trwm:
Pêl-rwyd 2il Dîm – Chwaraewr yr Hyfforddwyr
Kyrie Ewers
Fran Mackie
Maddison Beer
Pêl-rwyd 2il Dîm – Chwaraewr y Chwaraewyr
Maddison Mahon
Harriet Bateman
Kate Woolacott
Pêl-rwyd 2il Dîm – Chwaraewr sydd wedi Gwella Fwyaf
Zoe Wojciechowski
Kyrie Ewers
Claudia Croft
Pêl-rwyd Tîm 1af – Chwaraewr yr Hyfforddwyr
Amy Beynon
Megan Gwyther
Imogen Harries
Pêl-rwyd Tîm 1af – Chwaraewr y Chwaraewyr
Evelyn Bray
Erin Marshall
Hannah Forkouh
Pêl-rwyd Tîm 1af – Chwaraewr sydd wedi Gwella Fwyaf
Ava Featon
Lila Hemmingway
Evelyn Bray
Rygbi 2il Dîm – Chwaraewr yr Hyfforddwyr
Ioan Kneath
Harry Jones
Rhodri Jenkins
Rygbi 2il Dîm – Chwaraewr y Chwaraewyr
Josh Jones (Year 1 Rugby Course)
Jack Smith
Josh Jones (Year 2)
Rygbi 2il Dîm – Chwaraewr sydd wedi Gwella Fwyaf
Louis Williams
Regan Preece
Jayden Maybank
Rygbi Tîm 1af – Chwaraewr yr Hyfforddwyr
Seb Rodriguez Davies
Iestyn Lewis
Dan Gemine
Rygbi Tîm 1af – Chwaraewr y Chwaraewyr
Dan Gemine
Jayden Grey
Sam Williamson
Rygbi Tîm 1af – Chwaraewr sydd wedi Gwella Fwyaf
Logan Heaven Hearne
Noah Mason
Rhodri Jenkins
CAT 3 – Chwaraewr yr Hyfforddwyr
Jayden Garrett
Josh Ellis
Finn Thomas
CAT 3 – Chwaraewr y Chwaraewyr
Matthew Turner
Josh Ellis
Callum Johns
CAT 3 – Chwaraewr sydd wedi Gwella Fwyaf
Sam Franklin
Callum Johns
Jayden Garret
CAT 2 – Chwaraewr yr Hyfforddwyr
Alfie Moruzzi-Jones
Rio Davies
Josh Hughes
CAT 2 – Chwaraewr y Chwaraewyr
Rio Davies
Cameron McKnight
Steff Phillips
CAT 2 – Chwaraewr sydd wedi Gwella Fwyaf
Callum Johns
Josh Ellis
Alex Garland
CAT 1 – Chwaraewr yr Hyfforddwyr
Ricky Owen
Brad Burchell
Caleb Demery
CAT 1 – Chwaraewr y Chwaraewyr
Ricky Owen
Jacob Evans
Caleb Demery
CAT 1 – Chwaraewr sydd wedi Gwella Fwyaf
Dan Swinford
Cameron McKnight
Ollie Anderson
Pêl-droed Merched – Chwaraewr yr Hyfforddwyr
Sophie Bevan
Ellie Thomas
Ella Greenaway
Pêl-droed Merched – Chwaraewr y Chwaraewyr
Sophie Bevan
Olivia Kett-White
Grace Tilley
Pêl-droed Merched – Chwaraewr sydd wedi Gwella Fwyaf
Carys Foreman
Bethan Morgan
Elin Thomas
Chwaraewr benywaidd cyffredinol y flwyddyn
Milly Jenkins
Chwaraewr gwrywaidd cyffredinol y flwyddyn
Ricky Owen
Bu’n flwyddyn anhygoel i chwaraeon Coleg Gŵyr Abertawe gyda’r uchafbwyntiau’n cynnwys:
Pêl-droed: Cafodd tri chwaraewr eu dewis ar gyfer tîm Dan 18 Ysgolion Cymru; cafodd pump eu dewis ar gyfer tîm Dan 19 Ysgolion Cymru; cafodd pum chwaraewr benywaidd eu dewis ar gyfer Treialon Pêl-droed Colegau Cymru; daeth Cat 1 yn drydydd yn ECFA; ac aeth myfyrwyr i wersylloedd hyfforddi Benfica ym Mhortiwgal.
Rygbi: Daeth yr 2il XV yn ail yn nghynghrair 2il XV WSC; roedd yr XV 1af yn ddiguro yng nghynghrair B WSC ar gyfer tymor 23/24, gan ennill dyrchafiad i gynghrair A, a nhw oedd yr ail dîm mwyaf llwyddiannus yn y DU gyfan ar gyfer tymor 23/24, gyda record buddugol cynghrair o 100%; cyrhaeddon nhw’r rownd gyn-derfynol hefyd yn nhimau 7 Llanymddyfri a 7 yr Urdd.
Pêl-rwyd: Pencampwyr Colegau Cymru 2024 a Phencampwyr yr Urdd 2024; hefyd Pencampwyr Cwpan y Llywydd 2024 (rhanbarthol a chenedlaethol); daethon nhw yn bumed yn Uwch Gynghrair Cymdeithas y Colegau; a chweched ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol Cymdeithas y Colegau; a thrydydd yng Nghynghrair Cymru Cymdeithas y Colegau.
Yn ogystal, cafodd 17 o athletwyr y Coleg eu dewis ar gyfer tîm Trac a Maes Sirol Ysgolion Afan Nedd Tawe. Mae un o’n hathletwyr hefyd wedi cael ei ddewis ar gyfer tîm Trampolin Cymru.
“Mae’n bwysig iawn dod â’r myfyrwyr hyn ynghyd a dathlu’r hyn sydd wedi bod yn flwyddyn anhygoel,” meddai Cydlynydd Academïau Chwaraeon y Coleg, Jessica Jones. “Rydyn ni’n hynod falch o’u cyflawniadau – maen nhw wedi bod yn llysgenhadon gwych i’r Coleg a byddwn ni’n eu gwylio gyda disgwyliadau a balchder mawr wrth iddyn nhw ddatblygu eu gyrfaoedd chwaraeon gartref a thramor.
“Roedd yn gyfle hefyd i dalu teyrnged i hyfforddwyr yr Academïau - Sarah Lewis (Pêl-rwyd), Dan Cluroe (Rygbi), Richard South (Pêl-droed), Lee Hopkins (Syrffio), Mike O’Brien (Criced) a Tim Buckley (Pêl-fasged) – am eu holl gymorth ac ymroddiad dros y blynyddoedd diwethaf.”
Mae academïau chwaraeon Coleg Gŵyr Abertawe yn rhoi cyfle i’r myfyrwyr ennill y cymwysterau academaidd gorau wrth berffeithio eu sgiliau chwaraeon drwy roi modd iddynt gynnwys chwaraeon elit a hyfforddiant ffitrwydd yn eu profiad dysgu.
Mae’r Coleg hefyd yn cynnig rhaglen ysgoloriaeth chwaraeon sy’n darparu cymorth ariannol a chyfannol i fyfyrwyr sy’n dangos gallu eithriadol yn un o’r chwaraeon academi.