Skip to main content
Coleg yn lansio Bwrdd Cyflogwyr newydd ar gyfer sgiliau gwyrdd ac adeiladu

Coleg yn lansio Bwrdd Cyflogwyr newydd ar gyfer sgiliau gwyrdd ac adeiladu

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi lansio Bwrdd Cyflogwyr newydd sbon ar gyfer yr amgylchedd adeiledig a’r economi werdd, dau sector sy’n tyfu.

Gan gyfuno arbenigedd pobl flaenllaw o addysg a diwydiant, bydd y Bwrdd - a lansiwyd yn ddiweddar yn Ysgol Fusnes Plas Sgeti - yn gweithio gyda’i gilydd i lunio’r cwricwlwm, helpu i ddatblygu sgiliau, hyrwyddo cynhwysiant ac amrywiaeth, ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf.

Eu gweledigaeth gyffredinol yw creu gweithlu adeiladu hynod fedrus, cymwys a hyderus sy’n barod ar gyfer y dyfodol ac sy’n llywio ansawdd, arloesedd, cynaliadwyedd a thwf economaidd ar draws ein rhanbarth a thu hwnt.

Bydd hyn yn cael ei gyflawni trwy ddatblygu gweithlu adeiladu medrus ac amrywiol sy’n barod ar gyfer y dyfodol trwy bartneriaeth a dylanwad strategol dan arweiniad cyflogwyr. 

“Mae hwn yn gyfle gwych i ni gydweithio ac arloesi,” meddai Rheolwr Maes Dysgu Amgylchedd Adeiledig y Coleg, Hannah Pearce. “Gyda’n gilydd, gallwn ni rannu ein profiadau, adnabod a datblygu talent leol, a datblygu cwricwlwm cadarn sy’n addas ar gyfer y dyfodol. Mae’n gyfnod cyffrous i’r sector, gyda datblygiadau yn dod yn eu blaenau ar draws yr economi werdd a llawer o gyfleoedd ar y gorwel sy’n gysylltiedig â’r Porthladd Rhydd Celtaidd.

“Bydd y Bwrdd yn sicrhau bod cyrsiau a rhaglenni hyfforddi yn adlewyrchu anghenion diwydiant, technolegau ac arferion gorau heddiw ac yfory. Byddwn ni’n cynnig prentisiaethau, lleoliadau gwaith, cyfleoedd mentora, a gwybodaeth am y diwydiant sy’n arfogi myfyrwyr gyda sgiliau ymarferol ar gyfer gwaith. Trwy rannu ein gwybodaeth o dueddiadau sy’n dod i’r amlwg, arferion adeiladu cynaliadwy a’r byd digidol byddwn ni’n helpu i sicrhau bod ein rhaglenni Addysg Bellach yn parhau i fod yn berthnasol i’r diwydiant.”

Ochr yn ochr â Hannah, bydd y Bwrdd Cyflogwyr yn cynnwys:

Mark Bowen (Andrew Scott)
Vicky Collard (Cyngor Abertawe)
Euros Griffiths (Cyfle)
Samantha Howells (Codi Group)
Jonathan Morris (Tai Tarian)
Wyn Pritchard
Kim Rees (Cyfle)
Chris Rosser (Constructaskill)
Joan Tamlyn (Weavers)
Alec Thomas (HAPS Cyngor CNPT)
Sarah Thomas (Cyngor Abertawe)

“Mae’n anrhydedd mawr ymgymryd â swydd y Cadeirydd,” meddai Mark Bowen, Rheolwr Gyfarwyddwr Andrew Scott Ltd. “Dwi’n edrych ymlaen at weithio gyda’r tîm i osod y cyfeiriad strategol ar gyfer hyfforddiant a datblygu sgiliau yng Ngholeg Gŵyr Abertawe a mynd i’r afael â’r bylchau sgiliau presennol sydd gennym yn y diwydiant, yn enwedig yn yr economi werdd. 

“Ein nod yw nid yn unig cynghori, ond ysbrydoli safonau newydd mewn hyfforddiant a thechnolegau gwyrdd newydd. Dwi’n edrych ymlaen at gynyddu cryfderau Coleg Gŵyr Abertawe i greu bwrdd hyfforddi cyflogwyr sy’n greadigol, arloesol ac yn ymrwymedig iawn i lwyddiant ein rhanbarth.”

“Mae’n fraint enfawr cael cyfle i fod yn Is-gadeirydd,” ychwanegodd Jonathan Morris. “Mae Tai Tarian yn cydnabod pa mor bwysig yw sicrhau bod yr economi ranbarthol yn cael ei buddsoddi a’i chefnogi. I wneud hyn, mae angen i ni fuddsoddi mewn sgiliau a hyfforddiant lleol. Mae’n bartneriaeth wirioneddol a fydd yn sicrhau bod sgiliau yn cael eu datblygu’n lleol ac y bydd yr economi ranbarthol yn elwa. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at ddechrau’r gwaith hwn a gwneud gwahaniaeth i’n dyfodol ni i gyd."