Gweinyddwr Cysylltiol Ardystiedig Microsoft Azure (AZ104) - Cymhwyster
Ffôn: 01792 284400 E-bost: training@gcs.ac.uk
Trosolwg
Mae’r cymhwyster hwn yn dysgu gweithwyr TG proffesiynol sut i:
- Rheoli tanysgrifiadau Azure
- Sicrhau hunaniaethau
- Gweinyddu seilwaith
- Ffurfweddu rhwydweithiau rhithwir
- Cysylltu Azure a safleoedd ar y safle
- Rheoli traffig ar rwydweithiau
- Rhoi atebion storio ar waith
- Creu a graddio peiriannau rhithwir
- Gweithredu apps gwe a chynwysyddion
- Arbed a rhannu data
- Monitro eich atebion
Bydd dysgwyr yn derbyn cymorth ar ôl cwblhau’r cwrs i ymgymryd ag arholiad Microsoft AZ104, er mwyn ennill statws achrededig AZ104.
Mae sefyll yr arholiad AZ104 yn ofyniad o ran sicrhau cyllid, felly bydd disgwyl i bob myfyriwr rannu canlyniad yr arholiad gyda Choleg Gŵyr Abertawe.
Gwybodaeth allweddol
Dylai fod gan ddysgwyr brofiad mewn rhithwiroli, rhwydweithio, hunaniaeth a storio, gan gynnwys:
- Dealltwriaeth o dechnolegau rhithwiroli ar y safle gan gynnwys PRh, rhwydweithio rhithwir a disgiau caled rhithwir
- Dealltwriaeth o ffurfweddiadau rhwydwaith gan gynnwys TCP/IP, Systemau Domain Name (DNS), rhwydweithiau preifat rhithwir (VPNs), muriau gwarchod a thechnolegau amgryptio
- Dealltwriaeth o gysyniadau Active Directory gan gynnwys defnyddwyr, grwpiau a’r broses o reoli mynediad yn seiliedig ar rôl
- Dealltwriaeth o wytnwch ac adfer ar ôl trychineb, gan gynnwys gweithrediadau wrth gefn ac adfer
Llwybr dysgu 1: Rhagofynion ar gyfer gweinyddwyr Azure
- Gallu defnyddio Azure Resource Manager
- Cyflwyniad i Azure Cloud Shell
- Cyflwyniad i Bash
- Cyflwyniad i PowerShell
- Ffurfweddu adnoddau gyda thempledi Azure Resource Manager
Llwybr dysgu 2: Rheoli hunaniaeth a llywodraethu gydag Azure
- Deall Microsoft Entra ID
- Ffurfweddu cyfrifon grwpiau defnyddwyr
- Ffurfweddu tanysgrifiadau
- Ffurfweddu Polisi Azure
- Ffurfweddu rheolaeth mynediad yn seiliedig ar rôl
- Creu defnyddwyr a grwpiau Azure yn Microsoft Entra ID
- Sicrhau eich adnoddau Azure gyda rheolaeth mynediad yn seiliedig ar rôl (Azure RBAC)
- Caniatáu i ddefnyddwyr ailosod eu cyfrinair trwy ddefnyddio hunanwasanaeth ailosod cyfrinair Microsoft Entr
Llwybr dysgu 3: Ffurfweddu a rheoli rhwydweithiau rhithwir ar gyfer gweinyddwyr Azure
- Ffurfweddu rhwydweithiau rhithwir
- Ffurfweddu grwpiau diogelwch rhwydwaith
- Ffurfweddu Rhwydwaith cysylltu Rhithwir Azure
- Ffurfweddu llwybro rhwydweithiau a phwyntiau terfyn
- Ffurfweddu Azure Load Balancer
- Ffurfweddu Azure Application Gateway
- Dylunio cynllun cyfeiriadau IP ar gyfer Azure
- Dosbarthu gwasanaethau ar draws rhwydweithiau rhithwir Azure a'u hintegreiddio trwy ddefnyddio meddalwedd cysylltu rhwydweithiau rhithwir
- Cynnal eich parth ar Azure DNS
- Rheoli llif traffig eich lleoliad Azure gan ddefnyddio llwybrau penodol
- Gwella gwytnwch ceisiadau trwy ddefnyddio Azure Load Balancer
Llwybr dysgu 4: Gweithredu a rheoli gwasanaeth storio Azure
- Ffurfweddu cyfrifon storio
- Ffurfweddu Azure Blob Storage
- Ffurfweddu Azure Storage Security
- Ffurfweddu Azure Files ac Azure File Sync
- Creu cyfrif Azure Storage
- Rheoli hygyrchedd Azure Storage gan gyflwyno proses llofnodion
- Uwchlwytho, lawrlwytho a rheoli data gydag Azure Storage Explorer
Llwybr dysgu 5: Defnyddio a rheoli adnoddau cyfrifiadurol Azure
- Ffurfweddu peiriannau rhithwir
- Ffurfweddu argaeledd peiriannau rhithwir
- Ffurfweddu cynlluniau Gwasanaeth Azure App
- Ffurfweddu Gwasanaeth Azure App
- Ffurfweddu Azure Container Instances
- Rheoli peiriannau rhithwir gan ddefnyddio Azure CLI
- Creu peiriant rhithwir Windows yn Azure
- Creu cymhwysiad gwe gyda Azure App Service
Llwybr dysgu 6: Monitro a chadw copiau wrth gefn o adnoddau Azure
- Cyflwyniad i Azure Backup
- Ffurfweddu copïau wrth gefn o beiriannau rhithwir
- Ffurfweddu Azure Monitor
- Ffurfweddu Log Analytics
- Ffurfweddu Network Watcher
- Gwella’r ffordd yr ymatebir i ddigwyddiadau gydag Azure Monitor
- Dadansoddi seilwaith Azure trwy ddefnyddio logiau Azure Monitor
- Monitro eich peiriannau rhithwir Azure gydag Azure Monitor
Llwybrau Dysgu Ardystiedig Microsoft yn ymwneud â Gweithrediadau Platfform Azure, Gweinyddu a Diogelwch.
Bydd y cymhwyster yn cael ei gyflwyno gan bartneriaid Coleg Gŵyr Abertawe, Stable, sy’n arweinwyr mewn Addysg Ardystiedig Microsoft.