Skip to main content
 

Prentis yn ennill yr Ail Wobr yng nghystadleuaeth Prentis y Flwyddyn Lloriau CFA 2024

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o gyhoeddi bod Dale Dee-Ray, prentis Lefel 2 mewn Gorchuddio Lloriau, wedi ennill yr ail wobr yng nghystadleuaeth Prentis y Flwyddyn Lloriau CFA 2024.

Derbyniodd Ganmoliaeth Uchel ar ôl dangos angerdd am y diwydiant lloriau, awydd am ragoriaeth, ac ymroddiad cadarn i’w daith pentisiaeth.

Dywedodd Matthew Parker, Hyfforddwr Lloriau yn y Coleg: “Mae Dale yn fodel rôl gwych i’w gyfoedion ac mae ganddo ymagwedd ragorol tuag at ei waith a pharodrwydd i ddysgu a datblygu sgiliau newydd. Mae Dale bob amser yn rhagori ar ddisgwyliadau, ac mae ei ddygnwch a’i lygad am fanylder yn wirioneddol ysbrydoledig i’w gyd-ddysgwyr.”

Ychwanegodd Alex Rees, Hyfforddwr Lloriau yng Ngholeg Gŵyr Abertawe: “Heb os nac oni bai mae gan Dale ddyfodol disglair o’i flaen. Wrth iddo barhau i ragori yn y Coleg, does dim amheuaeth y bydd Dale yn mynd ymlaen i gyflawni pethau rhyfeddol a chael effaith bositif ar y diwydiant Lloriau.”

Wrth siarad am gyflawniad Dale, dywedodd Nathan Jeffries, Cyfarwyddwr Floor Furnishings Ltd: “Mae natur ddymunol Dale a’i barodrwydd i gydweithredu yn ei wneud yn gaffaeliad gwirioneddol i’n tîm. Mae’n mynd i’r afael â phob tasg gyda brwdfrydedd, gan feithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol sy’n codi ysbryd pawb o’i gwmpas. Mae Dale bob amser yn chwilio am gyfleoedd i ehangu ei set sgiliau, ac mae hyn yn dangos pa mor benderfynol ydyw i ragori yn ei brentisiaeth”.

Ychwnanegodd Lucy Bird, Cydlynydd Masnachol Coleg Gŵyr Abertawe: “Llongyfarchiadau i Dale ar ei lwyddiant. Mae wedi bod yn bleser gwylio ei gynnydd a’i ddatblygiad trwy gydol y rhaglen, ac rwy’n edrych ymlaen at ei weld ef a phrentisiaid eraill yn cwblhau eu teithiau dysgu gyda ni”.

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o fod yr unig ddarparwr yng Nghymru sy’n cynnig llwybr prentisiaeth Lefel 2 mewn Gorchuddio Lloriau. I ddysgu rhagor am y rhaglen neu i wneud cais, cliciwch yma neu cysylltwch â training@gcs.ac.uk.