Ychydig cyn gwyliau’r Nadolig, cynhaliodd Coleg Gŵyr Abertawe Ddiwrnod Lles pwrpasol i’w staff.
Roedd dros 400 o aelodau staff ar draws pob campws wedi mwynhau’r gweithgareddau rhad ac am ddim a oedd yn cynnwys profiadau un-i-un a gweithgareddau cymdeithasol.
Roedd rhai o’r gweithgareddau lles yn cynnwys:
Therapi dŵr oer - Aeth staff dewr i mewn i’r môr ym Mae Caswell ac wedyn ar ôl iddyn nhw sychu cawson nhw ddiod boeth a rholyn cig moch. Mae therapi dŵr oer yn gwella’ch cylchrediad, yn rhoi hwb i’ch system imiwnedd, yn gwella eich cwsg, yn cynyddu eich lefelau egni, ac yn lleihau llid yn eich corff.
Therapi anifeiliaid anwes – Cafodd staff eu cyfarch yn gynnes gan Noa, y ci achub Romaniaidd o Cariad Pet Therapy. Mae rhyngweithio ag anifail cyfeillgar yn gallu helpu i leddfu nifer o broblemau meddyliol a chorfforol.
Triniaethau Tylino - Roedd tylino pen Indiaidd a thylino ar gadair ar gael ar draws ein campysau, gan roi cyfle i staff ymlacio a dadflino’n llwyr.
Twrnamaint Dodgeball – Roedd timau o bump o staff yr un yn cystadlu yn erbyn ei gilydd mewn twrnamaint dodgeball. Dyma un o’r gweithgareddau hwyliog niferus cysylltiedig â ffitrwydd a gafodd eu cynnal ar y diwrnod lles hwn.
Cystadleuaeth efelychu rasio Fformiwla 1 Gwdihŵs CGA - Yn dilyn lansiad Cynghrair Lles Staff F1 Gwdihŵs CGA newydd, cafodd staff gyfle i roi cynnig ar eu sgiliau rasio ac ennill gwobr.
“Roedd y Diwrnod Lles hwn yn gyfle i staff ymlacio a chymdeithasu cyn diwedd tymor y Coleg,” meddai Cyfarwyddwr AD, Sarah King.
“Diolch o galon i bawb a drefnodd, a gynhaliodd ac a gymerodd ran yn y sesiynau ac mae’r adborth wedi bod yn hynod gadarnhaol.”
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o fod wedi ennill Gwobr Safon Iechyd Gorfforaethol Aur i gydnabod ei bolisi ar gyfer cynnal a hyrwyddo ansawdd uchel o iechyd a lles yn y gweithle.
Ochr yn ochr â Diwrnodau Lles, mae’r Coleg yn rhedeg gweithgareddau lles wythnosol. Mae’r holl wybodaeth am les i’w gweld ar ein Porth Lles newydd.