Peiriannwr Diogelwch Azure Cysylltiol Ardystiedig Microsoft (AZ700) - Cymhwyster
Ffôn: 01792 284400 E-bost: training@gcs.ac.uk
Trosolwg
Mae’r cymhwyster hwn yn addysgu dysgwyr sut i weithredu, rheoli a monitro diogelwch ar gyfer adnoddau Azure, amgylcheddau aml-gwmwl a hybrid (fel rhan o seilwaith pen-wrth-ben).
Bydd ymgeiswyr yn archwilio hunaniaeth a hygyrchedd data, cymwysiadau a rhwydweithiau, gan ddysgu sut i reoli'r system ddiogelwch. Byddant yn nodi gwendidau gan fynd i’r afael â nhw, canfod bygythiadau a gweithredu amddiffyniadau i atal bygythiadau.
Bydd dysgwyr yn derbyn cymorth ar ôl cwblhau’r cwrs i ymgymryd ag arholiad Microsoft AZ500, er mwyn ennill statws achrededig AZ500.
Mae sefyll yr arholiad AZ500 yn ofyniad o ran sicrhau cyllid, felly bydd disgwyl i bob myfyriwr rannu canlyniad yr arholiad gyda Choleg Gŵyr Abertawe.
Gwybodaeth allweddol
Dylai fod gan ddysgwyr brofiad ymarferol o weinyddu Microsoft Azure ac amgylcheddau hybrid, yn ogystal â bod yn gyfarwydd â chyfrifiadura, rhwydweithiau a systemau storio Azure a Microsoft Entra ID.
Llwybr dysgu 1: Rheoli hunaniaeth a mynediad
- Rheoli hunaniaeth gan ddefnyddio Microsoft Entra ID
- Rheoli dilysu trwy ddefnyddio Microsoft Entra ID
- Rheoli mynediad trwy ddefnyddio Microsoft Entra ID
- Rheoli mynediad i geisiadau gan ddefnyddio Microsoft Entra ID
Llwybr dysgu 2: Rhwydweithio diogel
- Cynllunio a gweithredu mesurau diogelwch ar gyfer rhwydweithiau rhithwir
- Cynllunio a gweithredu mesurau diogelwch ar gyfer adnoddau Azure
- Cynllunio a gweithredu mesurau diogelwch ar gyfer adnoddau cyhoeddus Azure
Llwybr dysgu 3: Cyfrifiadura, storfeydd a chronfeydd data diogel
- Cynllunio a gweithredu systemau diogelwch uwch at ddibenion cyfrifiannu
- Cynllunio a gweithredu diogelwch ar gyfer storio
- Cynllunio a gweithredu systemau diogelwch ar gyfer Cronfeydd Data Azure SQL ac Azure SQL
Llwybr dysgu 4: Rheoli gweithrediadau diogelwch
- Cynllunio, gweithredu a rheoli’r broses lywodraethol ar gyfer diogelwch
- Rheoli diogelwch trwy ddefnyddio Microsoft Defender ar gyfer y Cwlwm
- Ffurfweddu a rheoli proses amddiffyn bygythiadau trwy ddefnyddio Microsoft Defender ar y Cwmwl.
- Ffurfweddu a rheoli atebion monitro diogelwch ac awtomeiddio.
Llwybrau Dysgu Ardystiedig Microsoft yn ymwneud â Gweithrediadau Platfform Azure, Gweinyddu a Diogelwch.
Bydd y cymhwyster yn cael ei gyflwyno gan bartneriaid Coleg Gŵyr Abertawe, Stable, sy’n arweinwyr mewn Addysg Ardystiedig Microsoft.