Skip to main content
Gwaith ailddatblygu Campws Gorseinon yn cyrraedd cerrig milltir pwysig

Gwaith ailddatblygu Campws Gorseinon yn cyrraedd cerrig milltir pwysig

Yn dilyn cyfnod hynod o brysur dros y gaeaf – ac er gwaethaf y tywydd gwlyb dros ben – mae’r gwaith o ailddatblygu Campws Gorseinon Coleg Gŵyr Abertawe yn mynd rhagddo’n dda, ac rydym wedi cyrraedd cerrig milltir mawr y tu mewn a’r tu allan i’r adeilad yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Gan weithio mewn partneriaeth â Kier, mae Coleg Gŵyr Abertawe yn buddsoddi £20.6 miliwn i drawsnewid y campws, gyda chymorth gan Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru. 

Mae ffrâm strwythurol lawn yr adeilad newydd bellach wedi’i chwblhau ac mae gosodiadau’r to hefyd wedi’u gorffen. 

Gan fod yr adeilad deulawr bellach yn dal dŵr, gallwn symud ymlaen gyda’r gwaith adeiladu ar y tu mewn. Mae gwaith plastro a cheblau wrthi’n cael ei wneud, rydym bron â chwblhau’r ystafelloedd dosbarth newydd ac mae’r nenfwd wrthi’n cael ei osod.

Mae’r gwaith cladin yn symud yn ei flaen yn gyflym, ac mae’r sgaffaldau wedi cael eu tynnu i lawr er mwyn paratoi’r gwaith o osod teils bric ar y ffasâd.

Y tu allan, rydym wedi creu ardal gyda seddau, rydym wrthi yn rhoi cynlluniau ar waith i greu lle addysgu allanol ac mae gwaith palmantu ar y gweill ar gyfer prif fynedfa’r Coleg. 

Pan gaiff ei gwblhau yn haf 2026, bydd y prosiect yn cynnwys labordai gwyddoniaeth modern, ystafelloedd dosbarth wedi’u hailwampio ac ystafelloedd arholi wedi’u huwchraddio. Yn ogystal, bydd mannau newydd sbon lle gall ein dysgwyr gymdeithasu neu weithio a bydd gwell ystafelloedd cymorth i ddysgwyr sy’n cynnig mwy o welededd a hygyrchedd. 

“Bydd y gwaith ailddatblygu mawr hwn yn ehangu capasiti a chreu mannau hygyrch, cynhwysol sy’n ffocysu ar y dyfodol i bob dysgwr,” meddai’r Pennaeth, Paul Kift. “Bydd y prosiect yn gwella profiad y dysgwr a chefnogi twf cynaliadwy y Coleg trwy gyfleusterau modern, ysbrydoledig a seilwaith campws mwy clyfar.”

Yn ogystal â’r adeilad newydd, mae Kier hefyd wedi cael ei gomisiynu i wneud gwelliannau i rai o adeiladau presennol y Coleg – mae hyn yn cynnwys ailagor ystafelloedd dosbarth fel labordai gwyddoniaeth modern a swyddfa cymorth i fyfyrwyr / undeb myfyrwyr wedi’i huwchraddio.

Dywedodd Ian Rees, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Kier Construction Gorllewin Lloegr a Chymru: “Mae cyrraedd y cam dal dŵr yn garreg filltir arwyddocaol ar gyfer y prosiect ac mae’n golygu y gallwn ni fwrw ymlaen, a dod â’r tu mewn i’r adeilad yn fyw.

"Mae ein timau wedi gweithio’n agos gyda’r Coleg i sicrhau bod y prosiect yn cefnogi anghenion addysgu modern a chynaliadwyedd hirdymor, mae’n wych gweld y weledigaeth hon yn cael ei gwireddu ar y safle.

“Nod yr estyniad newydd yw cyrraedd carbon sero net trwy ddefnyddio lefelau uchel o inswleiddio, gwresogi trydan effeithlon, a nifer o baneli solar ar y to. Mae’r elfennau hyn yn cefnogi uchelgais y Coleg o gael campws modern a chynaliadwy.”