Skip to main content

Newyddion y Coleg

Y diweddaraf am Goronafeirws

Mewn cyhoeddiad wythnos diwethaf, nododd y Gweinidog Addysg y bydd rhai myfyrwyr yn cael dychwelyd i’r Coleg ar ddydd Llun 15 Mehefin. Hoffwn eich diweddaru ar sut y bydd y cyhoeddiad hwn yn effeithio ar fyfyrwyr sy’n astudio yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.

Yn gyntaf, hoffwn gadarnhau unwaith eto mai prif flaenoriaeth Coleg Gŵyr Abertawe yw iechyd a diogelwch ein myfyrwyr a’n staff. Ni fydd cyhoeddiad y Gweinidog yn newid y flaenoriaeth hon mewn unrhyw ffordd.

Darllen mwy

Lansio platfform dysgu newydd i ymgeiswyr Coleg

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o lansio ei blatfform dysgu cyntaf oll yr wythnos hon i ddisgyblion ysgol blwyddyn 11 y ddinas.

Gyda’r ansicrwydd parhaus ynghylch Covid-19, roedd y Coleg yn awyddus i gryfhau ei ymateb drwy ddatblygu llwyfan bwrpasol i helpu ymgeiswyr i gadw rheolaeth ar eu dysgu.

Mae’r platfform, a ddatblygwyd ar gyfer darpar fyfyrwyr, yn cynnwys deunyddiau dysgu, gweithgareddau ac offer ar draws amrywiaeth o feysydd cwricwlwm gan gynnwys iechyd a gofal, peirianneg, gwyddoniaeth a busnes. Mae’n cynnwys llwybrau Safon Uwch a galwedigaethol.

Darllen mwy

Coleg yn cryfhau ffocws busnes drwy ymuno â Siambr Fasnach De Cymru

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cyhoeddi ei fod bellach yn aelod o Siambr Fasnach De Cymru.

Dros y pum mlynedd diwethaf mae rhaglenni dysgu seiliedig ar waith y Coleg wedi mynd o nerth i nerth, gan weithio’n agos gyda llawer o fusnesau ar hyd a lled y y DU. Mae twf ei waith busnes-i-fusnes wedi bod yn ffactor allweddol wrth sefydlu ei hun fel un o’r colegau mwyaf blaenllaw yng Nghymru.

Darllen mwy

Cymorth cynhyrchion mislif am ddim i fyfyrwyr

Mae myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe yn dal i allu cael gafael ar gynhyrchion mislif am ddim wrth i ni barhau i fod ar gau ar gyfer addysgu wyneb yn wyneb.

Gyda’r ansicrwydd parhaus mewn perthynas â Covid-19, mae’r Coleg yn benderfynol o barhau â’i gymorth i fyfyrwyr trwy gynnig cynhyrchion mislif am ddim i’r rhai sydd eu hangen.

Gall myfyrwyr ddefnyddio’r gwasanaeth hwn drwy ymweld â’r canolfannau cymunedol a’r banciau bwyd canlynol gyda’r amserau wedi’u nodi isod.

Rhaid iddynt sicrhau bod ganddynt eu cerdyn adnabod myfyriwr cyfredol gyda nhw. 

Darllen mwy
Pennaeth, Mark Jones

Neges wedi’i diweddaru i rieni: Mai

Yr wythnos diwethaf ysgrifennais unwaith eto at bob un o’n myfyrwyr Coleg yn diolch iddynt i gyd am eu hymrwymiad parhaus i’w hastudiaethau a’u gwaith caled parhaus.

Rwyf am eich sicrhau bod y Coleg yn parhau i weithio gyda’r amrywiaeth o gyrff arholi sy’n dilysu’r gwahanol gyrsiau a gynigiwn, er mwyn deall yn well sut y mae perfformiad ein myfyrwyr yn mynd i gael ei asesu yn ystod y cyfnod gwahanol a heriol iawn hwn.

Darllen mwy
Gwaith ailddatblygu Plas Sgeti yn parhau

Gwaith ailddatblygu Plas Sgeti yn parhau

Mae’r gwaith o drawsnewid Plas Sgeti yn Ysgol Fusnes go iawn yn mynd rhagddo’n dda.

Er bod Coleg Gŵyr Abertawe yn parhau i fod ar gau ar gyfer dysgu ac addysgu wyneb yn wyneb, mae’r adran Ystadau wedi bod yn brysur y tu ôl i’r llenni yn sicrhau bod gwaith ailwampio’r adeilad rhestredig Gradd II yn parhau.

Mae’r rhan fwyaf o’r trydanwaith newydd bellach wedi’i osod, ac mae gwaith peintio ac addurno yn digwydd ar draws y llawr gwaelod.

Darllen mwy

Neges wedi’i diweddaru i fyfyrwyr - Mai

Mae wedi bod yn dair wythnos ers i mi roi’r newyddion diweddaraf i chi am y cynnydd y mae’r Coleg yn ei wneud ar yr ystod o heriau rydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd.

Hoffwn ddiolch eto i bob un ohonoch am eich ymroddiad parhaus i’ch astudiaethau. Er bod staff yn parhau i addysgu a darparu cymorth tiwtorial a bugeiliol ar-lein, mae’ch ymateb wedi bod yn ardderchog ac yn amlwg bydd yn helpu i’ch paratoi ar gyfer eich cam nesaf, beth bynnag y bo.

Darllen mwy

Dewis myfyriwr celf ar gyfer rhaglen y BBC

Mae Karen Woods, myfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe, wedi cael ei dewis i ymddangos ar raglen BBC4 “Life Drawing Live”.

Mae Karen wedi bod yn astudio’r cwrs Dyfarniad Lefel 2 mewn Lluniadu a bydd hi’n dechrau’r Diploma Sylfaen Lefel 3 mewn Celf a Dylunio ym mis Medi.

Gallwch wylio’r rhaglen am 8pm, dydd Mawrth 12 Mai ar wefan y BBC.

Darllen mwy

Rhaglen Ryngwladol Ar-lein yr Haf Rhydgrawnt: 6-17 Gorffennaf 2020

Coleg Gŵyr Abertawe yw’r prif goleg Safon Uwch yng Nghymru (DU) sydd ag enw da am lwyddiant Rhydgrawnt.   Mae ein rhaglen Rhydgrawnt wedi bod yn rhedeg am fwy na dau ddegawd, gan roi’r paratoad gorau posibl i fyfyrwyr gael eu derbyn i Rydychen, Caergrawnt a phrifysgolion Russel Group eraill. Darllen mwy

Coleg yn rhoi nwyddau i fanciau bwyd lleol

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi helpu rhoi hwb i stociau banciau bwyd drwy gyfrannu nwyddau o’u ffreuturau nad oeddent yn cael eu defnyddio.

Gyda’r campysau ar gau ar hyn o bryd oherwydd y Coronafeirws, mae staff y Coleg wedi bod yn rhoi eitemau megis creision, losin a diodydd i fanciau bwyd yn Abertawe, Eglwys Sant Steffan ac Eglwys LifePoint yn yr Uplands. 

“Rydym yn falch iawn o allu helpu a chefnogi ein cymuned leol yn y ffordd orau bosib yn ystod y cyfnod hwn,” meddai Christina Harry, Rheolwr Ystadau.

Darllen mwy