Skip to main content

Prif Swyddog Gweithredol Coleg Gŵyr Abertawe Mark Jones yn Derbyn MBE yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin

Portread pen ac ysgwyddau

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o gyhoeddi bod ei Brif Swyddog Gweithredol, Mark Jones, wedi derbyn MBE i gydnabod ei wasanaethau i addysg yn rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin 2024. Mae’r anrhydedd mawreddog hwn yn tynnu sylw at gyfraniadau eithriadol Mark fel arweinydd addysg yng Nghymru a ledled y DU.

Gyda gyrfa yn ymestyn dros 19 blynedd fel Pennaeth a Phrif Weithredwr, Mark yw un o’r Prif Weithredwyr Coleg hiraf eu gwasanaeth yn y DU. Mae ei ymroddiad at wella bywydau pobl eraill trwy rym addysg wedi gadael effaith ddofn ar fyfyrwyr dirifedi a’r dirwedd addysgol ehangach.

Ers ymuno â Choleg Gŵyr Abertawe fel Pennaeth yn 2013, mae Mark wedi llwyddo i gynyddu ac amrywiaethu incwm y sefydliad o £36 miliwn i’r swm amcangyfrifedig o £60 miliwn y flwyddyn nesaf. Mae’r twf ariannol hwn wedi galluogi ail-fuddsoddi sylweddol mewn blociau addysgu a chyfleusterau newydd i fyfyrwyr ar draws tri champws, gan arwain at ganlyniadau academaidd trawiadol a chynnydd mewn cofrestriadau myfyrwyr.

Dan arweinyddiaeth Mark, mae gan Goleg Gŵyr Abertawe y gyfradd fwyaf o fyfyrwyr sy’n symud ymlaen i sefydliadau Rhydgrawnt yng Nghymru, gyda rhyw 10 dysgwr yn cyflawni’r garreg filltir hon bob blwyddyn. Yn ogystal, mae wedi goruchwylio ehangiad rhyfeddol mewn darpariaethau prentisiaeth, gan dyfu o 500 prentis yn 2016 i 3,500 eleni, ac o fudd i ddysgwyr a chyflogwyr.

Ni fu cyfnod Mark yn y swydd heb ei heriau. Yn 2016, fe wnaeth dywys y Coleg yn ddeheuig trwy’r cyfnod wedi tân mawr a effeithiodd ar y prif adeilad addysgu ar Gampws Tycoch am flwyddyn. Roedd ei sgiliau rheoli argyfwng eithriadol wedi sicrhau bod addysg yn parhau gyda chyn lleied o darfu, wrth i ddarlithwyr gael eu cefnogi i addysgu mewn adeiladau dros dro gan ddefnyddio adnoddau o sefydliadau eraill.

Yn ogystal â’i rôl yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, mae Mark yn gyn gadeirydd Colegau Cymru ac ers rhoi’r gorau i’r rôl honno mae wedi cadeirio ei grŵp Cyfarwyddwyr Cyllid am y pum mlynedd diwethaf ac mae’n chwarae rhan weithredol mewn nifer o grwpiau rhanddeiliaid a pholisi gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill.

Fel aelod o fwrdd Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol De-orllewin Cymru, mae Mark wedi cadeirio sawl is-bwyllgor dros yr wyth mlynedd diwethaf. Yn ogystal, mae’n cadeirio’r Grŵp Darparwyr ar hyn o bryd, gan lywio gweithgareddau sgiliau sy’n gysylltiedig â Bargen Ddinesig Bae Abertawe. 

Mae ymroddiad Mark at addysg hefyd wedi ymestyn y tu allan i Gymru fel cyn is-gadeirydd Collab Group, sef grŵp o rai o’r colegau mwyaf a dylanwadol ledled y DU. Mae Mark hefyd yn gyn aelod o fwrdd cynghori Grŵp Addysg Ryngwladol Prifysgol Myfyrwyr Tramor Beijing. 

Yn ei rôl, mae Mark hefyd wedi cael Canmoliaeth Uchel yng Ngwobrau Cyfarwyddwr y Flwyddyn Cymru ac mae wedi cyrraedd y rownd derfynol yng Ngwobrau Arwain Cymru.

Ar ôl derbyn ei MBE, dywedodd Mark Jones: “Mae’r anrhydedd hwn yn dyst i gydymdrechion y staff a’r myfyrwyr ymroddgar yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. Rwy’n teimlo’n ostyngedig iawn ac rwy’n ymrwymedig i barhau i lywio newid cadarnhaol trwy addysg.”

A hithau wrth ei bodd â’r newyddion, dywedodd y Pennaeth, Kelly Fountain: "Rydyn ni’n hapus dros ben ac yn hynod o falch bod Mark wedi cael MBE i gydnabod ei gyfraniadau sylweddol i fyd addysg a Choleg Gŵyr Abertawe. 

"Ar ran pawb yn y Coleg, hoffen ni ei longyfarch ar y cyflawniad arbennig hwn.”
Ychwanegodd Cadeirydd y Llywodraethwyr, Meirion Howells, "Mae arweinyddiaeth ac ymroddiad gweledigaethol Mark wedi trawsnewid Coleg Gŵyr Abertawe yn fodel o ragoriaeth addysgol. Rydyn ni’n hynod falch o’i gyflawniadau a’r gydnabyddiaeth haeddiannol hon."