Newyddion y Coleg
Tîm Peirianneg Coleg Gŵyr Abertawe yn ennill Dyluniad Gorau yn Krazy Races
Roedd canol dinas Abertawe yn byrlymu o gyffro ar Sul y Tadau wrth i Krazy Races gymryd drosodd y strydoedd. Y digwyddiad, a noddwyd gan Goleg Gŵyr Abertawe, oedd ras bocs sebon gyntaf Abertawe, lle gwelwyd cyfranogion mewn gwisg ffansi feiddgar ac yn chwyrlïo o gwmpas strydoedd y ddinas mewn certi geido a wnaed gartref.
Darllen mwy
Gweithdy Canolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin
Ar 12 Mehefin, gaeth myfyrwyr cyfryngau cyfle arbennig i gyd weithio gyda chwmni proffesiynol o'r enw Carlam sydd yn rhan o gymuned Yr Egin, Caerfyrddin i greu rhaglen byw ac yna ei ffrydio yn fyw.
Buont yn gweithio fel rhan o grŵp i gyflawni tasg o dan amodau amser penodol gan ddatblygu sgiliau ymchwilio, cynhyrchu a gwaith camera. Cawsant brofiad o gynllunio, ffilmio a golygu cynnwys promo gan ystyried yr elfennau gwahanol o greu rhaglen.
Darllen mwy
Art, Design and Photography Summer Shows - June 2023!
Ymunwch â ni am arddangosfa anhygoel o dalent a chreadigedd yn Arddangosfa Gelf yr Haf, yn cynnwys gwaith eithriadol dysgwyr Safon Uwch a Galwedigaethol Lefel 3 o Goleg Gŵyr Abertawe! Mae’r gyfres hon o arddangosfeydd yn rhoi llwyfan i’r genhedlaeth nesaf o artistiaid a dylunwyr fynegi eu safbwyntiau ar themâu a materion amrywiol.
Darllen mwy
Pennaeth y Coleg yn rhannu 10 tip adolygu ar gyfer cyfnod arholiadau di-straen
Mae cyfnod arholiadau wedi cychwyn ac mae pobl ifanc hyd a lled Abertawe yn ymgymryd ag arholiadau ac asesiadau terfynol ar gyfer cymwysterau TGAU, Safon Uwch a galwedigaethol.
Yn naturiol, mae cyfnod arholiadau yn gallu peri pryder i rai myfyrwyr a’u teuluoedd. Tra bo llawer yn dal i wella o sgileffeithiau’r pandemig, mae’n bwysig cydnabod bod straen iechyd meddwl a phryder yn normal, a gallwn ni gymryd camau i leddfu pryder.
Darllen mwy
Llwyddiant cenedlaethol i fyfyrwyr yn yr Urdd
Bu llwyddiant arbennig i’n myfyrwyr yn Eisteddfod yr Urdd Llanymddyfri yn wythnos diwethaf. Bu dros 60 o fyfyrwyr i gyd yn cystaldu mewn amrywiol gystadlaethau llwyfan a gwaith cartref. Coleg Gŵyr Abertawe oedd y coleg addysg bellach fwyaf llwydianus o’r holl golegau yng Nghymru eleni.
ROWND GENEDLAETHOL
Llun 2D Bl10 a dan 19 oed – 1af Lara Rees
Ffotograff wedi’i addasu Bl.10 a dan 19 oed – 1af Sam Sarsero | 2il Morgan Mason
Ffotograffiaeth: Llun Lliw Bl10 a dan 19 oed – 1af Steffan Thomas | 3ydd Archie Craven
Darllen mwy
Taith annisgwyl i Stryd Downing i fyfyrwyr
Yn ddiweddar, aeth ein myfyrwyr Safon UG Llywodraeth a Gwleidyddiaeth i Lundain lle gwelon nhw ambell i olygfa enwog iawn.
Roedd yn ddiwrnod llawn gweithgareddau. Gan gychwyn o Abertawe am 5.30am, ymwelodd y myfyrwyr â Goruchaf Lys y DU a mwynhau taith o gwmpas Whitehall.
Cawson nhw eu tretio hefyd i daith o gwmpas y Senedd gan gynnwys Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi. Cafwyd gweithdy ar wneud cyfreithiau ar ddiwedd y daith, wedi’i ddilyn gan sesiwn holi ac ateb gydag AS Gŵyr Tonia Antoniazzi.
Darllen mwy
Cyrsiau Mynediad i Addysg Uwch: agor llwybrau i addysg a llwyddiant gyrfa
Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, rydym yn falch o ddarparu amrywiaeth cynhwysfawr o gyrsiau Mynediad i Addysg Uwch (AU), gyda’r nod o rymuso unigolion 19 oed a hŷn gyda’r sgiliau a’r cymwysterau sydd eu hangen ar gyfer mynediad llwyddiannus i addysg uwch. P’un ai ydych yn ceisio dychwelyd i addysg ar ôl cael saib neu’n ystyried dechrau llwybr gyrfa newydd, mae ein cyrsiau Mynediad yn darparu’r sylfaen ddelfrydol ar gyfer eich taith addysgol!
Darllen mwy
Coleg Gŵyr Abertawe yn ennill gwobr Efydd Stonewall am fod yn gyflogwr blaengar a chynhwysol mewn perthynas â gweithwyr LGBTQ+
Mae gwobr efydd Stonewall yn cydnabod cyflogwyr eithriadol sydd yn ymrwymedig i gefnogi eu staff a’u cwsmeriaid LHDTC+. Canmolwyd Coleg Gŵyr Abertawe am weithio’n galed i greu gweithle lle gall weithwyr LHDTC+ fynegi eu hunain yn y gwaith. Mae Coleg Gŵyr Abertawe bellach yn rhan o restr helaeth o gwmnïau ym meysydd adeiladu, y gyfraith, iechyd, cyllid ac addysg sydd wedi ennill gwobr Efydd am gynnig gweithle cynhwysol i staff LDHTC+. Darllen mwy
Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd
Eleni mae’r Coleg wedi cymryd hran yn Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd sydd yn ffocysu ar wrth-hiliaeth.
Mae’r neges yn datgan nad oes lle i hiliaeth yn y byd, ac os ydym yn ei weld, rhaid Galw Nhw Allan.
Eleni crëwyd y neges gan fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd gyda'r cerddor Eädyth a Swyddog Cynnwys Addysg S4C, Natalie Jones. Mae'n alwad gan ieuenctid Cymru i weithredu’n uniongyrchol i:
Datgymalu camwahaniaethu systemig
Herio rhagfarnau diarwybod
Darllen mwy
Cwrs mynediad yn agor y drws i addysg uwch
Mae meddwl am ddychwelyd i fyd addysg ar ôl saib yn gallu bod yn ddychrynllyd ar y dechrau. Ond mae mwy a mwy o oedolion yn dychwelyd i’r ystafell ddosbarth i ddiweddaru eu sgiliau a rhoi hwb i’w rhagolygon gyrfa.
Dewisodd Cherene Napier astudio Mynediad i Fusnes a Gwasanaethau Ariannol yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, cwrs a fyddai, yn ei barn hi, yn ei helpu i gael cyfleoedd cyflogaeth mewn sefydliadau mwy o faint gyda mwy o botensial ar gyfer twf.
Darllen mwyPagination
- Previous page ‹‹
- Page 26
- Tudalen nesaf ››