Newyddion y Coleg
Coleg ar restr fer ar gyfer pedair gwobr AB TES
Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer mewn pedwar categori yng Ngwobrau clodfawr AB TES 2020.
Mae’r gwobrau yn gyfle i ddathlu ymroddiad ac arbenigedd pobl a thimau sydd wedi gwneud cyfraniadau sylweddol i wella sgiliau pobl ifanc ac oedolion sy’n ddysgwyr.
Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categorïau canlynol:
Darllen mwy
Dyddiadau cau Nadolig 2019
Bydd y Coleg ar gau o 1pm, Dydd Gwener 20 Rhagfyr 2019 ac yn ailagor ar 8.30am, Dydd Llun 6 Ionawr 2020.
Bydd ein Canolfan Chwaraeon Tycoch ar gau o Ddydd Nadolig, Dydd Mercher 25 Rhagfyr 2019 ac yn ailagor Dydd Iau 2 Ionawr 2020.
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda o bawb yng Ngholeg Gŵyr Abertawe!
Darllen mwy
Llwyddiant myfyrwyr mewn cystadleuaeth mathemateg
Yn ddiweddar, roedd grŵp o fyfyrwyr Safon Uwch Coleg Gŵyr Abertawe wedi cystadlu yn Her Mathemateg Uwch UKMT, cystadleuaeth dewis lluosog 90 munud ar gyfer dysgwyr o bob rhan o’r DU.
Mae’r Her yn annog rhesymu mathemategol, manylder meddwl a rhuglder wrth ddefnyddio technegau mathemategol sylfaenol i ddatrys problemau diddorol.
Enillodd y myfyrwyr nifer drawiadol o fedalau – roedd wyth wedi ennill Aur, 16 wedi ennill Arian ac roedd 11 wedi ennill Efydd.
Darllen mwy
Perfformiad Nadoligaidd yn cloi blwyddyn lwyddiannus i fyfyrwyr
Mae myfyrwyr y Celfyddydau Perfformio a’r Celfyddydau Cynhyrchu yn y Theatr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe wedi gorffen blwyddyn lwyddiannus arall gyda pherfformiad Nadoligaidd o Beauty and the Beast Disney.
Dros naw diwrnod, roedd y myfyrwyr wedi perfformio 20 sioe i gynulleidfa o bron 2000 o bobl. Roedd y rhain yn cynnwys tri pherfformiad cyhoeddus (a werthodd allan yn gyfan gwbl) a dydd-berfformiadau arbennig ar gyfer wyth ysgol gynradd leol, dwy ysgol gyfun a pharti Nadolig staff.
Darllen mwy
Digwyddiad Coleg ‘wedi’i gymeradwyo’n uchel’ mewn seremoni gwobrau cenedlaethol
Mae digwyddiad Gwobrau Blynyddol Myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe, a drefnir gan y tîm Marchnata mewnol, wedi cael ei gymeradwyo’n uchel yng Ngwobrau mawreddog Rhwydwaith Marchnata Colegau / FE First am Ragoriaeth Marchnata.
Roedd y Gwobrau Blynyddol, sy’n darparu ar gyfer dros 200 o bobl ac yn digwydd bob mis Mehefin yn Stadiwm Liberty, wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Rheoli Digwyddiadau.
Darllen mwy
Llwyddiant ysgubol i Goleg Gŵyr Abertawe yng nghystadlaethau Worldskills
Mae prentisiaid ifanc a myfyrwyr galwedigaethol gorau’r DU wedi cael eu henwi yn Rhif 1 y genedl mewn seremoni ddisglair yn Birmingham.
WorldSkills UK LIVE, a ddenodd fwy nag 80,000 o bobl ifanc i’r NEC, oedd cyd-destun Rownd Derfynol Genedlaethol Cystadlaethau WorldSkills UK a welodd fwy na 500 o bobl ifanc yn cystadlu mewn dros 70 o ddisgyblaethau gwahanol.
Mae cymryd rhan mewn cystadlaethau WorldSkills UK yn rhoi i bobl ifanc y sgiliau o’r radd flaenaf sydd eu hangen i helpu busnesau’r DU i gystadlu’n well yn fyd-eang.
Darllen mwy
Preswylwyr cartref gofal yn mwynhau gweithdai canu
Mae preswylwyr cartref gofal yn Abertawe wedi mwynhau cyfres o weithdai canu dwyieithog o ganlyniad i gydweithrediad rhwng Ffa-la-la a Choleg Gŵyr Abertawe.
Diolch i gymorth ariannol gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, roedd y Coleg wedi trefnu tair sesiwn yng Nghartref Gofal Hengoed Park yn Winsh-wen lle anogwyd preswylwyr a staff i neilltuo amser o’u diwrnod prysur i ganu gyda’i gilydd yn Gymraeg.
Darllen mwy
Wythnos Enfys y Coleg yn dathlu cynwysoldeb unigolion LGBTQ+
Mae staff a myfyrwyr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe wedi lansio eu Hwythnos Enfys gyntaf erioed gyda’r dyfarnwr rhyngwladol rygbi’r undeb o Gymru Nigel Owens, MBE.
Bwriad Wythnos Enfys CGA yw codi ymwybyddiaeth o faterion LGBTQ+ a dathlu cynwysoldeb ac amgylchedd diogel a chefnogol y Coleg.
Dechreuodd yr wythnos drwy ymrwymo i raglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall ac anerchiad a sesiwn holi ac ateb gan Nigel Owens, MBE. Roedd Nigel wedi siarad am ei frwydrau â’i rywioldeb a’i iechyd meddwl ei hun, gan dynnu sylw at bwysigrwydd bod yn driw i chi’ch hun.
Darllen mwy
Coleg Rhydychen yn ehangu menter allgymorth i Abertawe
Mae myfyrwyr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe wedi cymryd rhan mewn menter newydd sbon sy’n ceisio denu mwy o bobl ifanc o ysgolion gwladol i Brifysgol Rhydychen.
Aeth tua 80 o fyfyrwyr Safon Uwch i’r gweithdy Step Up yn ddiweddar ar Gampws Gorseinon dan arweiniad Pennaeth Allgymorth y Coleg Newydd, Rhydychen - a chyn-fyfyriwr Coleg Gŵyr Abertawe - Daniel Powell.
Darllen mwy
Dysgwyr AU y Coleg yn graddio!
Roedd dros 100 o fyfyrwyr Addysg Uwch o Goleg Gŵyr Abertawe yn rhan o ddigwyddiad graddio arbennig yn Neuadd Brangwyn.
Roedd y myfyrwyr wedi gwisgo eu capiau a’u gynau i ddathlu eu llwyddiant mewn cyrsiau addysg uwch megis cyfrifeg, busnes, gwyddoniaeth, peirianneg, gofal plant, holisteg, tai a rheolaeth.
Darllen mwyPagination
- Previous page ‹‹
- Page 55
- Tudalen nesaf ››