Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o gefnogi Diwrnod Rhuban Gwyn 2025, trwy ymuno â’r mudiad cenedlaethol i roi diwedd ar drais yn erbyn menywod a merched. Y thema eleni yw Codi Llais, ac mae’n annog dynion a bechgyn i gymryd camau cadarnhaol trwy herio agweddau niweidiol, galw ymddygiad annerbyniol allan, a hyrwyddo diwylliant o barch.
Fel rhan o’r ymgyrch genedlaethol, roedd Sarah King, Dirprwy Bennaeth Pobl a Lles, a Lorraine Evans, Ymgynghorydd Lles, yn falch o gynrychioli’r Coleg yn y Digwyddiad Rhuban Gwyn a gynhaliwyd yn y Senedd ac a drefnwyd gan Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau’r Merched yng Nghymru. Cynhaliwyd hwn cyn y 16 Diwrnod o Weithredu yn erbyn Trais Ar Sail Rhywedd, sy’n dechrau ar 25 Tachwedd, ac roedd yn cynnwys gwylnos yng ngolau cannwyll i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Rhuban Gwyn a Diwrnod Dileu Trais yn erbyn Menywod y Cenhedloedd Unedig.
Drwy gydol yr wythnos hon, bydd y Coleg yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau ar bob campws i dynnu sylw dysgwyr a staff.
Byddwn yn gosod stondinau ar draws y campysau i annog dysgwyr a staff gwrywaidd i lofnodi addewid y Rhuban Gwyn ac ymrwymo’n gyhoeddus i godi llais. Bydd dysgwyr hefyd yn cael eu gwahodd i gyfrannu at neges o gefnogaeth ar fideo ar gyfer Diwrnod Rhuban Gwyn, gan atgyfnerthu pwysigrwydd modelau rôl gwrywaidd.
Bydd pob campws yn cynnwys coeden addewid arbennig lle gall staff a myfyrwyr ysgrifennu eu haddewid bersonol i Godi Llais. Bydd yr arddangosfeydd gweledol hyn yn symboleiddio’r ymroddiad ar y cyd sy’n cael ei wneud ledled cymuned y Coleg.
Fel rhan o ymrwymiad parhaus y Coleg i gydraddoldeb a diogelu, bydd tiwtoriaid yn cyflwyno sesiynau ymwybyddiaeth Rhuban Gwyn arbennig. Bydd y sesiynau tiwtorial hyn yn rhoi sylw i realiti trais yn erbyn menywod a merched, yn tynnu sylw at bwysigrwydd perthynas barchus, a grymuso dysgwyr gwrywaidd i chwarae rôl weithredol wrth greu cymunedau mwy diogel.
Yn ogystal, bydd staff yn cael eu hannog i fod yn llysgenhadon a hyrwyddwyr Rhuban Gwyn trwy gwblhau’r modiwl hyfforddiant achrededig.
Dywedodd Sarah King, Dirprwy Bennaeth Pobl a lles yng Ngholeg Gŵyr Abertawe:
“Fel sefydliad Rhuban Gwyn achrededig, rydyn ni’n ymrwymedig i chwarae rôl weithredol wrth atal trais yn erbyn menywod a merched.
“Mae Diwrnod Rhuban Gwyn yn ddigwyddiad pwysig sy’n ein hatgoffa bod gan bawb ran i’w chwarae. Trwy annog ein dysgwyr a’n staff gwrywaidd i godi llais, herio ymddygiad niweidiol, a gweithredu fel cynghreiriaid, rydyn ni’n helpu i feithrin diwylliant o barch a diogelwch ar draws ein Coleg a’r gymuned ehangach.”