Skip to main content

Peiriannwr Rhwydwaith Azure Cysylltiol Ardystiedig Microsoft (AZ700) - Cymhwyster

Rhan-amser, GCS Training
Microsoft Vendor Certification
TBC
Pedwar Diwrnod

Ffôn: 01792 284400 E-bost: training@gcs.ac.uk

Trosolwg

Mae’r cymhwyster hwn yn dysgu peirianwyr rhwydwaith sut i ddylunio, gweithredu a chynnal atebion rhywdwaith Azure. Bydd y rhaglen yn cwmpasu pob agwedd ar ddylunio, gweithredu a rheoli isadeiledd craidd rhwydwaith Azure, cysylltiadau rhwydwaith hybrid, traffig cydbwyso llwythi, llwybro rhwydweithiau, mynediad preifat i wasanaethau Azure, yn ogystal â diogelwch a monitro rhwydweithiau.

Byddwch yn dysgu sut i ddylunio a gweithredu seilwaith rhwydwaith diogel a dibynadwy (Azure) a sut i greu cysylltedd hybrid, llwybro, mynediad preifat i wasanaethau Azure yn ogystal â monitro ar Azure. 

Bydd dysgwyr yn derbyn cymorth ar ôl cwblhau’r cwrs i ymgymryd ag arholiad Microsoft AZ700, er mwyn ennill statws achrededig AZ700.

Gwybodaeth allweddol

Dylai ymgeiswyr fod yn Beirianwyr Rhwydwaith presennol sydd ag awydd  ennill arbenigedd yn Azure. Bydd ganddynt hefyd:

  • Brofiad o ddefnyddio cysyniadau rhwydweithio, megis cyfeiriad IP, System Enwau Parthau (DNS) a llwybro
  • Profiad o ddefnyddio dulliau cysylltu rhwydweihtiau megis VPN neu WAN
  • Y gallu i ddefnyddio porth Azure
  • Profiad o ddefnyddio porth Azure ac Azure PowerShell

Llwybr dysgu 1: Creu a Gweithredu Atebion Rhwydweithio Microsoft Azure - Cymhwyster

  • Cyflwyniad i Rhwydweithiau Rhithwir Azure
  • Dylunio a gweithredu rhwydweithiau hybrid
  • Dylunio a gweithredu ExpressRoute Azure 
  • Rheoli llwythau traffig Azure nad ydynt yn HTTP(S) 
  • Rheoli llwythau traffig HTTP(S) Azure  
  • Dylunio a gweithredu diogelwch rhwydwaith
  • Dylunio a gweithredu mynediad preifat i wasanaethau Azure
  • Dylunio a gweithredu proses monitro rhwydweithiau

Llwybrau Dysgu Ardystiedig Microsoft yn ymwneud â Gweinyddu Azure, Diogelwch a Gwasanaethau Cwmwl.

Bydd y cymhwyster yn cael ei gyflwyno gan bartneriaid Coleg Gŵyr Abertawe, Stable, sy’n arweinwyr mewn Addysg Ardystiedig Microsoft.

Off