Yn ddiweddar fe enillodd Coleg Gŵyr Abertawe wobr AoC am Ehangu Cyfranogiad yn Noson Wobryo Beacon Cymdeithas y Colegau.
Mae cannoedd o geisiadau’n cael eu cyflwyno o sefydliadau ledled y wlad bob blwyddyn, ac mae Gwobrau Beacon yn wobrau clodfawr tu hwnt ym maes addysg bellach. Mae’r digwyddiad wedi cael ei gynnal bob blwyddyn ers 29 o flynyddoedd.
Mae’r gwobrau yn gyfle i ddathlu arferion gorau a mwyaf arloesol colegau addysg bellach ac maent yn gydnabyddiaeth o’r effaith y mae colegau yn ei gael ar fyfyrwyr a’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.
Mae’r wobr Ehangu Cyfranogiad yn cydnabod ymrwymiad y Coleg i greu Prentisiaethau cefnogol a hygyrch i bawb. Cawsom ein canmol hefyd am ein dull rhagweithiol o nodi a chefnogi prentisiaid ag anableddau ac anghenion dysgu ychwanegol.
Mae’r ymdrechion penigamp hyn wedi arwain at gynnydd sylweddol yn nifer y prentisiaid ag anableddau, o 1.6% yn 2015 i 10% (141) yn 2022/2023.
Mae’r dull rhagweithiol rydym wedi rhoi ar waith yn cynnwys hyrwyddo’r cymorth cynhwysfawr sydd ar gael i ddysgwyr ag anableddau, amhariad ar eu synhwyrau, anghenion dysgu ychwanegol a chyflyrau iechyd sy’n cyfyngu ar amodau gwaith/byw. Yn ogystal, mae’r Coleg wedi meithrin rhwydweithiau cymorth ledled y wlad, gan gynnig asesiadau sy’n agos yn ddaearyddol at y prentis a’i gyflogwr.
Wrth drafod y cyflawniad hwn, dywedodd Kelly Fountain, Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe: “Rwy’n falch iawn o ymagwedd ymroddgar ac arloesol ein tîm wrth greu a darparu Prentisiaethau i Bawb, rhaglen sydd wedi cyfoethogi profiadau dysgu ein prentisiaid.
“Mae ennill gwobr Beacon yn cydnabod ein hymrwymiad di-os i feithrin amgylchedd cynhwysol lle mae pob unigolyn yn cael cyfle i ffynnu. Mae’r cyflawniad hwn yn adlewyrchiad o’n hysbryd cydweithredol i gynhyrchu llwyddiant mewn perthynas â’n prentisiaid, cydweithwyr cefnogol a’n partneriaethau amhrisiadwy gyda chyflogwyr a Llywodraeth Cymru.”
Dywedodd Paul Kift, Cyfarwyddwr Sgiliau a Datblygu Busnes, Coleg Gŵyr Abertawe: “Rydw i wrth fy modd ein bod wedi ennill Gwobr Beacon am yr ail flwyddyn yn olynol. Braint oedd ennill Gwobr ym maes Rhyngwladoldeb yn 2023, ac rydym wedi adeiladu ar hyn trwy ennill y Wobr Ehangu Cyfranogiad eleni.
“Rydw i’n falch iawn o’n prentisiaid gwych a holl waith caled a chymorth fy nghydweithwyr - fe wnaethon nhw ymgymryd â phroses asesu hirfaith er mwyn ennill y wobr hon. Hoffwn dynnu sylw arbennig at ymrwymiad ein cyflogwyr-bartneriaid am bwysleisio pwysigrwydd amrywiaeth o fewn eu gweithlu. Mae wedi bod yn ymdrech wych ar y cyd, felly diolch a llongyfarchiadau i bawb a gymerodd rhan.’
Ychwanegodd Rachel Jones, Cyfarwyddwr Dysgu Seiliedig ar Waith Coleg Gŵyr Abertawe: “Mae’r rhaglen hon wedi rhoi hwb i gyfraddau recriwtio a llwyddiant ein prentisiaid ag anableddau neu anghenion dysgu ychwanegol. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl oni bai am waith caled ein staff, partneriaid a phrentisiaid ymroddedig.
“Mae’r wobr yn amlinellu effaith trawsnewidiol prentisiaethau ac yn sicrhau bod pawb yn gallu ffynnu. Yn ystod yr asesiad, siaradodd yr aseswr Beacon â myfyrwyr o Gampfeydd Warws, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Cyngor Abertawe, Tata Steel ac Asiantaeth Cyflogaeth â Chymorth Elite. Yn ogystal, fe wnaethon nhw siarad â’n partneriaid cynghori arbenigol Raising Standards ac Ymgynghorydd Diogelu a Dyslecsia Sir Benfro.”
“Mae’n adlewyrchiad o’n hymrwymiad i wella cyfleoedd ymhellach ar gyfer grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ac mae’n gyfle i gynnal trafodaethau â chyflogwyr a rhanddeiliaid sy’n meddu ar yr un meddylfryd â ni.”
Wrth siarad am y buddugwyr, dywedodd Mark White, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Elusennol AoC: “Mae gwobrau Beacon yn dangos yn union pam mae colegau mor bwysig i bob cymuned a pham mae pobl yn eu gwerthfawrogi cymaint. Mae’r wobr hon yn cydnabod enghreifftiau o addysgu a dysgu ymarferol rhagorol. Mae gwaith y coleg buddugol yn dangos pa mor bwysig mae colegau o ran darparu sgiliau angenrheidiol i fyfyrwyr fel y gallant baratoi ar gyfer y byd go iawn.”