Mae’r gwaith o drawsnewid Plas Sgeti yn Ysgol Fusnes go iawn yn mynd rhagddo’n dda.
Er bod Coleg Gŵyr Abertawe yn parhau i fod ar gau ar gyfer dysgu ac addysgu wyneb yn wyneb, mae’r adran Ystadau wedi bod yn brysur y tu ôl i’r llenni yn sicrhau bod gwaith ailwampio’r adeilad rhestredig Gradd II yn parhau.
Mae’r rhan fwyaf o’r trydanwaith newydd bellach wedi’i osod, ac mae gwaith peintio ac addurno yn digwydd ar draws y llawr gwaelod.
“Er gwaethaf yr amgylchiadau anodd presennol, rydyn ni’n falch iawn bod ein harbenigwyr adnewyddu Knox a Wells wedi parhau â’r cynnydd ym Mhlas Sgeti i’r safon uchel sy’n cyd-fynd â’n gweledigaeth,” meddai Cyfarwyddwr Ystadau a TG y Coleg, James Evans.
Bydd yr ailddatblygiad uchelgeisiol, sydd wedi cael 65% cyllid gan Raglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru, yn cynnwys trawsnewid yr adeilad yn lle modern ac iddo ystafelloedd addysgu uwchdechnolegol, mannau cymdeithasol, bar coffi a llyfrgell.
Y gobaith yw y bydd y gwaith ailwampio’n cael ei gwblhau yn yr hydref.
Bydd Ysgol Fusnes Plas Sgeti yn gartref i ystod eang o gyrsiau busnes a rheoli proffesiynol, cymwysterau lefel uwch, prentisiaethau a phrentisiaethau gradd, pob un yn cael ei ddarparu gan y Coleg.