Mae dysgwr ESOL (Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill) a TGAU Coleg Gŵyr Abertawe, Hisham Saeed, wedi ennill Gwobr Gorffennol Gwahanol - Dyfodol a Rennir yng Ngwobrau Dysgu Oedolion Ysbrydoli!.
Stori Hisham
20 oed oedd Hisham Saeed pan gyrhaeddodd Brydain yn 2017. Roedd ei fam wedi marw pan oedd yn ifanc iawn ac yntau yn byw mewn pentref tu allan i ddinas Mosul yng ngogledd Iraq, nid oedd erioed wedi cael cyfle i fynd i’r ysgol. Fe wnaeth ei fam-gu a’i dad-cu ei annog i ffoi o Iraq ac ar ar ôl taith hir a pheryglus i Brydain, daeth i Abertawe.
Bu astudio yn freuddwyd i Hisham bob amser: “Roeddwn yn byw gyda fy nhad-cu a fy mam-gu, ac roedd yn rhaid i mi ofalu am y fferm. Dysgodd fy nhad-cu fi i ddarllen ac ysgrifennu ond bu’n rhaid i ni symud a gadael popeth pan ddaeth y rhyfel. “Fedrwn i ddim siarad unrhyw Saesneg pan gyrhaeddais. Nid oeddwn yn adnabod neb yma ac roedd popeth yn teimlo mor rhyfedd. Doeddwn i ddim yn adnabod unrhyw Gwrdiaid felly roeddwn yn teimlo’n eithaf unig.”
Dechreuodd ddysgu Saesneg mewn sesiynau galw heibio gan Cymorth Ceiswyr Lloches Abertawe: “Fe wnes ymuno â grŵp bach o bobl yn dysgu Saesneg ond fe wnaethon nhw hefyd roi bwyd a dillad i fi.” Cafodd ei lywio at Goleg Gŵyr Abertawe lle dechreuodd ar gwrs Saesneg fel Ail Iaith (ESOL). Roedd mor benderfynol fel iddo ddewis hefyd astudio TGAU mewn mathemateg a chemeg ar yr un pryd: “Dywedais mod i eisiau gwneud rhywbeth mwy anodd a mod i eisiau mynd i brifysgol. Fy mreuddwyd yw gweithio mewn gwyddor feddygol. Fe basiais fy ESOL a chefais raddau da yn fy mathemateg a chemeg.” Daliodd Hisham ati gyda’i astudiaethau er gwaethaf cyfnod o fod yn ddigartref: “Roeddwn yn byw ar y stryd am gyfnod. Doedd gen i ddim cartref”. Gyda chefnogaeth prosiect Share Tawe, cafodd le i aros gyda theuluoedd nawdd: “Roeddwn yn lwcus iawn, fe roddodd teuluoedd hyfryd le i mi ac rwyf mor ddiolchgar.”
Penderfynodd wneud pedair TGAU arall a nawr yn 25 oed mae’n gorffen ei arholiadau lefel A ac yn gobeithio cael ysgoloriaeth i astudio Fferylliaeth ym Mhrifysgol Abertawe. Mae rhoi yn ôl yn bwysig i Hirsham. Gan gyfieithu o’r Gwrdeg i Saesneg ar gyfer ceiswyr lloches a ffoaduriaid, mae’n mynychu apwyntiadau meddygol i helpu pobl eraill i gofrestru gyda meddyg teulu neu esbonio materion iechyd. Mae’n gwirfoddoli yn Matt’s Cafe sy’n darparu prydau a gwasanaethau eraill i bobl ddigartref: “Mae Abertawe mor bwysig i mi. Mae’n lle a wnaeth fy ngweld ar fy isaf. Ond fe wnaeth cymaint o bobl helpu, wnes i erioed dorri fy nghalon. Ble bynnag yr ydych yn dod ohono, does dim yn amhosibl os rhoddwn ddigon o ymdrech i rywbeth.”
Cafodd Hisham ei enwebu gan Sadie Evans, darlithydd ESOL yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. Dywedodd: “Mae penderfyniad ac uchelgais cadarn Hisham wedi gwneud argraff fawr ar bawb ohonom. Mae ganddo stori anhygoel a mae’n enghraifft wych o sut y gall addysg drawsnewid eich bywyd.”
Ysgrifennwyd yr astudiaeth achos hon gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith i ddathlu Hisham Saeed, cyd-enillydd y categori Gorffennol Gwahanol: Dyfodol a Rennir yng Ngwobrau Dysgu Oedolion Ysbrydoli!.