Newyddion y Coleg
Myfyrwyr yn dathlu canlyniadau arholiadau gwych ar gyfer 2021
Ar ddiwedd blwyddyn academaidd heriol arall, mae myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe yn dathlu canlyniadau gwych.
Y gyfradd pasio cyffredinol ar gyfer Safon Uwch oedd 99%, a derbyniwyd 1927 o gofrestriadau unigol ar gyfer sefyll arholiadau. Roedd 43% o’r graddau hyn yn A*-A, roedd 70% yn A*-B ac roedd 88% yn A*-C.
Y gyfradd pasio cyffredinol ar gyfer Safon UG oedd 95%, gyda 76% o’r graddau hyn yn A - C, ac roedd 56% yn raddau A - B. Derbyniwyd 1927 o gofrestriadau unigol ar gyfer sefyll arholiadau Safon UG.
Darllen mwyDiwrnod canlyniadau 2021 – gwybodaeth bwysig am apelio
Os oes unrhyw ddysgwr yn dymuno i’w ganlyniadau gael eu hadolygu, rhaid gwneud hyn ar-lein.
Darllen mwyGwybodaeth am Ganlyniadau 2021
Bydd canlyniadau’n cael eu dosbarthu i fyfyrwyr drwy eILP. Gall fyfyrwyr gael gafael ar eu canlyniadau drwy ap engagae neu wefan y coleg.
Darllen mwyMyfyrwyr yn cael blas ar yrfa cogydd enwog
Mae cogydd eiconig o Brydain wedi rhoi cipolwg sydyn y tu ôl i’r llenni i grŵp o fyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe ar ei fwyty yn Abertawe yn ogystal â rhoi blas iddynt ar ei yrfa ysbrydoledig.Fe wnaeth Marco Pierre White, a agorodd ei Steakhouse Bar & Grill y llynedd yn y J-Shed yn SA1, gwrdd â phedwar myfyriwr o adran Arlwyo a Lletygarwch y Coleg.
Cafodd Mr Pierre White drafodaeth anffurfiol gyda’r myfyrwyr am ei yrfa, y diwydiant a rhoddodd awgrymiadau a chynghorion amhrisiadwy o’r grefft.
Darllen mwyColeg Gŵyr Abertawe yn cipio dwy brif wobr prentisiaeth arall
Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi ennill teitlau nodedig ‘Darparwr y Flwyddyn y DU - Prentisiaethau Digidol’ a ‘Darparwr y Flwyddyn y DU - Prentisiaethau Peirianneg a Gweithgynhyrchu’ yng Ngwobrau Prentisiaeth AAC FE Week ac AELP. Y Coleg oedd yr unig ddarparwr o Gymru i ennill gwobr a’r unig ddarparwr yn y DU i sicrhau dwy wobr yn y digwyddiad.
Darllen mwyDiwrnod iachusol allan ym Mae Rhosili
Roedd golygfeydd hyfryd a thraeth eang Bae Rhosili wedi creu cryn argraff ar ein carfan blwyddyn 1af bresennol.Roedd y myfyrwyr yn falch iawn o gael cyfle i ymlacio gyda’i gilydd a chymdeithasu ar un o draethau mwyaf poblogaidd Bro Gŵyr. Roedd glaw yn edrych yn debygol, ond yn ffodus, roedd y tywydd wedi aros yn sych ac yn fwyn yn ystod ein hymweliad grŵp.
“Dyma un o’r golygfeydd gorau dwi erioed wedi’i gweld, ac mae Pen Pyrod yn fy atgoffa i o’m hoff draeth gartref,” meddai Nick, sy’n wreiddiol o Gambodia.
Darllen mwyLlwyddiant Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru i Byddia a Jae
Mae’r ddau fyfyriwr dawnus o Goleg Gŵyr Abertawe wedi cael eu derbyn i astudio BA (ANRH) Theatr Gerdd mewn coleg arbenigol yng Nghymru.Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yw Conservatoire Cenedlaethol Cymru ac mae’n denu myfyrwyr dawnus dros ben i astudio yno o bob cwr o’r byd.
Maen nhw’n darparu hyfforddiant ymarferol arbenigol mewn cerddoriaeth a drama ac yn cynhyrchu rhai o fyfyrwyr mwyaf cystadleuol y byd, gan alluogi myfyrwyr i fentro i fyd cerddoriaeth, theatr a disgyblaethau cysylltiedig eraill.
Darllen mwyGwobrau Myfyrwyr Blynyddol Rhithwir Coleg Gŵyr Abertawe 2021
Am yr ail flwyddyn yn olynol, symudodd Gwobrau Myfyrwyr Blynyddol Coleg Gŵyr Abertawe ar-lein ac, unwaith eto, roedd yn ddathliad rhithwir gwych o lwyddiant myfyrwyr.
Roedd y digwyddiad yn cynnwys 23 categori gwobr ar wahân ar draws darpariaeth helaeth y Coleg gan gynnwys amser llawn, rhan-amser, prentisiaethau, rhaglenni cyflogadwyedd a chyrsiau Addysg Uwch.
Darllen mwyDiweddariad ar Ganlyniadau Adolygiadau’r Ganolfan
Mae proses Adolygu’r Ganolfan bellach wedi cael ei chwblhau ac mae’r holl raddau wedi cael eu hanfon i CBAC.
Os ydych wedi gwneud cais am adolygiad byddwn yn e-bostio ymateb a’r canlyniad i chi erbyn diwedd heddiw - dydd Llun 5 Gorffennaf
Bydd cyfle arall i apelio pan gaiff y graddau terfynol eu cyhoeddi gan CBAC ar 10 Awst (Safon Uwch) a 12 Awst (TGAU).
Bydd gwybodaeth ynghylch sut i wneud hyn yn cael ei rhoi gyda’ch canlyniadau ar y dyddiadau uchod. Byddwn hefyd yn anfon gwybodaeth atoch yn fuan i’ch hysbysu pryd a ble i gasglu’ch canlyniadau.
Dathlu Graddio Myfyrwyr Rhyngwladol – Dosbarth ‘21
Roedd myfyrwyr Rhyngwladol yr ail flwyddyn wedi dathlu eu Graddio U2 yn ddiweddar yn Ysgol Fusnes Plas Sgeti.
Darllen mwyPagination
- Previous page ‹‹
- Page 33
- Tudalen nesaf ››