Newyddion y Coleg
Dau fyfyriwr Coleg Gŵyr Abertawe yn cipio medalau Gwobrau Addysg Oedolion Ysbrydoli!
Mae dau fyfyriwr Coleg Gŵyr Abertawe – Phyllis Gregory a Wilnelia De Jesus – wedi ennill gwobrau yng Ngwobrau Addysg Oedolion Ysbrydoli!, sy’n dathlu dysgu gydol oes.
Wilnelia De Jesus
Darllen mwyDiweddariad ar gyfer rhieni/gwarcheidwaid
Yr wythnos hon, cawsom wybod gan Fwrdd Iechyd Bae Abertawe bod y Tîm Rheoli Digwyddiadau Rhanbarthol (TRhD) yn ystyried bod y lefel risg bresennol o goronafeirws ym Mae Abertawe yn cyfateb â’r sgôr uchel ar eu fframwaith.
Yn dilyn hyn, er nad yw’r Coleg ei hun yn risg uchel, mae canllawiau TRhD yn gofyn i’r holl sefydliadau - gan gynnwys ysgolion - gymryd camau ychwanegol i helpu i atal y feirws rhag lledaenu yn y gymuned ehangach.
Fel Coleg, mae gennym eisoes nifer o fesurau rheoli ar waith, sy’n cynnwys:
Darllen mwyGwybodaeth am ein nosweithiau agored rhan-amser Medi 2021 (Campws Tycoch)
Rydym yn falch iawn o allu agor ein drysau ar 13 ac 14 Medi ar gyfer ein nosweithiau agored rhan-amser (5.30pm-7.30pm).
Mae’r digwyddiadau hyn yn ddelfrydol i’r rhai sydd heb gael cyfweliad dros y ffôn eto ar gyfer cwrs rhan-amser, neu’r rhai nad ydynt yn siŵr beth yw’r cwrs iawn iddynt.
Gwaith celf arbennig yn dal ysbryd Llwyn y Bryn
Mae’r myfyriwr Celf a Dylunio, Flora Luckman, wedi cael ei chomisiynu gan Goleg Gŵyr Abertawe i greu darn o waith pwrpasol sy’n dal ethos ac awyrgylch Campws Llwyn y Bryn.
Yn ddiweddar, mae Flora wedi cwblhau’r cwrs Gradd Sylfaen mewn Celf a Dylunio yn Llwyn y Bryn ac mae bellach yn symud ymlaen i Brifysgol Caeredin i astudio Darlunio.
Neges i rieni/warcheidwaid
Rwy’n gobeithio eich bod chi a’ch teulu wedi mwynhau gwyliau’r haf.
Wrth i’n myfyrwyr ddychwelyd i’r Coleg, hoffem eich gwneud yn ymwybodol o’r trefniadau sydd ar waith o ddechrau tymor yr hydref a sut y byddwn yn parhau i flaenoriaethu iechyd a diogelwch ein myfyrwyr tra byddant yn y Coleg.
Yn gyntaf, ein bwriad yw y bydd y rhan fwyaf o’r addysgu yn digwydd wyneb yn wyneb ond byddwn ni hefyd yn ystyried rhoi rhagor o gymorth i’r dysgwyr hynny sy’n gorfod hunanynysu gartref.
Darllen mwyAnrhydedd Coleg Noddfa i Goleg Gŵyr Abertawe
Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cael ei gydnabod yn swyddogol fel Coleg Noddfa, y Coleg AB cyntaf yng Nghymru i dderbyn clod o’r fath.
Rhoddwyd yr anrhydedd hon i’r Coleg gan City of Sanctuary UK, sefydliad sy’n ymrwymedig i adeiladu diwylliant o ddiogelwch, cyfle a chroeso, yn enwedig i’r rhai sy’n ceisio noddfa rhag rhyfel ac erledigaeth.
Yn ystod y broses asesu, canmolwyd y Coleg am ei ymrwymiad i ddarparu lle diogel, croesawgar a hygyrch i’r holl ddysgwyr. Cafodd y pwyntiau canlynol eu canmol gan y panel:
Darllen mwyCanolfan Chwaraeon Coleg Gŵyr Abertawe – diweddariad pwysig
Oherwydd canllawiau’r Coleg ar weithrediadau diogel, bydd y Ganolfan Chwaraeon ar agor i aelodau o’r cyhoedd rhwng yr oriau canlynol yn unig o 1 Medi 2021:
Dydd Llun – Dydd Gwener: 6.30am-8.30am a 4.30pm-10pm
Byddwn ni’n gweithredu fel arfer bob dydd Sadwrn a dydd Sul.
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi, ond gwnaed y penderfyniad hwn yn unol â’r canllawiau ôl-16 diweddaraf gan Lywodraeth Cymru cysylltiedig â diogelwch covid.
Bydd y penderfyniad yn cael ei adolygu ar 31 Hydref 2021.
Darllen mwySioe Haf Celf a Dylunio Sylfaen 2021 – “2031”
Croeso i’n Harddangosfa Celf a Dylunio Sylfaen, yn seiliedig ar y thema “2031”. Mynnwch gip ar ein sioe rithwir isod trwy glicio ar y cylchoedd i symud o gwmpas. Cliciwch a llusgwch i edrych i unrhyw gyfeiriad a chliciwch ar y cylchoedd pinc i wylio fideos o’n myfyrwyr yn trafod eu gwaith!
Darllen mwy
Sut le fydd Coleg Gŵyr Abertawe yn y tymor newydd?
Mae’r Pennaeth Mark Jones yn edrych ymlaen at ddechrau tymor yr hydref, gan esbonio sut mae’r Coleg yn parhau i sicrhau mai iechyd a diogelwch yw’r brif flaenoriaeth o hyd.
Wrth i ni nesáu at ddechrau’r tymor newydd, mae’n amser da i fyfyrio ar sut mae pethau wedi bod hyd yma yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.
Darllen mwyDr Doolittle Abertawe yn derbyn cynnig gan Gaergrawnt
Mae myfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe un cam yn agosach at gyflawni ei freuddwyd o ddod yn filfeddyg ar ôl derbyn cynnig i astudio yn un o brifysgolion mwyaf nodedig y DU.
Ar ôl ennill tair A* mewn Mathemateg, Bioleg a Chemeg, mae Edan Reid, 18 oed o Abertawe â’i fryd ar fod yn filfeddyg arbenigol.
Darllen mwyPagination
- Previous page ‹‹
- Page 32
- Tudalen nesaf ››