Mae tîm pêl-rwyd Coleg Gŵyr Abertawe yn dathlu ar ôl cael dau lwyddiant yn ddiweddar.
Fe wnaeth buddugoliaeth 8-7 yn erbyn Coleg Gwent Cross Keys yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru sicrhau record chwe-gêm perffaith iddyn nhw, gan eu gwneud yn Bencampwyr Colegau Cymru 2022-23!
Yn ogystal, cafodd saith chwaraewr eu dewis ar gyfer treialon Pêl-rwyd Colegau Cymru yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro:
- Ava Featon
- Sophie Beynon
- Rachel Fairbain
- Megan Gwyther
- Hannah Forkuoh
- Alice Waygood
- Imogen Harris
“Mae’r rhain yn gyflawniadau gwych, ac rydyn ni i gyd wrth ein boddau,” dywedodd yr Hyfforddwr Sarah Lewis. “Mae’r merched wedi bod yn gweithio’n galed tu hwnt tuag at y llwyddiant hwn, gan jyglo hyfforddiant pêl-rwyd gyda’u hastudiaethau academaidd, ac mae’r canlyniadau hyn yn dyst go iawn i’w hymroddiad nhw.”