Cadw Cyfrifon - Cymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu (AAT) Tystysgrif
Trosolwg
Mae AAT - Tystysgrif mewn Cadw Llyfrau yn gymhwyster byr sy’n darparu sylfaen drylwyr mewn cadw cyfrifon ac arferion cyfrifyddu sylfaenol, gan gynnwys cofnodi dwbl. Mae’n berffaith i’r rhai sydd â gallu naturiol gyda rhifau neu eisoes yn gweithio ym maes cyllid ac yn edrych i ategu hyn gyda chymhwyster. Gyda’r cymhwyster cadw llyfrau hwn ar eich CV, byddwch mewn sefyllfa berffaith i archwilio’r opsiynau gyrfa rydych chi wedi bod eisiau erioed, naill ai fel rhan o adran gyllid cwmni mwy neu fel gweithiwr proffesiynol annibynnol.
Mae unedau’n cynnwys:-
Cyflwyniad i Gadw Cyfrifon
Mae’r uned yn cynnwys: - deall trafodion ariannol mewn system cadw cyfrifon, prosesu trafodion cwsmeriaid, prosesu trafodion cyflenwyr, prosesu derbynebion a thaliadau, prosesu trafodion trwy’r cyfriflyfrau i’r fantolen brawf, prosesu trafodion drwy’r cyfriflyfrau.
Egwyddorion Rheolaethau Cadw Cyfrifon
Mae’r uned yn cynnwys: - deall dulliau talu, deall rheolaethau mewn system cadw cyfrifon, defnyddio cyfrifon rheoli, defnyddio’r dyddlyfr, cysoni datganiad banc â’r llyfr arian, cynhyrchu mantolenni prawf.
05/07/23
Gwybodaeth allweddol
Addysgir y cwrs wyneb yn wyneb yn yr ystafell ddosbarth gan aelodau o staff cymwysedig a phrofiadol.
Asesiadau ar-lein yw’r arholiadau.
Bydd myfyrwyr yn gallu symud ymlaen a chwblhau cymhwyster llawn AAT Lefel 2, dechrau AAT Lefel 3 neu ymuno â’n cwrs newydd AAT Cadw Cyfrifon Lefel 3.
Mae’r cwrs hefyd yn darparu cymhwyster y mae cyflogwyr yn chwilio amdano.
Gofynnwch am ragor o fanylion ynghylch opsiynau cyllid.