Yn ddiweddar, roedd Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o nodi digwyddiad ‘gosod y garreg gopa’ ar yr adeilad newydd yng Ngorseinon, carreg filltir arwyddocaol yn y gwaith o ailddatblygu’r campws.
Mae’r Coleg yn gweithio mewn partneriaeth â Kier ar y prosiect sy’n fuddsoddiad gwerth £20.6 miliwn, a gefnogir gan Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.
Pan gaiff ei gwblhau yn 2026, bydd y prosiect yn cynnwys labordai gwyddoniaeth o’r radd flaenaf, ystafelloedd dosbarth wedi’u hailwampio ac ystafelloedd arholiadau wedi’u huwchraddio i safonau byrddau arholi. Yn ogystal, bydd mannau newydd sbon lle gall ein myfyrwyr gymdeithasu neu weithio. Bydd hefyd yn cynnwys gwell ystafelloedd cymorth i ddysgwyr sy’n fwy gweledol a chroesawgar.
Y tu allan, bydd y gwaith o uwchraddio’r cilfannau bws a chyflwyno cysgodfan a rhodfa werdd yn gwella hygyrchedd ac yn hyrwyddo teithio cynaliadwy i fyfyrwyr a staff.
Mae ‘gosod y garreg gopa’ yn seremoni symbolaidd a gynhelir ar ôl cwblhau cam strwythurol adeilad, gan nodi’r foment pan fydd y strwythur yn cyrraedd ei bwynt uchaf.
“Mae’r prosiect ailddatblygu hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i gynaliadwyedd, arloesedd a gwella profiad y myfyriwr,” meddai’r Prif Swyddog Gweithredol Kelly Fountain. “Mae’r adeilad newydd eisoes wedi ennill sgôr Ardderchog gan BREEAM am ei berfformiad amgylcheddol a’i ddyluniad cynaliadwy.
“Roedden ni wrth ein bodd o wahodd ein llywodraethwyr a’n gwesteion arbennig i’r seremoni, sydd yn garreg filltir arwyddocaol ac yn dyst i gydymdrechion ein timau, ein partneriaid a’n rhanddeiliaid. Rydyn ni’n edrych ymlaen at y cam datblygu nesaf a thrawsnewidiad parhaus ein campws.”
“Mae gosod y garreg gopa yn garreg filltir arwyddocaol ar gyfer y prosiect hwn a hoffwn i ddiolch i'r Coleg, tîm y prosiect a phartneriaid ein cadwyn gyflenwi am eu cydweithrediad parhaus a’r rhannau y maen nhw i gyd wedi’u chwarae i gyrraedd y cam hwn,” meddai Ian Rees, Cyfarwyddwr Rhanbarthol yn Kier Construction Western & Wales.
“Bydd y prosiect hwn yn chwarae rhan bwysig wrth drawsnewid Campws Gorseinon a bydd yn gadael gwaddol parhaol i genedlaethau o fyfyrwyr i ddod, a chael effaith bositif ar y gymuned leol ehangach. Rydyn ni’n falch iawn o fod yn rhan o’r stori honno.”