Skip to main content
Yr Arglwydd German OBE yn ymweld â Choleg Gŵyr Abertawe

Yr Arglwydd German OBE yn ymweld â Choleg Gŵyr Abertawe

Croesawodd myfyrwyr Llywodraeth a Gwleidyddiaeth Coleg Gŵyr Abertawe ymwelydd arbennig iawn i Gampws Gorseinon yn ddiweddar.

Fe wnaeth Arglwydd German OBE gwrdd â myfyrwyr Safon Uwch Campws Gorseinon fel rhan o raglen Learn with the Lords. 

Yn ystod yr ymweliad, fe ddarparodd yr Arglwydd German ddarlith ddiddorol ar rôl Tŷ’r Arglwyddi ar broses deddfwriaethol y DU. Gan dynnu ar ei brofiad helaeth ym mas gwleidyddiaeth, fe wnaeth ddarparu safbwynt unigryw iawn o swyddogaeth graffu Tŷ’r Arglwyddi, gan esbonio sut mae deddfwriaethau’n cael eu harchwilio, eu trafod a’u diwygio cyn dod yn gyfreithiau. 

Yn dilyn y ddarlith, cymerodd myfyrwyr ran mewn sesiwn holi ac ateb lle atebodd yr Arglwydd German OBE gwestiynau ar ystod eang o destunau - e.e. cysylltiadau’r DU ag Ewrop a sut y gall pobl ifanc ddylanwadu ar gwricwlwm, Cymru. Fe wnaeth hefyd annog ein dysgwyr i ystyried yr heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu sefydliadau gwleidyddol y DU.

"Rydym ddiolchgar iawn i'r Arglwydd German OBE am ymweld â'n myfyrwyr," meddai Rheolwr Ardal Dysgu Cynorthwyol y Coleg, Michelle Knipe. "Mae ei arbenigedd, ei onestrwydd a'i barodrwydd i ymgysylltu â'n dysgwyr wedi helpu i greu profiad addysgol cofiadwy iawn a fydd yn cyfoethogi a chefnogi astudiaethau ein dysgwyr. Rwy’n sicr ei fod wedi ysbrydoli ymgysylltiad cadarnhaol â gwleidyddol ymysg ein dysgwyr."

Mae'r Arglwydd German OBE wedi bod yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi ers 2010. Cafodd ei eni yng Nghaerdydd ac ef oedd Dirprwy Brif Weinidog Cymru 2000 a 2001 ac yna eto rhwng 2000 a 2003, a bu'n Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru yn y Cynulliad Cenedlaethol rhwng 1999 a 2008. Fe oedd arweinydd cyffredinol y Blaid yng Nghymru rhwng 2007 a 2008 ac roedd hefyd yn Weinidog Datblygu Economaidd rhwng 2000 a 2001 a Gweinidog Materion Gwledig a Chymru rhwng 2002 a 2003.

“Am grŵp bywiog, rhagorol o bobl ifanc - roedd ganddynt oll ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth a democratiaeth,” meddai’r Arglwydd German OBE. “Fe wnaethon nhw roi gobaith mawr i mi am ddyfodol Cymru a'r DU, yn enwedig o ystyried mai nhw fydd y genhedlaeth nesaf a fydd wrth y llyw!”

Mae Learn with the Lords yn gyfle unigryw i fyfyrwyr ryngweithio ag aelod o Dŷ'r Arglwyddi a dysgu mwy am rôl hanfodol Tŷ'r Arglwyddi yn Senedd y DU.