Newyddion y Coleg
Myfyrwyr yn barod i astudio cerddoriaeth yn y prifysgolion gorau
Mae myfyrwyr Safon Uwch Cerddoriaeth o Goleg Gŵyr Abertawe yn dathlu ar ôl cael cynigion cwrs gan rai o’r prifysgolion a’r conservatoires gorau yn y DU.
“Rydyn ni wedi cael blwyddyn wych o ran dilyniant myfyrwyr o Goleg Gŵyr Abertawe i addysg uwch ac rydw i wrth fy modd bod cynifer ohonyn nhw wedi cael lle yn y sefydliadau nodedig hyn,” dywedodd yr Arweinydd Cwricwlwm Jonathan Rogers. “Mae pob un wedi mynd trwy broses clyweliadau hynod drwyadl a chystadleuol a dylen nhw fod yn falch iawn o’u cyflawniadau.”
Darllen mwyColeg yn dathlu’r Gwobrau Prentisiaeth cyntaf
Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cynnal ei seremoni wobrwyo gyntaf erioed ar gyfer prentisiaid a chyflogwyr.
Roedd y digwyddiad arbennig, a gyflwynwyd gan Ross Harries o Scrum V Live BBC Wales, wedi cael ei gynnal i anrhydeddu ymrwymiad ac ymroddiad rhagorol y prentisiaid a’r cyflogwyr partner ‘gorau oll’.
“Dyw gwneud prentisiaeth ddim yn ddewis hawdd - mae’n gyflawniad i fod yn hynod falch ohono,” dywedodd Cyfarwyddwr Sgiliau a Datblygu Busnes y Coleg, Paul Kift.
Darllen mwyKarly yn ennill dwy wobr
Mae cyn myfyriwr mynediad o Goleg Gŵyr Abertawe wedi dod yn ail yn seremoni flynyddol Coffa Keith Fletcher.
Bydd Karly Jenkins, astudiodd Mynediad i Les Cymdeithasol yn y Coleg, cyn mynd i astudio cwrs gradd mewn gwaith cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe, yn mynychu digwyddiad cyflwyno arbennig ym Mhalas San Steffan, ar 24 Chwefror.
Dyma fydd yr ail wobr i Karly dderbyn eleni, gan mai hi hefyd enillodd gwobr Dysgwr Mynediad y Flwyddyn (Agored Cymru) yng nghategori’r Ymrwymiad Eithriadol i Astudio.
Darllen mwyMam a merch yn diolch i raglen gyflogadwyedd y Coleg
Mae Deb a Rebecca Harry (mam a merch) ymhlith y rhai diweddaraf i elwa o raglen gyflogadwyedd llwyddiannus y Coleg, Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol.
Darllen mwyColeg â chyfle da o ennill dwy Wobr Prentisiaeth
Mae gan Goleg Gŵyr Abertawe gyfle gwirioneddol o ennill gwobr ar ôl cael ei enwi ar y rhestr fer genedlaethol ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau AAC 2019.
Cyflwynwyd dros 350 o geisiadau gan golegau, darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr y DU ar gyfer y gwobrau a threfnir y digwyddiad gan Wythnos AB a Chymdeithas Darparu Addysg a Dysgu.
Mae Coleg Gŵyr Abertawe - yr unig gynrychiolydd o Gymru – wedi cyrraedd y rhestr fer mewn dau gategori. Y categori cyntaf yw gwobr y Darparwr Prentisiaethau Iechyd a Gwyddoniaeth y flwyddyn.
Darllen mwyCissy yn dychwelyd i’r llwyfan ar gyfer digwyddiad Blwyddyn Newydd Tsieineaidd
Fe wnaeth Cissy, sef myfyriwr rhyngwladol ail flwyddyn gamu i ganol y llwyfan unwaith eto eleni yn nathliadau Blwyddyn Newydd Tsieineaidd, a gynhaliwyd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.
Mae’r digwyddiad yn cael ei drefnu gan Gymdeithas Tsieineaidd Cymru ac wedi tyfu’n raddol yn ei boblogrwydd ers ei lansiad gwreiddiol.
Swynodd Cissy y gynulleidfa wrth chwarae’r erhu, sef offeryn traddodiadol Tsieineaidd.
Darllen mwyCyn-fyfyriwr yn ennill cap cyntaf i Gymru yng Nghystadleuaeth y Chwe Gwlad
Mae cyn-fyfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe wedi ennill ei chap rygbi cyntaf dros Gymru yng nghystadleuaeth y Chwe Gwlad, yn erbyn Ffrainc.
Cafodd Alex Collender, o Gaerfyrddin, ei synnu wrth iddi ennill ei chap cyntaf yn gynnar yng ngêm agoriadol y gystadleuaeth, ar Chwefror 2, ym Montpellier.
16 oed oedd Alex (dwy flynedd yn ôl), pan ddechreuodd chwarae rygbi i dîm Llanelli Wanderers, yn dilyn anogaeth gan ffrindiau. Ar hyn o bryd mae’n chwarae ei rygbi rhanbarthol gyda’r Scarlets.
Darllen mwyCynfyfyriwr yn arwyddo i Ddinas Caerdydd
Mae cynddisgybl o Ysgol Tre-gŵyr a chynfyfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe wedi arwyddo i dîm Dinas Caerdydd.
Astudioodd Danny Williams gwrs Lefel 3 Hyfforddi a Pherfformio Pêl Droed (Diploma mewn chwaraeon) yn y Coleg ac roedd yn aelod dawnus o’r Academi Bêl-droed. Mae wedi arwyddo cytundeb proffesiynol am 2.5 o flynyddoedd gyda’r clwb yn Uwch Gynghrair Lloegr.
Darllen mwyAnnog disgyblion i ‘anelu’n uchel’ mewn digwyddiad Coleg
Yn ddiweddar, trefnodd Coleg Gŵyr Abertawe ddigwyddiad arbennig i ddisgyblion Blwyddyn 10 o ysgolion uwchradd ar draws Abertawe.
Darllen mwyPrentis y Flwyddyn yn trafod ei llwyddiant gyda disgyblion ysgol uwchradd
Mae merch 19 oed o Bort Talbot yn annog disgyblion o’i chyn-ysgol uwchradd i ystyried prentisiaethau fel llwybr i yrfa lwyddiannus.
Roedd Sally Hughes yn ddisgybl yn Ysgol Cwm Brombil, Port Talbot, cyn mynychu Coleg Castell-nedd i wneud bioleg, cemeg a seicoleg Safon UG. Ar ôl cwblhau’i blwyddyn, aeth ymlaen i Goleg Gŵyr Abertawe i astudio BTEC Lefel 3 mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol.
Cyn Wythnos Prentisiaethau Cymru 2019, dychwelodd Sally i’w hen ysgol i siarad â myfyrwyr cyfredol am ei phrofiad llwyddiannus fel prentis.
Darllen mwyPagination
- Previous page ‹‹
- Page 53
- Tudalen nesaf ››