Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn hynod falch o noddi’r categori Elusen Eithriadol unwaith eto yng Ngwobrau Plentyn Cymru 2023.
Yn ddiweddar aeth y Cyfarwyddwr Sgiliau a Datblygu Busnes Paul Kift a Phennaeth Hyfforddiant GCS Bruce Fellowes i ginio arbennig i noddwyr i baratoi at y digwyddiad, a gynhelir ar 24 Mawrth yng Ngwesty Mercure Holland House, Caerdydd.
Mae hwn yn ddigwyddiad gwych sy’n cydnabod ymdrechion a chyflawniadau plant dewr, eu teuluoedd a’r elusennau sy’n eu cefnogi.
“Rydyn ni wrth ein bodd yn parhau i noddi’r wobr arbennig hon,” dywedodd Paul. “Heb os bydd hon yn noson arbennig iawn arall, yn llawn straeon am ddewrder, ysbrydoliaeth a charedigrwydd.”
Ch-Dde:
Mark a Blanche Sainsbury, sylfaenwyr Plentyn Cymru
Paul Kift, Cyfarwyddwr Sgiliau a Datblygu Busnes
Bruce Fellowes, Pennaeth Hyfforddiant GCS