Nododd prom hirddisgweliedig Coleg Gŵyr Abertawe - a gynhaliwyd ym Mhafiliwn Patti - ddiwedd perffaith i’r tymor. Dawns ‘Fasgiau’ oedd thema’r noson ac fe wnaeth y myfyrwyr wneud y mwyaf o’r cyfle trwy wisgo dillad trwsiadus a masgiau llygaid chwaethus.
Roedd y digwyddiad - a oedd yn gwbl haeddiannol ar ôl sawl blwyddyn o waith caled ac ymroddiad - yn un i’w gofio, gyda cherddoriaeth, dawnsio a bwyd Indiaidd blasus. Cyn gynted ag agorwyd y drysau, fe wnaeth yr awyrgylch drydanol annog y myfyrwyr i anelu’n syth at ganol yr ystafell i ddechrau dawnsio.
Cafodd y gwesteion gyfle i fwynhau tri chwrs o fwyd Indiaidd hyfryd, gan adennill eu hegni er mwyn parhau i ddawnsio. O samosas blasus i gyris persawrus, roedd rhywbeth at ddant pawb.
Wrth adlewyrchu ar y noson, dywedodd Jamil Ahmed - Llywydd yr Undeb Myfyrwyr a threfnydd y prom - “Dyma’r ail dro yn unig i Undeb Myfyrwyr y Coleg drefnu prom a chroesawyd dros 200 o fyfyrwyr i Bafiliwn Patti i ddathlu diwedd blwyddyn rhyfeddol.”
"Roedd y prom yn cynnwys goleuadau llachar, DJ, pryd Indiaidd tri chwrs, a thema ‘fasgiau’ hyfryd. Braf oedd gweld pawb yn gwneud y mwyaf o’r thema!!"
Hefyd, fe wnaeth Jamil, a fydd yn mynd i’r Brifysgol ym mis Medi, sôn am ei gyfnod fel Llywydd Undeb y Myfyrwyr, “Mae fy nghyfnod fel Llywydd Undeb y Myfyrwyr wedi bod yn wych, ac roedd y prom yn gyfle hyfryd i grisialu blwyddyn wych a bythgofiadwy."
Roedd adborth y myfyrwyr a fynychodd y noson yn wych, ac fe wnaeth y digwyddiad rhagori ar yr holl ddisgwyliadau.
Mynegodd Joshua Jordan, Arweinydd Ymgysylltu â Dysgwyr a Datblygiad Personol, ei falchder o ran cyflawniadau’r myfyrwyr a chanmolodd yr Undeb Myfyrwyr am eu hymdrechion wrth drefnu digwyddiad gwych. “Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol, a braf oedd gweld dysgwyr yn dathlu diwedd eu hastudiaethau,” meddai. “Rhaid hefyd canmol Jamil, Llywydd Undeb y Myfyrwyr, am drefnu lleoliad, thema a bwydlen. Roedd yn berffaith."
Ewch i dudalen Facebook Patti Pavilion i weld lluniau o’r noson.