Ym mis Tachwedd, daeth dros 500 o’r myfyrwyr a’r prentisiaid gorau o bob rhan o’r DU at ei gilydd am oriau o gystadlu dwys, ar ôl ennill yn Rownd Derfynol WorldSkills UK.
Mae WorldSkills yn fudiad byd-eang o dros 80 o wledydd sy’n cefnogi pobl ifanc drwy hyfforddiant seiliedig ar gystadlaethau. Yn Rownd Derfynol y DU cystadlodd pobl ifanc mewn 62 o ddisgyblaethau o Gelf Gemau Digidol 3D i Dechnegydd Labordy, a chafodd y medalwyr eu cyhoeddi yn ystod diwgyddiad dathlu ar-lein ddydd Gwener 25 Tachwedd.
Ymhlith y rhai sydd wedi ennill medalau mae dau fyfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe:
Arian - Leon Date (Sgiliau Sylfaen: Gwasanaeth Bwyty)
Efydd – David O’Neill (Electroneg Ddiwydiannol)
“Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, rydyn ni mor falch o’n holl gystadleuwyr sy’n cymryd rhan yn y cystadlaethau cenedlaethol dwys hyn” dywedodd Deon y Gyfadran, Cath Williams. “Llongyfarchiadau enfawr i Leon a David, a diolch yn fawr i’r holl staff a weithiodd gyda’n cystadleuwyr i baratoi ar gyfer y cystadlaethau.”
Darllenwch ragor am Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK a rhan y Coleg ynddynt, a gwyliwch y seremoni, wedi’i chyflwyno gan Steph McGovern yn stiwdios Packed Lunch Channel 4.