Newyddion y Coleg
Cymorth wedi’i deilwra wrth galon cwricwlwm Coleg Gŵyr Abertawe
Wrth fynd i’r afael â chamsyniadau hen ffasiwn, fe wnaeth Mark Jones, pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe, nodi sut a pham mae colegau wedi rhoi pwyslais ar wneud yn siŵr bod cymorth wedi’i deilwra ar gael i bob myfyriwr.
Darllen mwyDiwrnod Lles 2022
Yn ddiweddar, cynhaliodd Coleg Gŵyr Abertawe ei Ddiwrnod Lles blynyddol, lle cafodd staff y cyfle i fwynhau ystod eang o sesiynau gwahanol megis gweithdai, sesiynau ffitrwydd a dosbarthiadau ymlacio.
Dyma’r Diwrnod Lles wyneb yn wyneb cyntaf ers 2019, a mwynhaodd ein staff ddod at ei gilydd i ymgymryd â gweithgareddau tîm. Fe wnaeth dros 400 aelod o staff gymryd rhan yn y digwyddiadau ar draws pob campws.
Darllen mwyDathlu artistiaid dawnus y Coleg
Mae rhai o ddysgwyr mwyaf talentog Coleg Gŵyr Abertawe wedi cystadlu yng Ngwobr Celf y Pennaeth, menter newydd sydd ar agor i’r rhai sy’n astudio pynciau creadigol ar Gampws Gorseinon a Champws Llwyn y Bryn.
Enillodd y myfyriwr Sylfaen Celf a Dylunio, Karen Woods, wobr aur am ei darn pensil pastel meddylgar o’r enw Plentyn o Ethiopia.
Yn seiliedig ar gyfarfod go iawn gyda’r ferch fach, dywedodd Karen: “Roeddwn i’n hoffi ei gwȇn hi a’r cynhesrwydd yn ei llygiad. Roedd hi’n berchen ar y nesaf peth i ddim ond roedd hi’n hapus ac yn annwyl iawn.”
Saith o ddysgwyr Coleg Gŵyr Abertawe ar fin cystadlu yn Rownd Derfynol Genedlaethol Worldskills UK
Mae 130 o gystadleuwyr o Gymru wedi cyrraedd rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills UK a fydd yn cael ei cynnal fis Tachwedd, ac mae saith o'r rhain o Goleg Gŵyr Abertawe.
Mae’r cyhoeddiad yn dilyn cyfres o gystadlaethau rhanbarthol a gynhaliwyd ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, gyda chriw o bobl ifanc dalentog.
Y dysgwyr o Goleg Gŵyr Abertawe yw:
Sgiliau Sylfaenol: Gwasanaethau Bwyty
Leon Dyddiad Cai Groom Llywelyn BowmerDylunio Graffeg
Darllen mwyTîm Adnoddau Dynol y Coleg yn cipio tair gwobr fawr
Mae tîm Adnoddau Dynol Coleg Gŵyr Abertawe wedi ennill tair gwobr yn nigwyddiad nodedig Gwobrau AD Cymru 2022.
Mewn seremoni fawreddog yng Nghaerdydd ar 8 Gorffennaf, enillodd y tîm y tlysau canlynol:
Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Orau
Menter AD Orau
Seren AD (Sarah King)
Roedd y tîm hefyd wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categorïau canlynol:
Noson o ddathlu - Gwobrau Myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe 2022
Roedd llawer o resymau i ddathlu yn nigwyddiad Gwobrau Myfyrwyr 2022.
Am y tro cyntaf ers y pandemig byd-eang, roedd y Coleg yn gallu cynnal seremoni wobrwyo wyneb yn wyneb i ddathlu llwyddiannau a chyflawniadau ei fyfyrwyr a’i staff.
A lle gwell i gynnal y digwyddiad na lleoliad mwyaf newydd y ddinas – Arena Abertawe.
Helpu i achub bywydau gyda data diolch i’r Coleg
Mae cariad at ddata yn helpu un o gyn-fyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe i chwarae rhan annatod yn y GIG, ar ôl i’w choleg ei chynorthwyo i ddilyn prentisiaeth ddelfrydol er gwaethaf yr heriau a ddaeth yn sgil y pandemig.
Mae Laurice Keogh (19) o Gasllwchwr, Abertawe, wedi bod â’i bryd ar yrfa mewn data ers pan oedd yn ifanc. Heddiw, mae’r awydd hwnnw wedi arwain at ddechrau gyrfa fel prentis gydag Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC), gan helpu i newid y ffordd y caiff gwasanaethau iechyd a gofal eu darparu.
Darllen mwyStaff yn cael eu cydnabod Yng Ngwobrau Gwasanaeth Hir y Coleg
Cafodd staff o Goleg Gŵyr Abertawe eu gwahodd yn ddiweddar (dydd Gwener 10 Mehefin) i ddigwyddiad dathliadol arbennig iawn yn stadiwm Swansea.com.
Mae’r digwyddiad blynyddol yn cael ei chynnal i gydnabod diolch aelodau o staff sydd wedi gweithio i’r Coleg ers dros 20 mlynedd.
Derbyniodd darlithwyr, rheolwyr a staff cymorth busnes ar draws y coleg anrhegion personol, cyn mwynhau te prynhawn.
Cafwyd adloniant i groesawu staff gan Nia Jenkins, telynores leol, a chafodd myfyrwyr dawnus Celfyddydau Perfformio Lefel 3 a 4 cyfle i ganu, i agor y seremoni yn swyddogol.
Darllen mwySeremoni Graddio Ryngwladol – Dosbarth 2022
Bu’n ddiwrnod o ddathlu ar 18 Mai wrth i’n myfyrwyr rhyngwladol yr ail flwyddyn ymgasglu yn Ysgol Fusnes Plas Sgeti.
Daeth myfyrwyr o bedwar ban byd, o wledyddd fel Tsieina, Yr Eidal, Cambodia a Chorea, at ei gilydd ar gyfer cinio a seremoni graddio.
Darllen mwyChris Brindley MBE yn cyflwyno dosbarth meistr arweinyddiaeth a rheolaeth yng Ngholeg Gŵyr Abertawe
Yr wythnos hon (dydd Mercher 25 Mai) bydd Ysgol Fusnes Plas Sgeti yn croesawu Chris Brindley MBE i gyflwyno dosbarth meistr arweinyddiaeth a rheolaeth.
Bydd dysgwyr cyrsiau HND a BA Rheoli Busnes a’r rhai sy’n astudio cyrsiau rheoli proffesiynol yn bresennol yn nosbarth meistr cyn-reolwr gyfarwyddwr Metro Bank.
Darllen mwyPagination
- Previous page ‹‹
- Page 25
- Tudalen nesaf ››