Newyddion y Coleg
Prentis y Flwyddyn yn trafod ei llwyddiant gyda disgyblion ysgol uwchradd
Mae merch 19 oed o Bort Talbot yn annog disgyblion o’i chyn-ysgol uwchradd i ystyried prentisiaethau fel llwybr i yrfa lwyddiannus.
Roedd Sally Hughes yn ddisgybl yn Ysgol Cwm Brombil, Port Talbot, cyn mynychu Coleg Castell-nedd i wneud bioleg, cemeg a seicoleg Safon UG. Ar ôl cwblhau’i blwyddyn, aeth ymlaen i Goleg Gŵyr Abertawe i astudio BTEC Lefel 3 mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol.
Cyn Wythnos Prentisiaethau Cymru 2019, dychwelodd Sally i’w hen ysgol i siarad â myfyrwyr cyfredol am ei phrofiad llwyddiannus fel prentis.
Darllen mwyColeg Gŵyr Abertawe yn ymuno â Grŵp Collab o Golegau
Mae’r Grŵp Collab o Golegau yn falch o gyhoeddi Coleg Gŵyr Abertawe fel ei aelod mwyaf newydd.
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn un o’r colegau addysg bellach mwyaf yng Nghymru, mae ganddo enw da iawn a bydd yn ychwanegiad gwych i’n rhwydwaith o golegau blaengar.
Mae’r Coleg yn ymfalchïo yn ei ddarpariaeth cyrsiau Safon Uwch, galwedigaethol, proffesiynol ac addysg uwch o safon uchel, yn ogystal â phortffolio prentisiaethau cynyddol a addysgir mewn partneriaeth â chyflogwyr allweddol.
Darllen mwyMyfyrwyr rhyngwladol yn dathlu’r cynigion prifysgol gorau
Mae ein myfyrwyr rhyngwladol ar hyn o bryd yn dal cynigion gan rai o’r prifysgolion gorau yn y DU, gan gynnwys 20 o’r 24 o Brifysgolion Russell Group.
“Mae hyn yn dystiolaeth bellach o’r safon dysgu ac addysgu rhagorol yng Ngholeg Gŵyr Abertawe,” dywedodd y Rheolwr Rhyngwladol Kieran Keogh.
“Dros y tair blynedd diwethaf, mae mwy na 90% o’n myfyrwyr Rhyngwladol wedi symud ymlaen i Brifysgolion Russell Group gan gynnwys Rhydgrawnt, ac – yn seiliedig ar y cynigion prifysgol eleni – mae’n ymddangos bod y tuedd hwnnw yn mynd i barhau.”
Darllen mwyRhagor o fedalau sgiliau i fyfyrwyr SBA
Mae tîm o fyfyrwyr ILS Coleg Gŵyr Abertawe wedi ennill medal Efydd yn y gystadleuaeth Sgiliau Cynhwysol (Y Cyfryngau) a gynhaliwyd yn ddiweddar yng Ngholeg y Cymoedd, Nantgarw.
Roedd Connor Maddick, Megan Bevan a Courtney Collins wedi ffilmio, cynhyrchu a golygu ffilm ddwy funud yn seiliedig ar thema ramantus Santes Dwynwen.
Nid yn unig roedd y broses o wneud y ffilm wedi rhoi eu doniau creadigol, technegol a galwedigaethol ar brawf ond roedd hefyd wedi rhoi cyfle gwych iddynt gynrychioli Coleg Gŵyr Abertawe mewn cystadleuaeth genedlaethol.
Darllen mwyUn deg un o fyfyrwyr yn mynd i Rydgrawnt
Mae 11 o fyfyrwyr o Goleg Gŵyr Abertawe wedi cael cynnig lle i astudio ym Mhrifysgol Rhydychen neu Brifysgol Caergrawnt yn 2019.
Mae’r holl fyfyrwyr hyn yn dilyn Rhaglen Paratoi ar gyfer Rhydgrawnt ar Gampws Gorseinon, sy’n bwriadu darparu’r paratoad gorau posibl i fyfyrwyr sy’n gobeithio symud ymlaen i Rydychen, Caergrawnt a phrifysgolion Russell Group eraill.
Darllen mwyMae'r Coleg ar agor fel arfer y bore 'ma - pob safle
Mae'r Coleg ar agor fel arfer y bore 'ma - pob safle
Darllen mwyRhybudd brys am dywydd garw dydd Iau 31 Ionawr
Oherwydd y tywydd garw a ddisgwylir heno (31 Ionawr) rydym wedi penderfynu canslo ein holl ddosbarthiadau nos rhan-amser ar bob campws - o 5pm.
Mae’r Noson Rieni oedd i fod i gael ei chynnal yng Ngorseinon heno (31 Ionawr) wedi cael ei gohirio a byddwn yn ad-drefnu hyn ar gyfer dyddiad arall.
Darllen mwyMyfyrwyr ILS yn gwneud eu marc mewn cystadleuaeth sgiliau
Mae myfyrwyr Sgiliau Byw’n Annibynnol o Goleg Gŵyr Abertawe wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth Sgiliau Cynhwysol yng Ngholeg y Drenewydd.
Roedd Callum East, sy’n astudio ar y cwrs Cyflwyniad i Addysg Bellach (Sgiliau Bywyd), wedi ennill y fedal Aur yn y gystadleuaeth Gwasanaethau Bwyty – Gosod Bwrdd.
Roedd Siobhan Ashour, sy’n astudio ar y cwrs Paratoi ar gyfer Gwaith, wedi sicrhau medal Efydd am ei gwaith yn y gystadleuaeth Paratoi Bwyd.
Darllen mwyMae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer saith categori mewn gwobrau AD o’r radd flaenaf
Datgelwyd bod Coleg Gŵyr Abertawe wedi cyrraedd y rownd derfynol mewn saith categori yng ngwobrau Adnoddau Dynol Cymru 2019, sy’n cydnabod ac yn dathlu cyflawniadau gweithwyr proffesiynol AD ledled Cymru.
Ar ôl lansio’r digwyddiad yn 2017, mae wedi profi i fod yn un o ddigwyddiadau mwyaf cyffrous rhwydwaith AD Cymru, sef grŵp proffesiynol blaenllaw yn y maes rhannu barn a rhwydweithio. Cafodd ei sefydlu (a’i rhedeg) gan gwmni cyfreithiol masnachol Darwin Gray ac Acorn, arbenigwyr recriwtio sydd wedi’u lleoli yng Nghaerdydd
Medalau Aur ac Arian i fyfyrwyr Tycoch
Mae myfyrwyr Peirianneg Electronig o Goleg Gŵyr Abertawe wedi cipio dwy o’r tair prif wobr yn ddiweddar yn rownd derfynol Cystadleuaeth Sgiliau Cymru (Electroneg Ddiwydiannol).
Enillydd y wobr Aur oedd Rhys Watts, gyda Ben Lewis yn ennill gwobr Arian – mae’r ddau fyfyriwr yn astudio cyrsiau Lefel 3 ar Gampws Tycoch.
Daeth Daniel Holmes o Goleg Cambria yn drydydd.
Darllen mwyPagination
- Previous page ‹‹
- Page 54
- Tudalen nesaf ››