Ein Cenhadaeth Ddinesig
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn ymrwymedig i wneud gwahaniaeth gadarnhaol a pharhaol i gymunedau, economi, diwylliant ac amgylchedd de-orllewin a chanolbarth Cymru.
Fel coleg rhanbarthol mawr, mae ein cenhadaeth ddinesig yn ymwneud â defnyddio ein gwybodaeth, ein harbenigedd, ein cyfleusterau, ein rhwydweithiau a’n dylanwad i weithio gydag eraill i fynd i’r afael â’r cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu ein cymunedau. Mae’n ymwneud â sicrhau bod addysg nid yn unig yn llwybr i gyflawniad unigol, ond yn rym pwerus ar gyfer twf cynhwysol, symudedd cymdeithasol, cyfle a lles cymunedol.
Mewn undeb mae nerth, rydym yn credu hynny yn gryf. Byddwn yn adeiladu partneriaethau cryf a phwrpasol gyda phrifysgolion, ysgolion, cyflogwyr, gwasanaethau cyhoeddus, sefydliadau cymunedol a phartneriaid rhanbarthol eraill, gan ddod â’n cryfderau ar y cyd at ei gilydd i fynd i’r afael â heriau na all unrhyw sefydliad eu datrys ar ei ben ei hun.
Bydd ein Cenhadaeth Ddinesig yn canolbwyntio ar y canlynol:
Gwrando ar ein cymunedau ac ymateb i flaenoriaethau a heriau sy’n bwysicaf i’r bobl a’r lleoedd rydym yn eu gwasanaethu.
Creu cyfle i bawb, gan ehangu cyfranogiad a gweithio i ddileu rhwystrau i bobl a chymunedau sydd dan anfantais.
Cefnogi twf economaidd cynhwysol, gan ddatblygu’r sgiliau, y dalent a’r arloesedd sydd eu hangen ar gyfer economi ranbarthol ffyniannus a chynaliadwy.
Cryfhau cymunedau, gan gyfrannu at symudedd cymdeithasol, lles, gwydnwch ac ymdeimlad cryf o berthyn.
Dathlu a chryfhau hunaniaeth ddiwylliannol ein rhanbarth, gan gynnwys yr iaith Gymraeg, treftadaeth a chreadigrwydd sy’n gwneud ein cymunedau yn arbennig.
Cefnogi cynaliadwyedd amgylcheddol, gan weithio ar y cyd i helpu i greu cymunedau gwyrddach, iachach a mwy gwydn.
Rhannu gwybodaeth, arbenigedd ac arferion effeithiol, gan wneud y gorau o’n hadnoddau ar y cyd ac osgoi unrhyw ddyblygu dianghenraid.
Rhoi cydweithredu ar waith, gan ddatblygu prosiectau a mentrau sydd â buddion clir, mesuradwy a pharhaol i’n cymunedau.
Ein cryfder unigryw yw ehangder a dyfnder ein cysylltiadau. Rydym yn cysylltu â dysgwyr o bob oedran, ysgolion, cyflogwyr, sefydliadau cymunedol a phartneriaid ledled y rhanbarth bob dydd. Mae hyn yn rhoi rôl unigryw i ni wrth gysylltu uchelgeisiau rhanbarthol â’r bobl, y cymunedau, y diwydiannau a’r lleoedd rydym yn eu gwasanaethu.
Ein Prosiectau
Dyma rai prosiectau diweddar sy’n dangos sut mae ein gwaith yn cyfrannu at ein Cenhadaeth Ddinesig:
- Partneriaethau cryf ag ysgolion yn helpu disgyblion i ffynnu
- Ailddatblygiad Campws Gorseinon bellach wedi’i gwblhau
- CyberFirst a CGA yn ysbrydoli’r to nesaf o fenywod mewn STEM
- Buddsoddi yn nyfodol adeiladu a thechnoleg adnewyddadwy
- Bwrdd cyflogwyr
- Diwrnod Rhuban Gwyn
- Prosiect Sgiliau ar gyfer y Gweithle
- Partneriaeth yn ei blodau