Skip to main content

Cyflogres Gyfrifiadurol Lefel 2 - Tystysgrif

Rhan-amser
Lefel 2
AGORED
Sketty Hall
Pump wythnos

Ffôn: 01792 284097   E-bost: accountancy@gcs.ac.uk

Trosolwg

Nod y cwrs Lefel 2 hwn yw eich cyflwyno i becynnau meddalwedd cyflogres gyfrifiadurol yn y DU.

Manylion astudio

Gwaith cyfrifiadurol ymarferol sy’n cyfuno theori a chyflogres gyfrifiadurol ymarferol gan gynnwys:

  • Cynhyrchu slipiau cyflog
  • Mewnbynnu manylion staff
  • Newidiadau i gyfraddau treth, cyfraddau yswiriant gwladol, SMP, SSP, SPP, SAP
  • Cynllunwyr gwyliau
  • Cynlluniau pensiwn
  • Amrywiadau ar gyflogres gan gynnwys goramser, bonysau, comisiynau, treuliau
  • Ffurflenni P11, P32, P35, P45, ac ati
  • Cyfrifiadau diwedd blwyddyn a llenwi ffurflen CThEF. 

Gwybodaeth allweddol

Yn ddelfrydol, dylai myfyrwyr feddu ar un neu ddwy radd A-C ar lefel TGAU ond mae synnwyr cyffredin a dawn am rifau ac amcangyfrif yn fwy pwysig. Ar agor i fyfyrwyr o bob oedran.

Asesu:

  • Asesiadau parhaus drwy gydol y cwrs
  • Dim arholiadau ffurfiol.

Mae’r cwrs yn darparu cymhwyster y mae cyflogwyr yn chwilio amdano a gall arwain at gyflogaeth fel:

  • Swyddog gweinyddol cyflogres
  • Swyddog gweinyddol adnoddau dynol a chyflogres.

Off