Mae darlithydd Coleg Gŵyr Abertawe, Wyn Richards, wedi ymuno â Chofrestr Datblygwyr Allanol corff dyfarnu UAL.
Ymunodd Wyn â’r Coleg yn 2015 ac ar hyn o bryd mae’n arwain cwrs UAL Diploma Proffesiynol Lefel 4 mewn Perfformio (Cwmni Actio).
Yn ogystal â’i swydd yn ystod y dydd, mae wrth ei fodd y bydd cyfle ganddo nawr i gymhwyso ei wybodaeth, ei sgiliau a’i brofiad i helpu i lunio darpariaeth cymwysterau nawr ac yn y dyfodol.
“Dwi’n falch iawn o ymuno â grŵp o ddatblygwyr mor ymroddedig i archwilio meysydd creadigrwydd a gwella profiad myfyrwyr,” meddai Wyn. “Mae mor bwysig dod â dealltwriaeth o’r diwydiant, arbenigedd asesu a meddylfryd blaengar i addysg gelfyddydol. Felly dwi’n gyffrous iawn i ymuno â’r banc o ddatblygwyr allanol dan oruchwyliaeth y Tîm Datblygu Cymwysterau yn UAL a dwi’n edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr â nhw.”
Mae UAL yn dylunio ac yn dyfarnu cymwysterau creadigol sy’n grymuso ac yn ysbrydoli addysgwyr i helpu myfyrwyr i gyrraedd eu potensial. Mae’n cael ei reoleiddio gan Ofqual, CCEA Regulation a Cymwysterau Cymru ac ar hyn o bryd mae’n cynnig cymwysterau mewn celf a dylunio, ffasiwn, cyfryngau creadigol, cerddoriaeth a chelfyddydau perfformio a chynhyrchu.
Mae Datblygwyr Allanol Corff Dyfarnu UAL yn unigolion sydd ag arbenigedd pynciol a thechnegol e.e. mewn asesu neu ddylunio’r cwricwlwm ac maen nhw’n cefnogi gwaith y tîm Datblygu’r Cymwysterau o ran datblygu cymwysterau ac adnoddau newydd.