Cyfrifon Cyfrifiadurol Lefel 2 - Agored Cymru
Trosolwg
Mae’r cwrs Lefel 2 hwn yw gyflwyniad i feddalwedd cyfrifon cyfrifiadurol i’r rhai sy’n gweithio, neu sydd am weithio, mewn rôl cyfrifeg.
Manylion astudio
Gwaith cyfrifiadurol ymarferol sy’n cyfuno theori a chyfrifon cyfrifiadurol ymarferol gan gynnwys:
- Postio i gyfrifon
- Cynnal cyfriflyfrau
- Prosesu dogennau gwerthu a phrynu
- Ffurflenni TAW
- Cyfrifon elw a cholled
- Mantolenni prawf
- Mantolenni
- Cysoniad banc
- Trafodion arian mân
- Cwblhau ac argraffu anfonebau cwmni ac ati.
Gwybodaeth allweddol
Yn ddelfrydol, dylai myfyrwyr feddu ar un neu ddwy radd A-C ar lefel TGAU ond mae synnwyr cyffredin a dawn am rifau ac amcangyfrif yn fwy pwysig. Ar agor i fyfyrwyr o bob oedran.
15 awr o addysgu rhan-amser dros bum wythnos:
Bob nos Fawrth (6-9pm) yn Ysgol Fusnes Plas Sgeti
Asesu:
- Asesiadau parhaus drwy gydol y cwrs
- Asesiad terfynol
- Dim arholiadau ffurfiol.
Cyfle i symud ymlaen i gyrsiau Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu mewn Cyfrifeg.
Mae’r cwrs hefyd yn darparu cymhwyster y mae cyflogwyr yn chwilio amdano.
Mae ffioedd cwrs yn berthnasol. Prisiau ar gael ar gais.
Ffôn: Tîm Cyfrifeg 01792 284097