Mwynhaodd myfyrwyr Gofal Plant ar gampysau Tycoch a Gorseinon weithdai canu gan Carys John o gwmni Ffa-La-La. Mae Ffalala yn gwmni sydd yn hyfforddi bobl sy’n gweithio mewn meithrinfeydd ar eu defnydd o’r Gymraeg.
Nod y gweithdai misol yma yw hyfforddi ein myfyrwyr - sydd un ai ar leoliad mewn meithrinfa, ysgol neu gartref preswyl - i ganu caneuon syml yn y Gymraeg a chreu symudiadau i gyd-fynd a nhw.
“Roedd yn gyfle arbennig i’r myfyrwyr ddatblygu eu sgiliau yn y Gymraeg mewn ffordd ymarferol a gyda chysylltiad cryf i’w lleoliad gwaith,” meddai Rheolwr y Gymraeg Anna Davies. “Gallant fod yn fwy hyderus nawr wrth gyflwyno rhai caneuon yn y Cyfnod Sylfaen, sydd yn ei dro yn gwella sgiliau Cymraeg plant a phobl hŷn y maent yn dod i gyswllt a nhw. Hoffwn roi diolch arbennig i Carys am gynnal y gweithdai hyn.”