Ailddatblygu Campws Gorseinon
Yn agor yn 2026
Mae Coleg Gŵyr Abertawe’n buddsoddi £20.6 miliwn ar y cyd â Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru i drawsnewid Campws Gorseinon. Bydd yr ailddatblygiad sylweddol hwn yn ehangu lle ac yn creu mannau hygyrch, cynhwysol a modern i bob dysgwr.
Mae Coleg Gŵyr Abertawe’n buddsoddi £20.6 miliwn ar y cyd â Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru i drawsnewid Campws Gorseinon. Bydd yr ailddatblygiad sylweddol hwn yn ehangu lle ac yn creu mannau hygyrch, cynhwysol a modern i bob dysgwr.
Lluniad Artist



Beth i’w ddisgwyl...
- Mynedfa newydd sbon a deniadol: Mae’n fodern, croesawgar ac yn hawdd i’w ddefnyddio.
- Bydd yr ailddatblygia: Ailddatblygiad yn cynnwys mannau llachar a lliwgar wedi’u dylunio yn wych a bydd y campws yn gwneud i chi deimlo'n gyffrous yn syth ar ôl i chi gyrraedd yno.
- Ffordd haws a mwy diogel o gyrraedd a gadael: Rydym wedi gwella’r fynedfa a’r llif traffig ar Heol Belgrave sy’n golygu y gallwch gyrraedd y campws yn haws ac yn fwy diogel.
Newyddion am yr ailddatblygiad

Cyn-fyfyrwyr yn chwarae rôl allweddol yng ngwaith ailddatblygu Gorseinon
Mae'r cyn-ddysgwyr, Owen Rees a Luc Blackmore, wedi dychwelyd i'r Coleg i chwarae rôl hanfodol yng ngwaith ailddatblygu Campws Gorseinon sy'n werth £20.6 miliwn.

Carreg filltir mewn arloesedd cynaliadwy yng Ngorseinon
Yn ddiweddar, roedd Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o nodi digwyddiad ‘gosod y garreg gopa’ ar yr adeilad newydd yng Ngorseinon, carreg filltir arwyddocaol yn y gwaith o ailddatblygu’r campws.

Dechrau prosiect Ailddatblygu Campws Gorseinon
Cyrhaeddwyd carreg filltir nodedig iawn ar Gampws Gorseinon Coleg Gŵyr Abertawe yn ddiweddar, wrth i brosiect ailddatblygu’r campws gychwyn yn swyddogol. Mae hyn yn nodi buddsoddiad sylweddol mewn addysgu a dysgu i’n holl fyfyrwyr.


