Mae myfyrwyr Safon Uwch o Goleg Gŵyr Abertawe wedi bod yn defnyddio technoleg i gadw i fyny â’u hastudiaethau yn ystod y cyfnod clo.
Yn ddiweddar, roedd grŵp o ryw 30 o fyfyrwyr, sy’n dilyn rhaglenni Seren a HE+ naill ai yn y Coleg neu mewn ysgolion uwchradd lleol, wedi cymryd rhan mewn gweithdy ar-lein a drefnwyd gan Gydlynydd Seren ac HE+ Abertawe, Fiona Beresford, oedd yn cynnwys y siaradwr gwadd Lewis Devonald, myfyriwr sydd wedi graddio’n ddiweddar mewn Hanes Modern o Goleg Lincoln, Rhydychen.
Roedd y sesiwn wedi rhoi cyngor ac awgrymiadau defnyddiol i’r dysgwyr o ran gwneud cais llwyddiannus i Brifysgol Rhydychen neu Brifysgol Caergrawnt, ac roedd wedi rhoi cyfle iddynt ofyn amrywiaeth o gwestiynau am y broses ymgeisio.
“Mae addasu i’r amodau gwaith newydd ers i’r cyfyngiadau symud ddod i rym wedi agor amrywiaeth eang o gyfleoedd cyffrous sy’n rhoi modd i fyfyrwyr gysylltu o bell â chyn-fyfyrwyr, myfyrwyr presennol, ac adrannau allgymorth o Rydychen a Chaergrawnt,” dywedodd Fiona. “Er bydd cyngor unigol wyneb i wyneb yn parhau i fod wrth wraidd ein Rhaglen Rhydgrawnt, does dim amheuaeth bod ‘na fuddion sylweddol i’w cael trwy barhau â’r sesiynau rhyngweithiol hyn ar-lein a byddwn ni, yn sicr, yn eu hintegreiddio yn ein Rhaglen Rhydgrawnt yn y dyfodol.”
Ymhlith yr awgrymiadau a roddwyd gan Lewis roedd darllen y tu allan i’r cwricwlwm i ddatblygu gwybodaeth bynciol ymhellach, cymryd rhan yn y cystadlaethau traethawd a redir gan Rydychen a Chaergrawnt i ddangos diddordeb brwd yn y pwnc, bod yn gyson ac yn gredadwy mewn datganiadau personol, ac ymarfer profion ac asesiadau derbyn o dan amodau wedi’u hamseru.
“Wrth i ni i gyd addasu i leoliad addysgol o bell, mae mor bwysig bod myfyrwyr yn parhau i gael amrywiaeth o gyfleoedd i’w hysbrydoli a’u hannog i ddilyn astudiaethau academaidd ar y lefel uchaf,” ychwanegodd Fiona. “Rydyn ni wrth ein boddau i gael cymorth siaradwyr gwadd fel Lewis wrth i ni helpu ein myfyrwyr i wneud ceisiadau cystadleuol i’r brifysgol dros y misoedd nesaf.”
Mae Fiona nawr yn edrych ymlaen at groesawu Lewis yn ôl am sesiwn ddilynol ac mae eisoes yn cynllunio rhagor o weithdai o bell, gyda dau’n cael eu cynnal gyda Choleg yr Iesu, Rhydychen, dros y bythefnos nesaf.
Os hoffech wybod rhagor am gyrsiau cysylltiedig, ewch i
https://www.gcs.ac.uk/cy/a-levels-and-gcses