Skip to main content

Wythnos Gymraeg yng Ngholeg Gŵyr Abertawe

Yr wythnos diwethaf, cynhaliodd Coleg Gŵyr Abertawe ei Wythnos Gymraeg flynyddol, gan annog ymgysylltu diwylliannol ymhlith myfyrwyr a staff, trwy weithgareddau sy’n dathlu diwylliant a thraddodiadau Cymru a’r iaith Gymraeg.

Cafwyd sesiynau clocsio egnïol gan y seren deledu Tudur Phillips, ac fe wnaeth myfyrwyr fwynhau’r ddawns Gymreig draddodiadol, gan feithrin ymdeimlad o falchder diwylliannol mewn ffordd modern.

Roedd y wisg ffansi Gymreig wedi ychwanegu fflach o liw i’r Coleg, wrth i fyfyrwyr a staff wisgo eu hetiau a’u baneri Cymreig yn ogystal â’u hetiau cennin gwirion! Gwych oedd gweld cynifer o bobl yn gwisgo i fyny ac yn cymryd hunluniau yn eu gwisgoedd hwyliog.

Yn cadw at y thema o Ddydd Gŵyl Dewi, roedd ‘Coeden Syniadau’ yn annog myfyrwyr a staff i rannu eu barn am ddywediad Dewi Sant sef ‘Gwnewch y pethau bychain’. Taniodd y fenter drafodaethau diddorol, gan dynnu sylw at weithredoedd caredig yn y gymuned. Yn ogystal, fe ychwanegodd y Pennaeth, Kelly Fountain, “byddwch yn garedig bob amser a thrin pobl eraill yn yr un ffordd y byddech chi’n disgwyl gael eich trin”.

Daeth y frenhines drag Gymraeg Catrin Feelings i mewn i ddarparu adloniant gyda’i chanu a’i hiwmor a swynodd y gynulleidfa. Cafodd ei chroesawi gan bawb ac roedd hefyd yn ffordd wych o orffen mis hanes LGBTQ+.

Cynhaliodd yr hanesydd Bethany Davies sesiynau gyda myfyrwyr Safon Uwch Saesneg ar gysylltiadau â barddoniaeth a diwylliant Cymru, gan ddod ag elfen addysgol i’r dathliadau. Fe wnaeth myfyrwyr a staff archwilio’r dreftadaeth a’r diwylliant sydd gan Gymru i’w cynnig.

Roedd bwyty’r Vanilla Pod yn llawn ar gyfer y noson o fwyd Cymreig, gyda phrydau bwyd traddodiadol yn cael eu cynnig. Mwynhaodd myfyrwyr gofal plant picau ar y maen yn eu dosbarth a hefyd wnaeth myfyrwyr busnes Hels Bakes dosbarthu cacennau bach i rannu trwy’r wythnos. Yn ogystal, roedd ffreuturau’r Coleg yn gweini cawl blasus ar Ddydd Gŵyl Dewi. Am ffordd wych o orffen Wythnos Gymraeg llwyddiannus.

Yr wythnos hon, bydd bagiau nwyddau’n cael eu rhoi i’r staff a’r myfyrwyr buddugol a atebodd y cwis dyddiol yn gywir.