Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cyhoeddi buddsoddiad mawr mewn addysg a hyfforddiant adeiladu, yr amgylchedd adeiledig a thechnoleg adnewyddadwy.
Mae’r Coleg yn falch iawn o gadarnhau ei fod wedi cwblhau prynu adeilad pwrpasol, a fydd yn cael ei drawsnewid yn gampws newydd modern ar gyfer ei gyrsiau amgylchedd adeiledig a thechnoleg adnewyddadwy.
Bydd yr adeilad, yr hen M&P yng Ngarngoch, yn gyfleuster pwrpasol sy’n ddelfrydol ar gyfer arfogi’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol medrus gyda’r arbenigedd i ddiwallu anghenion ein rhanbarth. Yn amodol ar gynllunio a chymeradwyo grantiau, bydd y campws newydd yn agor ei ddrysau i ddysgwyr ddiwedd 2028.
“Mae hon yn garreg filltir arwyddocaol i Goleg Gŵyr Abertawe, i’n dysgwyr ac i’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu,” meddai’r Prif Swyddog Gweithredol, Kelly Fountain. “Mae hwn yn fwy na dim ond adeilad newydd – mae’n ymrwymiad mentrus i’r diwydiannau sy’n siapio ein dyfodol.
“Mae’r amgylchedd adeiledig a thechnoleg adnewyddadwy ymhlith y sectorau sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru a thu hwnt, ac maen nhw wrth wraidd ein huchelgeisiau cenedlaethol o ran seilwaith, cynaliadwyedd a sero net.
“Trwy fuddsoddi mewn cyfleusterau o’r radd flaenaf, gallwn sicrhau bod ein dysgwyr yn cael eu hyfforddi i’r safon uchaf, yn barod ar gyfer byd diwydiant ac mewn sefyllfa i wneud cyfraniad gwirioneddol a pharhaol i’r economi ranbarthol.
“Mae hyn yn dyst i gryfder gweledigaeth y Coleg a’r rôl hanfodol y bydd y Ganolfan hon yn ei chwarae yn nhirwedd sgiliau ac economaidd ehangach Cymru.”
Cafodd y Coleg ganiatâd cynllunio ym mis Tachwedd 2025 i drawsnewid yr adeilad presennol o warws i gyfleuster addysgol ac mae gwaith eisoes wedi dechrau ar ddylunio a chynllunio’r campws newydd, gan nodi cam cyffrous ymlaen i ddod â’r weledigaeth hon yn fyw.
Bydd y campws yn cynnwys ardaloedd weldio newydd a fydd yn gwella gallu’r Coleg i ddarparu hyfforddiant technegol ac ymarferol o ansawdd uchel.
Bydd y ddarpariaeth amgylchedd adeiledig yn gam mawr ymlaen o ran sut mae’r Coleg yn paratoi’r genhedlaeth nesaf o weithwyr adeiladu proffesiynol, gan greu canolbwynt lle mae diwydiant ac addysg yn gweithio law yn llaw. Bydd gan ddysgwyr fynediad at gyfleusterau o safon y diwydiant a mannau cydweithredol mewn crefftau fel gwaith coed, gwaith brics, plastro, leinin sych, teils, plymwaith, trydanol, ôl-ffitio a thechnolegau adnewyddadwy.
Yn hollbwysig, mae’r ddarpariaeth hon yn cyd-fynd yn uniongyrchol â’r cyfleoedd sy’n dod i’r amlwg gan y Porthladd Rhydd Celtaidd, un o’r datblygiadau economaidd mwyaf arwyddocaol yn hanes diweddar y rhanbarth. Wrth i’r Porthladd Rhydd ddechrau datgloi buddsoddiad mawr, creu swyddi a thwf yn y gadwyn gyflenwi ledled de Cymru, bydd myfyrwyr y Coleg ymhlith y rhai fydd yn y sefyllfa orau i fanteisio ar y cyfleoedd hynny a chyfrannu at y trawsnewidiad hwnnw.
Bydd yr adeilad hefyd yn gartref i ddarpariaeth Canolfan Ynni’r Coleg, cyfres o gyrsiau masnachol newydd sbon sy’n cyd-fynd â’r sectorau sy’n tyfu gyflymaf yn yr economi werdd. O hydrogen a thechnoleg tyrbinau gwynt, bydd y rhaglenni hyn yn gosod Coleg Gŵyr Abertawe ar flaen y gad yn y trawsnewidiad ynni, gan ddarparu’r sgiliau arbenigol sydd eu hangen ar ddiwydiant, busnesau ac unigolion i bweru’r dyfodol.
“I’n dysgwyr, mae hyn yn golygu mynediad at amgylcheddau arbenigol eithriadol sy’n adlewyrchu’r lleoliadau go iawn y byddan nhw’n gweithio ynddyn nhw, gan roi’r sgiliau, yr hyder a’r cymwysterau iddyn nhw ffynnu mewn gyrfaoedd sy’n wirioneddol bwysig,” ychwanegodd Kelly.
“Y tu hwnt i’r mannau hyfforddi eu hunain, mae’r campws wedi’i gynllunio gyda holl brofiad y dysgwr mewn golwg. Bydd yn cynnwys mannau cymdeithasol pwrpasol a lleoedd i ymlacio, gan greu amgylchedd lle gall dysgwyr gysylltu, ailwefru a ffynnu. Mae’n bwysig nodi hefyd y bydd yn darparu cymorth Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), gan sicrhau bod gan bob dysgwr, ni waeth beth yw ei anghenion unigol, fynediad cyfartal i’r cyfleoedd rhagorol y bydd y cyfleuster hwn yn eu cynnig.”
Mae’r Coleg wrthi yn cwblhau ei achos busnes yn barod i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru, sy'n garreg filltir hanfodol yn natblygiad y campws newydd. Unwaith y bydd cymeradwyaeth y cam olaf wedi’i sicrhau, bydd hyn yn sbarduno cyfradd ymyrraeth o 65% gan Lywodraeth Cymru — ymrwymiad cyllid sylweddol sy’n tanlinellu pwysigrwydd cenedlaethol y prosiect hwn a’r hyder y mae Llywodraeth Cymru wedi’i roi yn y Coleg i’w gyflawni.
Mae’r datblygiad cyffrous hwn yn golygu y bydd darpariaeth cymwysterau proffesiynol y Coleg dan arweiniad cyflogwyr yn symud i un o’r prif gampysau neu adeiladau amgen addas, gan ddod â hi yn agosach at gymuned ehangach y Coleg a’r ystod ehangach o gymorth a gwasanaethau sydd ar gael.