Skip to main content

Newyddion y Coleg

Coleg Gŵyr Abertawe yn croesawu pedwar myfyrwyr ysgoloriaeth rygbi newydd

Croeso cynnes iawn i'n myfyrwyr ysgoloriaeth rygbi eleni:

Kian Hire (Ysgolor Aur) sy'n astudio Gosod Trydanol, o Ysgol Gyfun Pontarddulais
Finley Evans (Ysgolor Aur) sy’n astudio Chwaraeon, o Ysgol Gyfun Pontarddulais
Ben Hibberd (Ysgolor Efydd) sy’n astudio Chwaraeon, o Ysgol Gyfun Pontarddulais
Alex Jones (Ysgolor Aur) - sy'n astudio Chwaraeon, o Ysgol Gyfun Gŵyr

Darllen mwy

Gwybodaeth bwysig am ein nosweithiau agored mis Ionawr 2022

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch iawn o gynnig gyfres o nosweithiau agored rhithwir ym mis Ionawr.

Os ydych yn ystyried mynychu, cofrestrwch eich diddordeb o flaen llaw ar ein tudalen we ddynodedig.

Y dyddiadau yw:

Darllen mwy

Gwybodaeth am arholiadau ac asesiadau 2022 

Rydym yn gobeithio eich bod yn mwynhau dechrau’r flwyddyn academaidd newydd gyda ni.

Gan fod hanner cyntaf y tymor yn dod i ben, rydyn ni’n teimlo mai dyma’r cyfle i roi gwybod i chi am y cynlluniau asesu sydd ar waith ar gyfer y cymwysterau rydych chi’n eu hastudio. 

Darllen mwy

Cystadleuaeth Dathlu Creadigrwydd i fyfyrwyr Trin Gwallt Broadway.

Roedd myfyrwyr VRQ Diploma Lefel 2 mewn Trin Gwallt wrthi yn cystadlu yr wythnos diwethaf yng Nghanolfan Gwallt, Harddwch a Holisteg Broadway.

Cafodd myfyrwyr yr ail flwyddyn awr i gynllunio a chynhyrchu steil wallt fasnachol, gan gyfuno llu o sgiliau technegol a ddysgwyd yn ystod eu cwrs.

Lluniwyd y gystadleuaeth er mwyn i’r myfyrwyr ddangos eu sgiliau a’u creadigrwydd ym maes trin gwallt menywod ac iddynt gael profiad mewn gweithgaredd cystadleuaeth.

Darllen mwy
I ffwrdd â ni i rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills!

I ffwrdd â ni i rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills!

Mae naw myfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe gan gynnwys myfyrwyr presennol a chyn-fyfyrwyr wedi cyrraedd y rowndiau terfynol cenedlaethol yn WorldSkills UK, gan ei gwneud hi’n bosibl iddynt ymgiprys am fedalau aur, arian ac efydd ym mis Tachwedd. Dyma nhw:

Darllen mwy

Diweddariadau i brofion Covid-19 myfyrwyr

Yn unol â chanllawiau diweddar Llywodraeth Cymru i leihau trosglwyddo Covid-19 ymhellach, bydd y newidiadau canlynol ar waith o ddydd Llun 11 Hydref:

Darllen mwy

Y Coleg yn ennill Gwobr Rhagoriaeth Fyd-eang

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi derbyn Gwobr Rhagoriaeth Addysg Fyd-eang Ysgolion Uwchradd Education First (EF) am yr eildro. 

Cyflwynwyd y wobr i’r Coleg i gydnabod y cymorth a gynigiwn i fyfyrwyr i’w helpu i gyflawni canlyniadau Safon Uwch rhagorol a symud ymlaen i rai o brifysgolion gorau’r DU. 

Brand byd-eang yw EF sy’n enwog iawn ym maes addysg, felly mae hyn yn gydnabyddiaeth wych i’r Swyddfa Ryngwladol a staff addysgu safon uwch am eu hymrwymiad i gefnogi llwyddiant myfyrwyr yn ystod cyfnod mor heriol.

Darllen mwy

Y coleg Cymreig arobryn sy’n helpu rhagor o fenywod i fod yn wyddonwyr

Trwy gydol hanes, dynion sydd wedi dominyddu’r diwydiannau gwyddoniaeth a mathemateg i raddau helaeth.

Yn hanesyddol mae menywod ifanc wedi tueddu i gadw draw o bynciau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg) yn ystod eu blynyddoedd ysgol. Gall hyn ddeillio o lawer o bethau, ond un ohonynt yw’r stereoteip hen ffasiwn bod gyrfaoedd STEM yn fwy addas ar gyfer dynion.

Ac o ganlyniad, yn aml gall menywod fod yn lleiafrif yn y diwydiannau hyn.

Darllen mwy

Coleg Gŵyr Abertawe i gael sbardun sgiliau o’r radd flaenaf

Mae Coleg Gŵyr Abertawe ar fin cael sbardun sgiliau o’r radd flaenaf ar ôl cael ei ddewis i ymuno â rhaglen hyfforddiant elit.

Nod y Coleg yw sbarduno ansawdd a darpariaeth hyfforddiant technegol a galwedigaethol trwy drosglwyddo arbenigedd a gwybodaeth o’r radd flaenaf i helpu i ddatblygu addysgwyr a dysgwyr.

Darllen mwy
Allech chi fod ein Myfyriwr-lywodraethwr nesaf?

Allech chi fod ein Myfyriwr-lywodraethwr nesaf?

Sylwch fod y ffenestr gais am y rôl hon bellach wedi cau – diolch yn fawr i bawb a wnaeth ymgeisio a phob lwc!

Ydych chi’n angerddol am eich Coleg ac eisiau iddo fod y gorau yng Nghymru?

Oes gennych chi yr hyn sydd ei angen i fod yn aelod o Fwrdd menter sy’n werth miliynau o bunnoedd?

Ydych chi’n hyderus i gyflwyno safbwynt y myfyriwr?

Allwch chi ymrwymo i gyfrannu amser at rôl heriol a buddiol?

Darllen mwy