Skip to main content

Newyddion y Coleg

Rhagbrawf rhanbarthol yn rhoi myfyrwyr ar brawf

Rhagbrawf rhanbarthol yn rhoi myfyrwyr ar brawf

Mae myfyrwyr Peirianneg Electronig o Goleg Gŵyr Abertawe wedi cymryd rhan mewn rhagbrawf rhanbarthol WorldSkills y DU ar Gampws Tycoch.

Roedd y rhagbrawf rhanbarthol, sy’n rhan o fframwaith cystadleuaeth WorldSkills ac a drefnwyd mewn partneriaeth â SEMTA, yn cynnwys tri gweithgaredd ymarferol – adeiladu electronig, prawf a mesur, canfod namau – a phrawf theori.

Bydd y myfyrwyr gorau o’r digwyddiad hwn yn mynd ymlaen i’r cam nesaf yn y gystadleuaeth, a’r nod yn y pen draw fydd cael eu dewis i gynrychioli Cymru a’r DU yn rhyngwladol.

Darllen mwy
Disgyblion yn mwynhau gŵyl chwaraeon heulog

Disgyblion yn mwynhau gŵyl chwaraeon heulog

Mae dros 500 o ddisgyblion o ysgolion cynradd ar draws Abertawe wedi cymryd rhan yn nigwyddiad blynyddol Gŵyl Amlsgiliau a Champau’r Ddraig Coleg Gŵyr Abertawe yng Nghyfadeilad Chwaraeon Elba.

Mewn heulwen braf, rhoddwyd cyfle i’r disgyblion gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau fel hoci, rownderi, pêl-droed, pêl-rwyd, rygbi a golff.

Darllen mwy
Cyn-fyfyriwr yn ennill teitl Dysgwr VQ Lefel Ganolradd y Flwyddyn 2019

Cyn-fyfyriwr yn ennill teitl Dysgwr VQ Lefel Ganolradd y Flwyddyn 2019

Mae cyn-fyfyriwr Coleg Gŵyr Abertawe Collette Gorvett wedi cael ei henwi yn Ddysgwr Lefel Ganolradd y Flwyddyn yng Ngowbrau VQ 2019.

Roedd Collette, sydd bellach yn gweithio yn The Ritz yn Llundain, wedi ymuno â Choleg Gŵyr Abertawe yn 2015 i astudio Diploma Lefel 1 mewn Coginio Proffesiynol cyn symud ymlaen i’r Diploma Lefel 3 mewn Coginio Proffesiynol Uwch, Cegin a Bwtri.

Darllen mwy
Tri myfyriwr yn cael eu hystyried ar gyfer Gwobrau VQ 2019

Tri myfyriwr yn cael eu hystyried ar gyfer Gwobrau VQ 2019

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn hynod falch o gael nid un, nid dau ond tri myfyriwr sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau VQ 2019.

Yn gyntaf mae Reagan Locke, sy’n cael ei ystyried ar gyfer teitl Dysgwr Uwch VQ y Flwyddyn.

Am y tair blynedd diwethaf, mae Reagan wedi gweithio yn labordai Tata Steel. Mae hefyd wedi llwyddo i gwblhau Tystysgrif Genedlaethol Uwch  mewn Cemeg Gymhwysol (Rhagoriaeth) yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, ac roedd hyn wedi caniatáu iddo symud yn syth ymlaen i gwrs gradd rhan-amser ail flwyddyn mewn cemeg ym Mhrifysgol Abertawe.

Darllen mwy

Coleg ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Busnes Cyfrifol

Mae Coleg Gŵyr Abertawe ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Busnes Cyfrifol gan Fusnes yn y Gymuned Cymru (BITC).

Mae’r Coleg yn cael ei ystyried ar gyfer Gwobr Lles yn y Gwaith Dŵr Cymru Welsh Water i gydnabod ei seminar ‘menopos yn y gweithle’ a gynhaliwyd ar Gampws Tycoch ym mis Tachwedd 2018.

Darllen mwy

Myfyrwyr celf yn anelu’n uwch am leoedd Prifysgol

Mae myfyrwyr ar Gampws Llwyn y Bryn y Coleg yn anelu’n uwch am leoedd prifysgol, gyda rhai hyd yn oed yn dilyn yn ôl-traed Stella McCartney.

Ar hyn o bryd maen nhw i gyd yn astudio Diploma Sylfaen Celf a Dylunio, tra bod cyfleoedd yn dod i mewn o golegau celf arbenigol a’r prifysgolion gorau ar draws y DU.

Mae pedwar dysgwr o’r grŵp o 32 wedi sicrhau lleoedd amodol yn UAL (Prifysgol y Celfyddydau Llundain) ac yn Central St Martins, sydd yn un o’r colegau o dan ambarél UAL.

Darllen mwy

Datganiad: digwyddiad yn y Coleg ar Ddydd Iau 2 Mai

Hwyr brynhawn ddoe (Dydd Iau 2 Mai) bu Coleg Gŵyr Abertawe dderbyn gwybodaeth anhysbys.

Oblegid natur y wybodaeth hon a’n blaenoriaeth ni i sicrhau ein bod yn gwneud pob beth o fewn ein gallu i ddiogeli iechyd a diogelwch ein myfyrwyr, cysylltwyd yn syth â Heddlu De Cymru i gael cyngor.

Ar ôl cyrraedd, gofynwyd yr Heddlu i ni wacáu Campws Tycoch (gan gynnwys Hill House, y Ganolfan Chwaraeon a Broadway) fel rhagofal. Yna, cynhaliwyd yr Heddlu chwiliad llawn ar y safle

Ni chanfuwyd unrhyw beth amheus ac mae’r Coleg eisoes wedi’i ailagor.

Darllen mwy

NODYN BWYSIG AM NOSWAITH DYDD IAU 2 MAI

Oherwydd amgylchiadau annisgwyl, rydym wedi cau ein Campws Tycoch y noswaith yma.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu postio mor gynted ag sy’n bosib

Darllen mwy
Coleg yn cael ei ystyried am wobr Ddi-bapur

Coleg yn cael ei ystyried am wobr Ddi-bapur

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer yng Ngwobrau Di-bapur y Sector Cyhoeddus 2019…

Mae’r tîm Technoleg Gwybodaeth a Dysgu, sy’n cefnogi’r defnydd o dechnolegau ac arloesi digidol ar draws y Coleg, wedi cyrraedd y rownd derfynol yn y categori Cymhwysiad / Prosiect Digidol Gorau ar Raddfa Fach am ddatblygu e-lofnodion ar gyfer cytundebau tocynnau bws a chyllid myfyrwyr.

Darllen mwy
Gwybodaeth bwysig ar gyfer dydd Mawrth 30 Ebrill

Gwybodaeth bwysig ar gyfer dydd Mawrth 30 Ebrill

Bydd Campws Tycoch (gan gynnwys Canolfan Broadway a’r Ganolfan Chwaraeon) ar agor fel arfer ar ddydd Mawrth 30 Ebrill yn dilyn ein gollyngiad dŵr yn ddiweddar.

Ond, bydd mynediad i fwyd poeth yn gyfyngedig ar y Campws yn ystod y dydd.

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra. 

Darllen mwy